Ar ddechrau’r tymor, fe gawsom drafodaeth ar Ar y Marc yngl欧n â gobeithion timau Cymru eleni.
Wrth drafod Wrecsam, anodd oedd gosod unrhyw farn glir a rhagolwg gan fod yna rhyw batrwm neu gylchedd parhaus yn ymddangos fel petai wedi sefydlu’i hun ar y Cae Ras.
Sail y sgwrs oedd rhywbeth fel hyn:-
Tîm newydd o dan reolwr a gafodd ei benodi cyn diwedd y tymor blaenorol er mwyn adnabod sut i fynd ati i gryfhau’r tîm ac anelu at ddyrchafiad.
Aros am ganlyniadau sy’n dangos fod y clwb ar y ffordd i gyrraedd eu nod, ac os fydd hyn yn cael ei wireddu, gobeithio na fydd y tîm yn baglu ar ôl y Nadolig
Neu, os nad yw pethau yn ymddangos yn ffafriol erbyn diwedd mis Medi, meddwl am gael rheolwr newydd, a rhoi amser iddo ail greu tîm a fyddai yn llwyddiannus er mwyn gwneud ymdrech am ddyrchafiad y tymor dilynol.
Ac felly mae pethau wedi bod yno ers peth amser.
A dyma ni, ar ddiwedd mis Medi, ac mae’r rheolwr presennol, Bryan Hughes wedi 'ymadael.
Felly mae’r cylchedd yn parhau i droi a hyn er waethaf ymdrechion Dean Keates, Graham Barrow, Sam Ricketts a rwan Bryan Hughes.
Felly, pwy fydd y nesa' i geisio rheoli clwb, sydd yn ôl sylwadau rhai o sylwebwyr barn ar y cyfryngau cymdeithasol, yn cael ei alw yn “glwb na ellir ei reoli?”
Datganiad eithafol efallai, ond os felly be’ ydi’r sail i honni hyn?
Ond, yna pwy sydd am afael yn yr awennau ansicr yma?
Enw sydd wedi cael ei grybwyll yn barod gan gefnogwyr ydi rhoi ail gyfle i Dean Keates wedi iddo reoli Walsall am gyfnod ar ôl ymadael a Wrecsam, cyfnod nad oedd yn un llwyddiannus iawn.
Neu, a yw’r clwb yn fodlon cydnabod cyflawniadau Andy Morrison, rheolwr Cei Connah, yn y Cymru Premier?
Fe allent wneud llawer gwaeth na throi i'rcyfeiriad yna wrth chwilio am y rheolwr nesaf, yn sgil campau Cei Connah a Morrison, wrth iddynt guro Kilmarnock eleni, a chyrraedd ffeinal Cwpan Her yr Alban y llynedd)
Hawdd yw anghofio fod Morrison yn dipyn o arwr yn Manchester City yn dilyn ei gyfnod yno beth amser yn ôl, ac mae ganddo gystal gwybodaeth a dealltwriaeth ac unrhyw un o ddisgwyliadau bywyd pêl droed proffesiynol.
Hwyrach nad yw ei arddull o chwarae at ddant pawb, ond mae un un effeithiol
Felly be’ sydd ei angen ar hyn o bryd ar y Cae Ras?
Yn ôl y selogion gyda rhai y bûm yn trafod patrwm chwarae'r tîm , mae yna arddull a phatrwm chwarae twt a thaclus ynghanol cae, ond aneffeithiol wrth ymosod, a’r camgymeriadau yn niferus wrth amddiffyn.
Ar y llaw arall, a ddylid anghofio breuddwydio am y perffeithrwydd, a dod i dderbyn fod angen mabwysiadu pêl droed llai deniadol ei natur yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr, ond yn un a all arwain at ganlyniadau mwy llwyddiannus?
Hwyrach mai dyma'r amser i Wrecsam gydnabod bod gan Uwch gynghrair Cymru rhywbeth i'w gynnig, a hynny yn syllu arnynt o dan eu trwynau!