Main content

Cwpan Y Byd Rwsia, oddi ar y cae!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mwy o gyffro ar y caeau yn Rwsia ac yn anffodus, ac ychydig o ddigwyddiadau diflas yn codi oddi ar y cae , yn sgil y cyffro hwnnw.

Cychwynnodd yr helyntion, sydd gan amlaf yn gysylltiedig ag agweddau gwleidyddol yn dilyn y gêm hynod gyffrous rhwng Serbia a’r Swistir nos Wener ddiwethaf. Gyda thri o chwaraewyr y Swistir, Granit Xhaka a Xherdan Shaqiri, Albaniaid ethnig o Kosovo yn wreiddiol, yn ogystal â Stephan Lichtsteiner, yn gwneud arwydd yr eryr, wrth symboleiddio baner Albania, yn dilyn eu llwyddiant dros Serbia.

Hyn wrth gwrs yn cynhyrfu Serbia (sydd ddim yn cydnabod Kosovo fel gwlad) er ein bod yn cael ei gydnabod gan FIFA fel gwlad annibynnol ers 2016, gan arwain at sylwadau ymfflamychol gan hyfforddwr y tîm ac yntau hefyd, fel chwaraewr y Swistir, yn cael rhybudd i ymddwyn gan FIFA.

Dilynwyd hyn gan berfformiad Lloegr ar y Sul, wrth guro Panama, o chwe gôl i un, tîm a oedd yn ymddangos fel na fuasai yn ddigon dawnus i ennill Cynghrair Cenedlaethol Lloegr (na, nid yr uwch gynghrair, ond y gynghrair mae Wrecsam yn chwarae ynddi).

Fodd bynnag, arweiniodd hyn at lond trol o gôr ymateb wrth i lawer o'r sylwebwyr, a chefnogwyr Lloegr ddechrau siarad trwy eu hetiau am y fuddugoliaeth dros Panama.

Ie, ymddengys fod y cyfryngau yn dechrau cyhoeddi fod Cwpan y Byd, ar ôl hir hwyr, ar fin dod adre, ac aeth y sylwadau yn llawer mwy jingoistaidd yn rhai o'r papurau tabloid wedi i'r Almaen wneud smonach o bethau yn erbyn De Corea a chael eu hanfon adre yn fuan.

Trist oedd gweld and oedd gan rai o'r papurau newydd ddim byd gwell i'w wneud na sarhau'r Almaenwyr, a dangos and ydynt yn gallu cefnogi tîm neu wlad heb orfod bychanu rhai eraill. Doedd ymateb rhai o pundits ar y cyfryngau lawer gwell chwaith. Dyma agwedd arall sydd wedi fy synnu a fy nhristau, wrth weld cyn chwaraewr, sydd i mi , wedi dod yn ddim gwell na dinosoriaid y gêm yn ymddangos eu bod yn parhau i fyw yn y gorffennol, ac yn methu ac addasu i gyd-destun cyfredol y gêm.

Ar y llaw arall, mae’r wynebau a'r lleisiau newydd, yn enwedig ymysg y merched yn dod ac awyr iach ffres yn ogystal ag awch a brwdfrydedd newydd i'r darllediadau a'r sylwebu, ac ynghyd a chyfraniadau cyn chwaraewyr (a rhai presennol) tramor yn rhoi barn llawer mwy cydbwysol a doeth ar y chwarae.

Yna, wrth wirioni dros gamp “enfawr” Lloegr o guro gwlad fechan fel Panama, cafwyd y cyhoeddiad gan y llywodraeth y byddai baner San Siôr yn cwhwfan ym mhob adeilad cyhoeddus ar hyd a lled Prydain, a doedd y Swyddfa Gymreig ddim yn araf i ufuddhau!

Ond, doedd y cyhoeddiad ddim wedi gorffen yn y fan yna, cwhwfan ar adeiladu cyhoeddus y llywodraeth, fel ac y bydd y flwyddyn nesaf pan fydd merched Lloegr yn cystadlu yn Ewros y Merched yn Ffrainc! Wel ara’ deg Mrs May , mae 'na rwystr clir o flaen merched Lloegr cyn cyflawni hyn, sef tîm merched Cymru, gyda’r ddau yn wynebu eu hunain am yr hawl i fynd i'r Ewros y flwyddyn nesaf. Ond o leiaf mae'r cyhoeddiad wedi dangos i ni ble rydym, fel cenedl, yn sefyll yng ngolwg ein harweinwyr gwleidyddol!

Petai Cymru yn ennill, tybed a bydd hyn yn arwain at gyhoeddiad arall gan y llywodraeth, sef y bydd y Ddraig Goch yn cael ei chwifio yn llawn balchder ar bob un o adeiladau'r llywodraeth ym Mhrydain yr haf nesaf! Wel dyna chi be ydi ‘ sbardun am lwyddiant!

Yn ôl i Rwsia, ble mae cefnogwyr wedi dangos i ni beth ydi brawdgarwch rhyngwladol, ac wedi gwisgo mewn dillad ffansi wrth adlewyrchu eu cenedlaetholdeb, fel cyfres o eisteddfodau Llangollen yn ymestyn o Ekaterinburg yn y dwyrain i Kaliningrad yn y gorllewin!!

Mwy i ddod y penwythnos yma a’r wythnos nesaf a tra mae'r chwarae ar y caeau wedi fy nghyffroi, does ond obeithio na fydd y sylwebwyr, y cyfryngau na'r llywodraeth ddim yn mynd dros ben llestri a bod barnau teg a chytbwys yn cael eu trafod dros y dyddiau nesaf. Wedi'r cwbl, mae’r to newydd o sylwebwyr gyda'r ddawn, y gallu a'r wybodaeth i arwain ffordd ymlaen yn glir.

Ac am y gwleidyddion, wel does ond obeithio - hwyrach y gallant ddysgu rhywbeth gan y cefnogwyr !!!!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llanast llwyr i Messi ar Ariannin

Nesaf

Mae'n Haf o Hud ar Radio Cymru