Main content

Dyfodol Abertawe

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda bwrdd cyfarwyddwyr Abertawe yn penderfynu na fyddant yn adnewyddu cytundeb Carlos Carvalhal, y rheolwr, ar ôl diwedd y tymor yma, ac Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr yn galw am i’r Cadeirydd, Huw Jenkins, gael ei ryddhau o’i swydd, rhaid gofyn be’ sydd nesaf i’r Elyrch?

Llwyddodd y clwb, o dan reolaeth Brendon Rodgers i gyrraedd Uwch gynghrair Lloegr ar gyfer tymor 2011/12 gan osod safon newydd, uchel a deniadol nas gwelwyd ar y Liberty o'r blaen (ac eithrio o bosib tîm John Toshack ar gychwyn yr wyth degau).

Ond, ar ôl crafu i aros yn yr uwch gynghrair y llynedd, bydd angen gwyrth brynhawn Sul os yw'r Elyrch am osgoi llithro yn ôl i'r Bencampwriaeth.

Draw yn sir Gaerhirfryn, mae Wigan Athletic, wedi llwyddo i ddringo yn ôl i'r Bencampwriaeth , hyn ar ôl gweld eu hunain yn disgyn allan o’r Uwch gynghrair yn 2013, ac yna yn disgyn i Adran Un yn 2015 cyn llwyddo i ail drefnu eu hunain, gyda chadeirydd newydd ac ennill coron yr Adran eleni.

Tua 300,000 ydi poblogaeth tref Wigan a’r ardal gyfagos, poblogaeth debyg iawn i ddinas Abertawe a’r cylch.

Tebyg iawn hefyd ydi eu hanes ac mae rhywun yn rhyw feddwl y gallai Abertawe dilyn yr un daith a ddilynwyd gan Wigan Athletic cyn gallu ail drefnu eu hunain i'r fath raddau i hoi cynnig arall ar chwarae yn yr Uwch gynghrair. Hynny wrth gwrs os aiff pethau yn eu herbyn y pen wythnos yma, ac fe fydd angen gwyrth pêl droedaidd os nad yw’r hyn sy’n anochel am gael ei wireddu !

Dyfodol bregus o bosib - cwympo eto cyn ail atgyfodi?

Digon bosib

Mwy o negeseuon

Nesaf