Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Hydref 8fed-Hydref 14eg

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Bore Cothi - Colli plentyn

codi ymwybyddiaeth - to raise awareness
yr un un - the same one
yn fwy annifyr - more awkward
andros o beth gwirion - an extremely stupid thing
cwestiynu fy ffydd - questioning my faith
hyfforddiant - training
digwydd bod - happened to be
fy nychryn i - frighten me
bwriadu - to intend
beio fy hun - blaming myself

"clip o raglen Shan Cothi oedd yn rhoi sylw arbennig i godi ymwybyddiaeth o golli plentyn. Bore Mawrth mi gafodd Shan sgwrs efo Lowri Wyn Jones o Llangwm oedd wedi cael profiadau trist iawn ac oedd yn fodlon eu rhannu efo gwrandawyr Radio Cymru..."

 

Aled Hughes - Taith feicio Aled

drwy brofiad fy hun - through my own experience
ymarfer - practice
cyhyrau - muscles
llawer o elltydd - many hills
tyle - a hill
ar y testun - by text
egniol - energetic
brasder - fat
diafol ar yr ysgwyddau - devil on the shoulder
yn dueddol i'w goelio fo - tend to believe it

"Profiadau personol iawn Lowri Wyn Jones yn fan'na. Dach chi'n cofio Aled Hughes yn sôn ei fod o am feicio o Abertawe i Fangor ym mis Tachwedd er mwyn codi arian i Blant mewn Angen? Mae'r amser yn dod yn agosach ac yn agosach a tybed ydy Aled yn dechrau mynd yn nerfus? Penderfynwch chi, ar ôl clywed rhan o'i sgwrs efo’r hyfforddwr personol, Dewi Fererro..."

 

Rhys Mwyn - Eddie Ladd

cyflwyno - to present
ymddangos - appearing
twf newydd - a new growth
adlewyrchu - to reflect
byrlymus - vibrant
plethiad - a blending
yr oes aur - the golden age
gwerthfawrogi - to appreciate
ystod - range
gwlêdd - a feast

..wel falle mai bod yn realistig mae Aled yn hytrach na bod yn nerfus, ond mae o'n cael cyngor da iawn gan Dewi yn tydy o? Pob lwc Aled, dw i 'n siwr byddi di'n iawn! Roedd Eddie Ladd yn cyflwyno rhaglen boblogaidd iawn o'r enw Fideo 9. Rhaglen bop oedd hon yn yr wythdegau a'r nawdegau cynnar, fuodd yn help mawr i yrfa pobl fel Gruff Rhys o'r Super Furry Animals a Cerys Mathews. Gofynnodd Rhys Mwyn i Eddie sut oedd y cyfnod hwnnw'n cymharu â'r sîn roc Gymraeg bresennol?

 

Etifeddiaeth

Etifeddiaeth - Heritage
yn gyfan gwbl - totally
iselder ysbryd melltigedig - a terrible depression
wynebu - to face
brawychus - frightening
a dyma fo'n deud - and then he said
y driniaeth - the treatment
dadwneud - to undo
ei llyncu hi - to swallow it
tagu - to choke

"Rhys Mwyn ac Eddie Ladd yn cymharu sîn roc diwedd yr wythdegau a'r sîn y dyddiau hyn...Amser cinio dydd Llun dechreuodd cyfres newydd o'r enw ‘Etifeddiaeth’ ar Radio Cymru. Sian Thomas sydd yn cyflwyno ac yn y rhaglen gyntaf, mi gawson ni hanes Helen a Lois Evans o Fethesda.
Mae Helen wedi cael cancr y thyroid a dyma hi'n sôn am yr adeg pan aeth hi am driniaeth gwahanol iawn sef ‘radioiodine’ mewn ystafell arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd... "

 

Geraint Lloyd - Pencampwriaeth rhwyfo

pencampwriaeth rhwyfo - rowing championship
profiad anhygoel - am incredible experience
tristwch - sadness
yn glamp o dlws - a large trophy
prydferth ofnadwy - terribly pretty
addewid - a promise
trefnu - to organise
gwirfoddolwyr - volunteers
cyfleusterau - facilities
buddsoddiad sylweddol - a substantial investment

"...Mi fydd yr ail raglen o Etifeddiaeth ar Radio Cymru dydd Llun nesa am hanner awr wedi hanner dydd, cofiwch wrando - maen nhw'n raglenni diddorol iawn. Nos Fawrth mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Barry Davies o Lanberis oedd newydd ddod nôl o’r Eidal ar ôl bod yn cymryd rhan mewn pencampwriaeth rhwyfo efo clwb rhwyfo Porthmadog. Wnaethon nhw ennill tybed? Mi gewch chi glywed yr hanes rwan... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Wrecsam yn diswyddo Gary Mills

Nesaf

Cynghrair Iwerydd