Main content

Mecsico v Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

‘California Dreaming’?

Ydych chi wedi prynu’ch ticedi teithio a gwneud trefniadau i fynd i Los Angeles i weld Cymru yn chwarae Mecsico?

Os ydych, dechreuwch chwysu!

Mae chwaraewyr Mecsico wedi bygwth mynd ar streic, a gwrthod chwarae dros eu gwlad yn erbyn Yr Alban yn Ninas Mecsico ar Fehefin 2il, yn dilyn y gêm yn erbyn Cymru yng Nghaliffornia ar yr 29ain o Fai.

Mae ffrae wedi codi yn sgil trefn unigryw Mecsico o drosglwyddo chwaraewyr ar ddiwedd eu cytundeb gyda chlybiau, rhyw ‘Gytundeb rhwng Cyfeillion’ (Gentlemen's Pact) yn ôl yr awdurdodau, ond d’oes dim yn foneddigaidd yn yr hyn sy’n debygol o ddigwydd.

Ymddengys, yn ôl y cytundeb “cwrtais” yma, nad oes gan unrhyw chwaraewr yr hawl i ddewis ei glwb nesaf ar ôl i gyfnod ei gytundeb gyda'i glwb presennol ddod i ben. Yn hytrach, mae rhaid i'r clwb newydd daro bargen gyda’r cyn clwb, fel petai’r chwaraewr yn parhau i fod yn gysylltiedig â’i gyn clwb, yn hytrach na bod yn rhydd i wneud yr hyn a fynno (fel ym mhob gwlad arall ar draws y byd pêl droed).

Os na fydd yna gytundeb rhwng y ddau glwb hyd yn oed os yw’r chwaraewr yn chwarae dramor, er enghraifft Javier ‘Chicharito’ Hernandez sydd gyda West Ham, yna fydd dim yn digwydd, ac fe all y chwaraewr fod heb dîm am o leiaf chwe mis! A tydi llais y chwaraewr ddim hyd yn oed yn cael ei ystyried!

Dadl y chwaraewr ydi eu bod yn mynnu y dylent gael yr un hawl a phawb arall, gan gredu fod y drefn bresennol o fewn eu gwlad yn groes i reolau FIFA..

Cynhaliwyd cyfarfod yr wythnos yma rhwng Cymdeithas Bel Droedwyr Proffesiynol Mecsico, penaethiaid y gynghrair genedlaethol (Liga MX), a swyddogion Cymdeithas Bel Droed Mecsico, gan fethu a dod i unrhyw fath o benderfyniad neu ddatrysiad.

Yn sgil hyn, fe gadarnhaodd cadeirydd Cymdeithas y Pel Droedwyr,

Alvaro Ortiz mai un o’r opsiynau dilynol, oedd gwrthod chwarae yn y gemau cyfeillgar yn erbyn yr Alban a Chymru.

D’oes ond obeithio y bydd datrysiad i’r holl beth cyn diwedd mis Mai.

Gyda chefnogwyr Cymry yn barod i wireddu eutaith ar y Sloop John B wrth droi yn rhyw ‘Beach Boys’ am wythnos yn yr haul yng ngwres LA, does ond obeithio y bydd yna ryw ‘Good Vibrations’ rhwng y cymdeithasau rhwng ‘r诺an a hynny, gan sicrhau y bydd yna gem i’w gweld, ia ‘Wouldn’t It Be Nice’ !

‘ I Get Around’? does ond obeithio, ond ‘God Only Knows’ ydi hi ar hyn o bryd !

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Taith Leeds Utd i Myanmar