Main content

Diffyg creadigrwydd AC Milan

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Rhyw fis yn ôl mi gyfeiriais yn y blog yma am natur a threfn timau, yn enwedig yn uwch gynghrair Cymru ble roedd sylw priodol i sefydlu trefn a disgyblaeth, ond llai o ddylanwad gan unigolion ar effeithio newid ar gwrs y gêm.

 

Mi wnes  y pwynt y gallai hyn fod yn berthnasol iawn i'r rhan fwyf o'r timau yn ein uwch gynghrair, gan eu bod yn dimau rhan amser. Felly gyda chyfyngderau amser a sesiynau ymarfer, mae’n debyg mai trefnu timau, a sicrhau ffitrwydd, ydi'r prif nod a d’oes dim amser i weithio ar alluoedd, neu effeithiolrwydd unigolion.

 

Wedi dweud hynny, un tîm sydd gyda unigiolion sydd yn gallu newid cwrs y gêm, neu effeithio ar y chwarae, ydi'r Seintiau Newydd ac nid cyd ddigwyddiad ydi’r ffaith eu bod hefyd ar frig y tabl unwaith eto, ac wedi ennill pob un o'u gemau cynghrair hyd yn hyn. 

 

Ond, os edrychwn ymhellach ar dimau mewn cynghreiriau eraill, boed hynny yn Wrecsam yn eu cynghrair hwy, neu Caerdydd yn y Bencamwriaeth, mae’r un peth yn wir i ryw raddau. Er mai timau llawn amser, a llawer mwy galluog na rheini sydd yn uwch gynghrair Cymru ydi rhain, y timau sydd ag unigolion, yn bennaf yng nghanol y cae, sydd yn cael y canlyniadau gorau yn y gwahanol gynghreiriau, gyda chwaraewyr creadigol yn gosod cyfleodd i'w blaenwyr.  

 

Edrychwch ar y gemau mae Wrecsam, Caerdydd neu Casnewydd yn chwarae ynddynt. Cyfunwch hyn gyda hyblygrwydd y dull o chwarae sydd yn cael ei amlygu ymysg y timau gorau ac mae safon y gêm yn llawer uwch ar y brig , er waethaf patrwm disgybledig y gweddill. Bythefnos yn ôl es i weld A.C. Milan yn chwarae yn erbyn Udinese yn Serie A yn yr Eidal.

 

Siomedig iawn oedd safon y Milanese ar y San Siro. Fel nifer o dimau yn uwch gynghrair Cymru, a chynghreiriau eraill, roedd eu disgyblaeth a’u trefn yn glir, ond roedd y chwarae yn ymddangos fel petai wedi ei gyfyngu  i ddilyn cyfarwyddiadau llym heb fawr o ddim byd creadigol i'w weld wrth chwilio am ffyrdd o ymosod yn erbyn tîm amddiffynnol Udinese.

 

Un gôl a welwyd, a daeth honno yn dilyn gwrth ymosodiad cyflym gan yr ymwelwyr, gan ddal Milan yn rhy bell i fyny’r cae ac yn hollol agored ar yr esgyll. Rhaid dweud fodd bynnag mai agor y gêm i'r esgyll oedd trefn amlycaf ymosodiadau'r ddau dîm (a phrin oedd y rheini) gyda Udinese yn amlwg  wedi dod i'r San Siro i sicrhau na fyddant yn colli.

 

Tipyn o sioc, iddyn nhw a phawb arall oedd eu gweld yn sgorio unig gol y gem.

 

O ran Milan, siom oedd gweld tîm a oedd mor feistrolgar ar yn adeg , wedi llithro i fod yn ddim mwy na robotiaid heb unrhyw chwaraewr gyda’r weledigaeth i feddwl drosto’i hun a gwneud penderfyniad allweddol.

 

Hwyrach mai dyma ydi effaith hyfforddiant cyfoes, sef trefnu timau o fewn unedau, cadw meddiant , ond yn sgil hyn, boed y timau yn rhai  llawn neu rhan amser, mae yna ddiffyg amlwg mewn chwaraewyr na all adnabod beth i'w wneud mewn gwahanol amgylchiadau, na all wybod sut i bwyso a mesur be i'w wneud a sut i fynd ati yn effeithiol i newid cwrs y gem pan fo angen. 

 

Ydi hyn yn wir am y timau a'r gemau yr ydych chi yn eu gweld? Rhywbeth i edrych allan amdano efallai!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr - Medi 10fed - 16eg