Main content

Wrecsam yn diswyddo Gary Mills

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda’r newydd yr wythnos yma fod Wrecsam wedi diswyddo eu rheolwr Gary Mills, rhaid gofyn be’ nesa’?

Cafwyd perfformiad siomedig arall oddi cartref yn Tranmere Sadwrn diwethaf sydd wedi eu gadael yn y pymthegfed safle a dim ond naw pwynt yn glir o safle’r timau hynny fydd yn disgyn allan o’r gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Fel pob tymor ers iddynt ddisgyn yn allan o Adran Dau, rhyw deimlad nad yw Wrecsam yn perthyn i’r gynghrair yma oedd ym mlaen meddyliau llawer o'u cefnogwyr ac roedd y gobaith o orffen ymysg y pump uchaf erbyn diwedd y tymor yma yn uchel yn yr haf.

Ond, yn sgil y penderfyniad o gael gwared â Mills, mae rhywun yn gofidio fod y clwb yn ofni y byddai’r dyhead yma yn dod yn frawychus o wir! Na, nid drwy ennill dyrchafiad, ond drwy obeithio na fydd y clwb yn gorffen y tymor ymysg y pump isaf a hwyrach wynebu brwydr rhag disgyn i lawr i’r adran is!

Dim ond un gôl ar ddeg maent wedi ei sgorio hyd yn hyn, gydag ond North Ferriby a Southport, sydd ymysg y pedwar isaf, wedi sgorio llai!

A dim ond wyth sydd tîm wedi ildio mwy o goliau na Wrecsam, ac mae saith o rheini yn y saith safle isaf.

Ymddengys nad oedd y clwb mewn sefyllfa i gynnig cytundebau hir amser i'w chwaraewyr gorau dros yr haf, ac fe welwyd y rhan fwyaf o rheini yn symud i dimau eraill.

Fodd bynnag, er bod y rheolwr wedi gallu arwyddo deunaw o chwaraewyr newydd, ar gytundeb tymor byr, a chadw ond tua thri, mae rhaid gofyn i ba raddau mae sefyllfa ariannol y clwb yn effeithio ar yr hyn a ellir ei wario, ac felly ar y canlyniadau a gwir obeithion dyrchafiad.

Os yw’r gronfa ariannol yn cyfyngu'r math o chwaraewyr y gall Wrecsam eu harwyddo, hwyrach mai dyma'r gorau y gellir ei ddisgwyl ac anheg ydi beirniadu’r rheolwr, heb son am ei ddiswyddo, ac mai aros yn y gynghrair yn hytrach na thrio ennill dyrchafiad ydi’r realiti'r sefyllfa bresennol !

Drwy edrych ar drefn a chyllid y timau sydd wedi codi o'r gynghrair yn y gorffennol, ymddengys fod ganddynt drefn addas i ariannu eu hymdrechion.

Os felly, ac er waethaf trefn Wrecsam drwy gyd weithrediad y cefnogwyr, a sicrhaodd fod yna glwb yn parhau ar y Cae Ras, hwyrach fod angen mewnbwn ychwanegol, ac allanol, o rywle os am geisio byw'r freuddwyd o ail ymuno gydag Adran Dau!

Nid beirniadaeth o waith y cefnogwyr mo hyn, hebddyn nhw ni fyddai'r clwb yn bodoli, ond mae’n dechrau dod y glir fod angen cryfhau'r cyllid os am ddenu a chadw gwell chwaraewyr, ac nid gwaith rhad fyddai hyn os am gynnal ymdrech am ddyrchafiad.

Ond fel ydi’r hanes erioed yn y byd pêl droed, cyllid neu ddim, y rheolwr sydd yn gorfod cario’r baich a chael ei feirniadu, ac i Gary Mills, golli ei swydd.

Fe fydd yn ddiddorol gweld os gall ei olynydd wneud yn well efo'r un garfan o chwaraewyr, neu a fydd yna gronfa o arian wedi cyrraedd yn sydyn o rywle er mwyn cryfhau'r tim!

Amser ansicr ar y Cae Ras!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i ddysgwyr Medi 10fed - 16eg

Nesaf