Main content

Llwyddiant Llandudno

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ychydig yn ôl, fe gyfeiriais at glwb pêl droed Tref Llandudno sydd wedi datblygu fel un o glybiau mwyaf blaenllaw Uwch gynghrair Dafabet Cymru. Erbyn heddiw mae’r clwb wedi ennill yr hawl i chwarae yng Nghwpan Ewropa'r tymor nesaf gan iddynt orffen yn y trydydd safle yn Uwch gynghrair Dafabet Cymru, a hefyd wrth i'r Seintiau Newydd ennill Cwpan JD Cymru ac agor lle i'r trydydd yn y gynghrair i gystadlu ar y cyfandir.

MBi Tref Llandudno ydi prif dîm ardal Conwy a chanol gogledd Cymru, ond tydi gweld tîm o'r cyffiniau yma yn Ewrop yn ddim byd newydd i’r ardal.

Llwyddodd tîm Conwy, yn nyddiau cynnar Uwch gynghrair Cymru i gael yr hawl i gystadlu yng Nghwpan yr Intertoto Ewrop yn ôl yn nhymor 1996 / 97 gan wynebu Charleroi o Wlad Belg ac SV Reid, o Awstria) ar y Cae Ras yn Wrecsam, a bu rhaid teithio oddi cartref o fewn y gr诺p yma i wynebu Zeglebie Lubin (Gwlad Pwyl) a Silkeborg yn Denmark).

Ond os am ramant pêl droed, allwn ni ddim gwneud gwell na throi at ragflaenwyr y clwb sef Borough United o Gyffordd Llandudno.

Bu Borough United mewn bodolaeth am bymtheng mlynedd, ond mae eu henw yn haeddu sylw arbennig yn hanes pêl-droed Cymru.
Anturiaethau Ewropeaidd y clwb yn 1963 ddaeth a’r sylw a hyn ar ôl i ddau dîm lleol, sef Conwy a Chyffordd Llandudno gyfuno i greu tîm y Borough yn sgil trafferthion ariannol.

Cartref y tîm oedd maes Nant y Coed yn y Gyffordd,  a daethant yn aelodau o gynghrair  Gogledd Cymru gan gipio'r bencampwriaeth yn 1958-1959, yn union ddeng mlynedd ar ôl sefydlu’r clwb.

Ond y rhediad yng Nghwpan Cymru yn 1963 a gychwynnodd y daith i enwogrwydd. Cafwyd buddugoliaethau dros y Rhyl (4-1), Dinbych (4-2) a deiliaid y gwpan, Dinas Bangor (4-1) cyn trechu tîm Henffordd (Hereford United) o un gôl i ddim yn y rownd gynderfynol.


Casnewydd oedd y gwrthwynebwyr yn y ffeinal, gemau a gafodd eu cynnal dros ddau gymal. Daeth  torf o dair mil a hanner i weld y cymal cyntaf ar Nant y Coed, ac er iddynt ildio gôl fuan i Gasnewydd, daeth y Borough yn ôl gan sgorio ddwywaith cyn teithio i Barc Somerton ar gyfer yr ail gymal dri diwrnod yn ddiweddarach. Diolch i berfformiad gwyrthiol y golwr Dave Walker, llwyddodd Y Borough i gael gem gyfartal, di-sgor gan gipio eu cyfle i gystadlu yng nghwpan enillwyr cwpanau Ewrop (rhagflaenydd i Gwpan Ewropa presennol) .

Fodd bynnag nid ar chwarae bach mae cystadlu yn Ewrop! Gyda’r clwb wedi gwneud colled o £73 yn eu hymdrechion dros y tymor, rhaid oedd cynnal nifer o weithgareddau i godi arian, ac ymysg pethau eraill, cynhaliwyd loteri gyda byngalo a gafodd ei adeiladu gan gwmni lleol fel y brif wobr.

Pan ddaeth yr enwau allan o'r het at gyfer Ewrop, gwelwyd y Borough yn wynebu Sliema Wanderers o Malta a chan nad oedd teithio mewn awyren lawn mor haws ag yw heddiw, cymerodd y tîm dros ddeg awr ar hugain  i gyrraedd Malta gan y bu angen arall gyfeirio’r awyren i  Marseilles oherwydd problemau technegol. Cyrhaeddwyd Malta gyda dim ond pedair awr cyn cychwyn y gêm, ac er gwneud cais am ohirio cychwyn y gêm, fe gafwyd hyn ei wrthod.

