Main content

Milfed gol i Manchester United yn Old Trafford

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Y Sul diwethaf, sgoriodd Anthony Martial unig gol y gêm i sicrhau buddugoliaeth dros Everton yn Uwch gynghrair Lloegr.

Heblaw sicrhau buddugoliaeth, llwyddodd hefyd i sgorio’r milfed gol gan United ar Old Trafford yn yr Uwch gynghrair.

Heblaw gwneud i rai pobol feddwl  nad oedd pêl droed yn bodoli cyn cychwyn yr uwch gynghrair, beth arall mae’r cyflawniad yma o goliau diri yn ei ddweud wrthym?

I gychwyn, fe sgoriwyd mwy na hanner y goliau gyda chwaraewyr yn defnyddio'u troed, dde, a dim ond ychydig dros ddau gant gyda’r droed chwith. Yna, pennwyd bron ddau gant o goliau gyda llai na hanner cant yn goliau gan wrthwynebwyr i’r rhwyd eu hunain.

Pwy felly sydd wedi sgorio’r goliau? Chewch chi ddim rhestr gynhwysfawr, ond y chwe sgoriwr a'r mwyaf o goliau ydi Wayne Rooney gyda 99, Paul Scholes gyda 59, Cristiano Ronaldo yn drydydd gyda 57, yna Ole Gunnar Solskaer (53), Ryan Giggs(50) ac Andrew Cole (49).

Yn ôl yr ystadegau sydd yn cael eu casglu'r dyddiau yma, Ryan Giggs sydd wedi cyfrannu orau i osod goliau i'w gyd chwaraewyr, gyda 84 o’i basio (assists yn Saesneg) yn cael eu sgorio’n uniongyrchol gan gyd chwaraewr. Mae cyfraniad y Cymro’n sefyll ben ac ysgwydd yn uwch nac unrhyw chwaraewr arall yn y cyd-destun yma gan mai 48 gan Wayne Rooney ydi'r agosaf iddo, yna David Beckham gyda 43, a Paul Scholes ac Eric Cantona gyda 30 yr un.

Saeson sydd wedi sgorio fwyaf (371 o goliau) yna chwaraewyr o’r Iseldiroedd (81), a Portiwgal yn drydedd gyda 76. Mae cyfraniad y Cymry hefyd yn uchel, gyda 73 o goliau wedi eu sgorio ganddynt a hwyrach fod yma gwestiwn i Her y Marc wrth geisio enwi'r holl Gymry sydd wedi sgorio i’r clwb ar Old Trafford yn yr Uwch gynghrair .

Mae dros wyth cant o goliau wedi eu sgorio o fewn y cwrt cosbi, gyda 56 o goliau wedi eu sgorio gyda chic o’r smotyn, a 36 yn uniongyrchol o giciau rhydd gyda Beckham wedi sgorio pymtheg ohonynt.

Cafodd mwy o goliau eu sgorio yn ail hanner y gemau, tua phum cant a hanner, a thua cant a hanner yn y deng munud olaf gyda phedwar deg naw ohonynt  yn yr amser ychwanegol a ychwanegir ar ddiwedd gem, neu fel y daeth i gael ei adnabod mewn gemau ar Old Trafford -  "Fergie Time"!

Felly, os nad ydw’i yn un am fwydro fy mhen mewn ystadegau, dwi heddiw wedi mynd yn hollol statto a dros ben llestri.

Ond dyma ni, mae yna  8,628 o ddyddiau wedi pasio ers y gôl gyntaf yn yr Uwch gynghrair ar Old Trafford . Daeth honno o droed Denis Irwin ar y ail ar hugain o Awst 1992, yn dilyn rhediad Andre Kanchelskis o’r dde, gan sicrhau gem gyfartal yn erbyn Ipswich.  Roedd hon yn dipyn o ryddhad ar y pryd gan fod United wedi chwarae dwy gêm yn barod, colli oddi cartref o ddwy gol i un yn Sheffield United yn y gêm agoriadol, a cholli adref o dair gôl i ddim  i Everton  yn yr ail gêm, a'r gêm agoriadol ar Old Trafford yn yr Uwch gynghrair . 

Mae bron yn chwarter canrif ers y gôl agoriadol honno, felly does yna fawr o siawns y cewch chi hanes y ddwy filfed gol gen i.

Heblaw hynny mae llenwi erthygl gyda llond trol o ystadegau yn fwy na fyddwn eisiau ei wneud ddwywaith mewn bywyd! Gwyliwch y goliau!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Amgueddfa P锚l-droed Lloegr Manceinion