Main content

Parch i ddyfarnwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mewn wythnos a welodd ganlyniadau annisgwyl ar hyd a lled Ewrop, anodd ydi penderfynu ble oedd y syndod mwyaf! Roma yn dympio Barca allan o Gynghrair Ewrop, Real Madrid yn baglu ar y Bernabeu cyn i'r dyfarnwr godi nyth cacwn a rhoi achubiaeth iddynt, Arsenal yn trio eu gorau i daflu gem i ffwrdd ym Moscow cyn ail benderfynu yn yr ail hanner, neu Manchester City yn gaddo llawer, a chael eu siomi gan ddyfarnwr, cyn i Mo Salah roi terfyn ar bopeth, ac atgoffa ni gyd fod Lerpwl hefyd ar daith ar hyd y Cyfandir.

Ond yn ôl at Real Madrid ac ar ein pennau i'r Bernabeu.

Gianluigi Buffon, golwr Juventus gafodd y sylw ym Madrid (Ronaldo wrth gwrs oedd y gwaredwr) ond wedi i’r dyfarnwr Michael Oliver roi cic o'r smotyn i Real yn eiliadau olaf y gêm, agorwyd llifddorau uffern wrth i bron i holl aelodau tîm Juve “ruthro ac anrheithio “ o’i gwmpas gan “fonllefain, gweiddi, ochain, tyngu, rhegi a chablu” yn ei wyneb (ble fyddai'r byd pêl droed heb Elis Wynne? Gohebydd cyntaf y gem?!).

Digon oedd digon i Mr Oliver, a doedd yr Lover yma ddim am ofyn am chwaneg - felly ymaith Buffon, a cherdyn coch i un o hoff sêr y gêm yn yr Eidal.

Pam Fi Duw ? - oedd ymateb y golwr, ymysg pethau eraill, a dim parch i Oliver druan oedd erbyn hyn yn dal ei dir yn wyneb protestiadau a oedd erbyn hyn yn ei amgylchynu fel “ffrio ffair, ffrwst a ffrwgwd “ (diolch Elis unwaith eto).

Ond, tawel fu’r feirniadaeth am ymosodiad (a dyna be’ oedd hi) Medhi Benatia's ar Lucas Vazquez yng ngheg y gôl, ac a arweiniodd at y gic o’r smotyn - heb hyn, a heb y drosedd ni fyddai bedlam wedi bodoli yn y Bernabeu!

Emosiwn yr Eidalwyr yn ceisio cyfiawnhau troseddu?

O bosib - per favore, signore, per favour

Ond, draw ym Manceinion y flwyddyn ddiwethaf, penderfynodd dyfarnwr ifanc deunaw oed, Ryan Hampson, drefnu streic ar ran dyfarnwyr amatur, fel protest yn erbyn y troseddu a’r gamdriniaeth oedd dyfarnwyr yn ei dderbyn ar hyd a lled caeau'r ardal mewn gemau amatur.

Sefydlwyd llinell gymorth (Ref Support UN) i gynnig cefnogaeth a does ond obeithio fod hyn wedi arwain at well ymddygiad ac yn fwy byth at fagu gwell parch at ddyfarnwyr yn yr ardal yna o Fanceinion.

Ond, er cymaint y gall y byd pêl droed gydymdeimlo gyda Buffon a'i griw, a hwyrach efo Pep Guardiola y noson flaenorol, wrth geisio cael ei ben dros y ffaith nad oedd gol Leroy Sane am gael ei chaniatáu, tydi torcalon ddim yn esgus i fethu a pharchu dyfarnwr. Mae angen i sêr y byd pêl droed ddangos esiampl well na'r hyn a wnaeth Guardiola a Buffon yr wythnos yma wrth wrthdaro efo’r dyfarnwyr

“Tydach chi ddim yn deall yr emosiwn ar lefel ucha’r gem fyddai’r ymateb”, gan ddilyn hyn efo rhywbeth fel “ac ar ba lefel fuoch chi yn chwarae?”

Hwyrach y dylai Buffon a Guardiola fynd i ddyfarnu gemau ar fore Sul ar gaeau mwdlyd Manceinion, a dod i ddeall yn well sut mae emosiwn yn rhedeg allan o bob rheolaeth ar y penwythnos ar gaeau cyhoeddus y ddinas.

Hwyrach, yn sgil hyn y gallant ddod i fagu fwy o barch tuag at y dyfarnwyr sydd yn dioddef yn ddi-angen yn sgil eu cariad at y gêm.

Mwy o negeseuon

Blaenorol