Cynhaliwyd y gêm yn Stadiwm Genedlaethol yn Gzira o flaen 15,000 o wylwyr ac o dan yr amgylchiadau, gwnaeth y Cymry’n dda i ddal i gael gem gyfartal ddi-sgor, a hyn ar gae caled, tywodlyd anghyfarwydd. Dim gwair, a dim son am gaeau 3G yr adeg hynny.


Cafodd yr ail gymal ei chwarae yn Wrecsam ar 3 Hydref 1963 gyda 17,613 o gefnogwyr yn bresennol. Hwyrach  nad oedd chwaraewyr y Borough wedi arfer a chae caled tywodlyd, ond doedd chwaraewyr Sliema ddim wedi arfer chwarae ar gae gwair chwaith a bu hyn yn fantaiod ilr Borough wrth iddynt ennill o ddau gol i ddim. Tipyn o noson rhaid dweud ac mae gen i atgofion ohonof, fel bachgen ysgol, o sefyll ar y Cae Ras yn cefnogi ymdrechion y tîm o Gyffordd Llandudno yn eu buddugoliaeth.

Ond, yn ôl i'r Cae Ras es i, ac yno hefyd roedd dros ddeng mil o Gymry eraill ar noson oer ar yr unfed ar ddeg o Ragfyr 1963 i weld y rownd nesaf yn erbyn cewri Czechoslovakia ( fel yr adnabuwyd y wlad yr adeg hynny) sef Slovan Bratislava

Dyma dîm a oedd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf y tymor blaenorol ac yn cynnwys pum chwaraewr rhyngwladol, yn eu mysg yr amddiffynnwr Jan Popluhar a chwaraeodd dros ei wlad yn ffeinal Cwpan y Byd y tymor blaenorol a hefyd yng nghanol y cael roedd Joseph Venglos a ddaeth yn rheolwr ar Aston Villa a Celtic yn nes ymlaen.

Er yr ymdrechion, gol yn yr ail hanner i Slovan a setlodd y gêm cyn chwarae’r ail gymal pedwar diwrnod yn ddiweddarach ym Mratislava.

Doedd dim tywod ym Mratislava yn y gaeaf,  dim ond rhew, eira  ac oerni, ac er waethaf ymdrech ddewr collodd Borough o dair gôl i 4-0 ar y noson.


Parhaodd y tîm i chwarae yng nghynghrair gogledd Cymru tan 1967 pan benderfynodd perchnogion Nant y Coed, sef urdd  Catholic yr “Oblates of Mary Immaculate" o Ddulyn, nad oeddynt am weld pêl droed yn cael ei chwarae ar y maes gan adael y clwb heb dir o safon addas i gystadlu yng nghynghrair gogledd Cymru.

Ym mis Gorffennaf 1967 ymddiswyddodd y clwb o Gynghrair Cymru (Gogledd) ac er iddynt barhau am ddau dymor yng nghynghrair Dyffryn Conwy, daeth bodolaeth y clwb i ben yn 1969. Yr hyn sydd yn drist yng nghanol hyn i gyd ydi’r ffaith na ddefnyddiwyd Nant y Coed i unrhyw bwrpas ers 1967, heblaw ambell i gêm ysgol, gan gynnwys gemau tîm ysgolion Gogledd Cymru o dan 15 oed yn erbyn ysgolion Dulyn a'r cylch (pan oeddwn yn gysylltiedig â’r tîm yma) ac fe adwyd y lle yn pydru am dros chwarter canrif.

Heddiw, mae Nant y Coed wedi cael ei droi i fod yn stad o dai a phan es heibio rhyw flwyddyn yn ôl gan siarad gyda nifer o bobol leol ac ieuenctid yr ardal, doedd fawr o neb yn ymwybodol o hanes ac anturiaethau clwb pêl droed Borough United er eu bod wedi gosod sylfaen gadarn o dan eu trwynau yn hanes pêl droed Cymru  a hanes pêl-droed Ewropeaidd.

Tipyn o gamp felly i dîm MBi Tref Llandudno eu hefelychu ar eu taith hwy i'r cyfandir eleni,

Gyda thua €200,000 ar gael am gystadlu, a mwy os daw llwyddiant yn y rownd agoriadol, prin na fydd angen creu loteri arall nac adeiladu byngalo fel gwobr!

Ond mae stori tim Mbi Tref Llandudno fel hanes eu rhagflaenwyr, yn dipyn o stori tylwyth teg, o ystyried mai newydd ymuno a’r uwch gynghrair mae Llandudno eleni, a bod eu taith anarferol hyd yn hyn yn un i'w edmygu cymaint â llwyddiant annisgwyl Caerl欧r yn uwch gynghrair Lloegr.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mai 2il - 6ed 2016