Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Hydref yr 2il 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Awstralia

yr un mor llydan - the same width as
fferm wartheg - cattle farm
tarw - bull
gelech chi - you would have
Clawdd Offa - Offa's Dyke
y neidr mwya gwenwynig - the most poisonous snake
corryn - spider
prif weinidog - prime minister
rhestr detholion y byd - world rankings
deugain mil - 40K

Dw i'n siwr eich bod chi i gyd yn gwybod bod Cwpan Rygbi'r Byd wedi cychwyn a bod gêm fawr rhwng Cymru ac Awstralia ymlaen ddydd Sul diwetha.

Wel, mi glywon ni lawer iawn o ffeithiau diddorol am Awstralia ar raglen Aled Hughes fore Gwener.

Dyma Rhys ap William gyda rhai ohonyn nhw.

Rhaglen Siapan Shane - Kio Rodis

arferion - customs
esbonio - to explain
wastad - always
enghraifft - example
galw symudiad - to call a move
osgoi - to avoid
hyd yn oed - even
llanw - to fill
disgwyliais i ar y cerdyn - I looked at the card
cymryd sylw - to pay attention

A'r ffaith bwysica wrth gwrs ydy 'Cymru 29 Awstralia 25'. Gwych Cymru!

Buodd Shane Williams yn chwarae rygbi yn Siapan am dair blynedd ac mewn rhaglen arbennig buodd yn chwilio am y pethau oedd yn debyg a phethau oedd yn wahanol rhwng y ddwy wlad.

Pwy gwell i'w holi na Kio Rodis sy'n dod o Siapan ond sydd yn diwtor yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Gofynnodd Shane iddi hi oedd yna arferion yn Siapan sy'n wahanol i arferion Cymru.

Rhaglen Daf a Caryl RC2 - Leah Peregrine-Lewis

y gystadleuaeth - the competeitopn
yn gyfrifol a - responsible for
gwahôdd - to invite
y cyfryngau - the media
bwriadu - to intend
rhyfedd - strange
cwmni cynhyrchu - a prouction company
datblygu diddordeb - to develop an interest
cadarnhau - to confirm
y gwahaniaeth mawr - the big difference

Wrth gwrs mae tîm rygbi Siapan yn gwenud yn wych yn y gystadleuaeth hefyd, ar ôl iddyn nhw guro Iwerddon.

Sut mae'r 'selebs' yn cael eu dewis i fynd ar raglenni fel 'I'm a Celebrity' a 'Strictly Come Dancing' tybed?

MI gaethon ni'r ateb ar raglen y Sioe Frecwast gyda Dafydd a Caryl yr wythnos yma.

Leah Peregrine-Lewis oedd y gwestai a hi sy'n gyfrifol am wahôdd y 'selebs' i fod yn rhan o'r rhaglenni.


Rhaglen Geraint Lloyd - Taith gerdded

tair cymuned - three communities
cyffwrdd - touch
plwyf - parish
ymgynnull - to congregate
oedrannau amrywiol - various ages
chwythu chwib - blowing a whistle
sicrhau - to ensure
adnoddau - resources
paratoi'n eitha trylwyr - to prepare fairly thoroughly
diogelwch - safety

Leah Peregrine-Lewis oedd honna yn sôn am ei gwaith yn trefnu gwahôdd pobl enwog i fod ar raglenni teledu.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron yng Ngheredigion yn 2020 ac mi gaeth Geraint Lloyd sgwrs gyda rhai sydd yn codi arian at yr Wyl gan drefnu taith gerdded wyth milltir o hyd sydd yn mynd drwy dair cymuned yn ardal yr Eisteddfod.

Dyma i chi flas ar y sgwrs.

Rhaglen Aled Hughes - Cystadleuaeth

oedd yn cael sylw - was given attention
y beirniaid - the adjudicators
dychymyg - imagination
gwreiddioldeb - originality
cael eu llethu gan resymeg - being stifled by logic
gwneud synnwyr - to make sense
trafod - to discuss
o gyrion Abertawe - from the outskirts of Swansea
ymuno yn y dathlu - to join in the celebrations

Geraint LLoyd yn fan'na yn ymuno â thaith gerdded i godi arian at Eistefddfod Genedlaethol 2020.

Eleni mae hi'n hanner can mlynedd ers i storïau Sali Mali a'i ffrindiau ym Mhentre Bach gael eu hysgrifennu gynta. Ond storïau wedi cael eu hysgrifennu gan blant oedd yn cael sylw ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha.

Cafodd cystadleuaeth arbennig ar gyfer plant oed cynradd ei lansio ar y rhaglen ac mi gafodd Aled sgwrs gyda beirniaid y gystadleuaeth, Ifana Saville ac Anni Llyn.

Gofynnodd o iddyn nhw beth sy mor arbennig am storïau sy wedi cael eu hysgrifennu gan blant.

Rhaglen Emma a Trystan - dawnsio

yr wythnos o'r blaen - the other week
yn ddyflwydd oed - 2 years old
gwahanol ddawnsfeydd - different dances
andros o swil - terrrbly shy
cymdeithasu - to socialise
fi fy hun - me myself
brwdfrydig - enthusiastic

Hanes cystadleuaeth arbennig i blant ysgol cynradd yn fan'na ar raglen Aled Hughes.

Roedd hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Dawnsio yr wythnos o'r blaen ac mi gafodd Emma a Trystan sgwrs gyda Glain Lois Postle sydd â diddordeb mawr mewn pob math o ddawnsio.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cerddi'r Cofi Armi - Barddoniaeth a Phel-droed