Main content

Amgueddfa P锚l-droed Lloegr Manceinion

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos yma fe es draw i’r Amgueddfa Genedlaethol Bel droed ym Manceinion.

Amgueddfa am hanes pêl droed o fewn Lloegr ydi hon, ond pleser o’r mwyaf oedd nodi fod yna nifer o gyfeiriadau tuag at bêl droedwyr o Gymru. Un enghraifft amlwg oedd cap rhyngwladol Billy Meredith yn 1903, yn erbyn Iwerddon, a hefyd cyfres o femorabilia yn nodi cyfraniad y Cymro at sefydlu Cymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol yn 1908 .

Roedd yna hefyd lun o aelod o dim rhyngwladol ysgolion Lloegr, bachgen o’r enw Ryan Wilson, fel yr oedd yn cael ei adnabod, ond fel y daeth i gael ei adnabod yn well, Ryan Giggs.

Mae John Charles yno hefyd - darlun wedi ei baentio o'r cawr yn chwarae’n addfwyn dros Leeds United, ac wrth ei ochor, crys a chap, nid yn perthyn i Gymro, ond a oedd yn eiddo i gyn chwaraewr a ddaeth i fyw rhyw gan llath oddi wrthyf beth amser yn ôl, yn Nhreffynnon, sef cyn flaenwr Lloegr, Dinas Caerdydd, Aston Villa ac Inter Milan, y diweddar Gerry Hitchens.

Un o’r lluniau cynharaf o dimau pêl droed sydd i’w weld yno ydi hwnnw o dîm Preston North End a gipiodd y gynghrair bel droed yn y tymor cyntaf o’i fodolaeth yn 1888-9. Llysenw'r tîm yma oedd yr "Invincibles" gan iddynt ennill y gynghrair heb golli unrhyw gêm, a hefyd cipio cwpan Lloegr, heb ildio'r un gôl mewn pum gem. Dyma'r tîm cyntaf i gyflawni’r dwbl yn Lloegr.

Llwyddodd Preston i ennill deunaw o gemau, gan ddod yn gyfartal bedair gwaith, a churo Wolverhampton Wanderers o dair gôl i ddim yn y Ffeinal ar faes criced yr Oval yn Llundain, a hynny o flaen torf o saith mil ar hugain. O'r saith tîm sydd wedi cyflawni'r dwbl yn Lloegr, Preston ydi’r unig un, hyd heddiw, i wneud hynny heb golli unrhyw gêm, naill ai yn y gynghrair nag yn y gwpan.

Dim ond tri Sais oedd yn nhîm Preston, gyda saith Albanwr, ac yn y gôl roedd Cymro, sef Robert Mills-Roberts, meddyg wrth ei alwedigaeth, a chwaraewr amatur i dîm Preston.

Roedd Mills-Roberts yn chwaraewr pêl-droed blaenllaw yn y 1880au , ac yn cadw gôl i Gymru rhwng 1885 a 1892, gan wneud wyth ymddangosiad. Cafodd ei eni ym Mhenmachno, Sir Gaernarfon ar 5 Awst 1862.

Astudiodd i fod yn feddyg yn Ysbyty Sant Thomas, Llundain. Ymddeolodd o’r gêm yn 1890, ond fe'i perswadiwyd i wneud un ymddangosiad olaf dros Gymru yn 1892, ar y Cae Ras yn Wrecsam yn erbyn Lloegr (dwy i ddim i Loegr).

Rhwng 1884 a 1888, chwaraeodd saith gwaith i glwb amatur y Corinthiaid, gan wynebu Preston dair gwaith.

Daeth Mills-Roberts i gymhwyso fel meddyg ym mis Gorffennaf 1887, a'r flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn llawfeddyg t欧 yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham.

Yn ddiweddarach, cymerodd swydd gyda'r ysbyty yn Chwarel Lechi Dinorwig, a gwasanaethodd gyda Byddin Alldeithiol Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ddiwedd ei yrfa fel meddyg, ymddeolodd i Bournemouth, ble bu farw yn 73 oed ar 27 Tachwedd 1935. Bore diddorol yn dysgu mwy am hanes y gêm, wedi ei ganolbwyntio ar Loegr, ond heb anghofio cyfraniadau rhai o’r Cymry.

Tra mae Lloegr mor barod i gydnabod cyfraniadau’r Cymry yma, yn enwedig dylanwad Billy Meredith ar y gêm, trist yw noddi nad oes yna gymaint o awch a brwdfrydedd ymysg ni fel Cymry i gydnabod cyfraniadau tebyg, a siawns nad oes yna le i amgueddfa o'r fath yma yng Nghymru erbyn heddiw.

Cafwyd digon o arddangosfeydd gan glybiau yn dathlu eu canmlwyddiant, a chafwyd arddangosfa deithiol chenedlaethol ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Ymysg ein heip a’r llawenydd o gyrraedd Ewro 2016, onid yw’r amser wedi dod i ninnau yng Nghymru neilltuo un funud fach i gofio am y pethau anghofiedig sydd mewn perygl o fynd ar goll yn llwch yr amser gynt?

Come on Cymru, mae’r amser wedi dod.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Porthmadog

Nesaf

Milfed gol i Manchester United yn Old Trafford