Main content

Porthmadog

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pan gefais fy magu ym Mhorthmadog, neuadd y dref oedd canolfan holl ddigwyddiadau’r ardal, sinema’r Coliseum oedd y lle i fynd i garu wrth weld ffilmiau, ac ar y Traeth oeddem yn cynnal, ymysg ein hunain gemau pêl droed rhwng hogia' Port o dimau yn gysylltiedig â gwahanol ardaloedd o’r dre.

Yn y neuadd roedd y dawnsfeydd, cyngherddau, cystadlaethau drama leol ac yno hefyd ar y grisiau allanol, roedd tîm Porthmadog yn arddangos eu cwpan diweddaraf wrth ddathlu’r fuddugoliaeth ddiweddaraf gyda'r cefnogwyr a oedd yn llenwi'r stryd fawr oddi tanynt.

Erbyn heddiw mae Canolfan newydd yn y dref, ac mae’r hen neuadd neu'r Town Hall fel y cafodd ei adnabod) , fel sinema’r Coliseum, wedi diflannu. Ond pery'r atgofion melys , nid yn unig o garu, ond chwarae pêl droed ym maes parcio’r Coliseum wrth sgorio yn y goliau a gafodd ei marcio gyda chotiau yn erbyn y waliau cyn i Mr Pierce y gofalwr ein hanfon oddi yno.

Tra mae’r Ganolfan bresennol yn cynnal nifer o weithgareddau ar gyfer yr ardal heddiw, mae clwb pêl droed Porthmadog yn flaenllaw wrth ddangos blaengaredd cymunedol newydd ac arloesol.

Yr wythnos yma fe sicrhaodd y clwb becyn ariannol gwerth £131, 000 er mwyn adeiladu estyniad ar ei glwb cymdeithasol i’w ddatblygu fel canolfan sgiliau a hyfforddi ar gyfer pobol Port.

Mae’r clwb eisoes mewn trafodaethau gyda darparwyr hyfforddiant a cholegau lleol er mwyn sicrhau y caiff ddefnydd prysur pan agorir y drysau yn ystod mis Awst eleni.

Cyfrannodd dwy gronfa tuag at y cynllun sef ‘Aggregate Levy Fund’ Llywodraeth Cymru a Chronfa socio-economaidd Magnox gyda’r nod o fuddsoddi ar gyfer creu tyfiant a swyddi.

Mewn cyhoeddiad swyddogol, dywedodd y clwb fod y cynllun diweddaraf yma sy’n ynghlwm a Chanolfan Sgiliau Clwb Pêl-droed Porthmadog, yn rhoi cyfleoedd i bobol yr ardal ymgysylltu ag amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant fydd yn eu helpu i wella a datblygu eu sgiliau gwaith a thrwy hynny gwaredu ardal wledig o un o’r problemau sydd yn dal ei phobol yn ôl.

Aiff y cyhoeddiad ymlaen i ddweud y bydd y gwaith o adeiladu’r estyniad yn cychwyn ddechrau Ebrill ac wedi ei gwblhau erbyn dechrau’r haf ac felly bydd ar gael o fis Awst ymlaen.

Ychwanegodd Cadeirydd y clwb, Phil Jones fod .. “clwb pêl droed Porthmadog wedi bod yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yr ardal ers 1884 ac wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned dros y blynyddoedd. Bydd y ganolfan newydd yn adnodd arbennig ar gyfer pobol o fewn 10 milltir i’r dref ac yn gyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau a thrwy hynny gwella eu cyfleoedd gwaith a gyrfa. Golygai’r prosiect diweddaraf hwn bod y Clwb ers 2004 wedi buddsoddi dros £450,000 mewn cyfleusterau cymdeithasol, codi niferoedd y seddi yn y stadiwm o 150 i 700, cryfhau'r adnoddau o gwmpas y Traeth a gwella safon ac ansawdd y prif faes a’r cae ymarfer”.

“Bydd y Ganolfan Sgiliau o fudd i lawer mwy o bobol na dim ond ein cefnogwyr ac yn ased economaidd pwysig i'r ardal gyfan” ychwanegodd Phil Jones.

Tra mae ymglymiad nifer o glybiau pêl droed ar draws Cymru wedi dod a hwy yn agosach at eu cymunedau drwy weithgareddau fel cynnal sesiynau hyfforddiant i ieuenctid yr ardal, neu wneud defnydd o’r clwb cymdeithasol arfer gweithgareddau lleol, mae blaengaredd clwb Porthmadog yn dangos yr hyn sydd yn bosibl yn ychwanegol.

Mae llawer wedi newid ers y dyddiau pan oeddwn yn sgorio goliau yn erbyn wal y Coliseum, yn caru oddi mewn, neu yn chwarae i dîm ein hogia’ ni o Ochor Cyt yn erbyn Pen Cei, Pensyflog neu Stryd Madog ar ein Wembley cymunedol ( cyn cael ein hanfon oddi ar y Traeth gan y tirmon).

Does ond llongyfarch y clwb at ddangos arweiniad a blaengaredd sydd yn gwneud cymaint i gyplysu adnoddau pêl droed a’r gymuned ehangach o fewn yr ardal. Siawns nad oes yma esiampl a allasai nifer o'n clybiau ei ddilyn gan roi ystyr newydd i'r hen ddywediad - “ faint o locals sydd gennych chi yn y tîm?”

Pob hwyl i bobol Port.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 22/03/2016

Nesaf

Amgueddfa P锚l-droed Lloegr Manceinion