Main content

Blog Ar Y Marc: Nigel Adkins

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae na beth amser ers i Nigel Adkins gychwyn ei yrfa fel rheolwr gyda Bangor, a dros y blynyddoedd mae wedi bod yn rheoli Southampton yn yr Uwch gynghrair (ar ôl ei harwain yno o’r adran gyntaf a wedyn i’r Bencampwriaeth o fewn dwy flynedd yn olynol).

Mae’n ddi waith ar hyn o bryd ar ôl colli ei swydd fel rheolwr Sheffield Utd nol yn mis Mai. Cafwyd cyfweliad diddorol gydag Adkins yng nghylchgrawn “fcBusiness” yn ddiweddar, sef cylchgrawn sydd yn canolbwyntio ar agweddau o fyd busnes o fewn y gêm.

Yn ogystal â bod yn reolwr profiadol, mae Nigel Adkins hefyd wedi cael ei enwebu fel llysgennad i fudiad y ‘Football Foundation’ yn Lloegr, sef rhywun yn y byd pêl droed sydd yn rhannu’r awch a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r gêm ar ei lefel sylfaenol, drwy helpu i godi ymwybyddiaeth i fudiad ar hyd a lled y wlad.

Wrth olrhain ei brofiadau a’u gyflawniadau, mae Adkins yn cyfeirio at lwyddiant Southampton a gododd o'r ail safle ar hugain yn Adran Un ( pan ymunodd a hwy) , i'r Uwch gynghrair mewn dwy flynedd, fel llwyddiant nodedig. Mae hefyd yn cyfeirio at ei lwyddiant a sicrhaodd fod Bangor yn cystadlu yn Ewrop , yn ogystal â'r ffaith mai dyma'r tro cyntaf i Fangor gipio coron Uwch gynghrair Cymru.

Yn yr erthygl pwysleisia Adkins pa mor bwysig ydi cael seiliau cadarn i ddatblygu chwaraewyr ifanc, gan gyfeirio at yr angen i sicrhau gwell adnoddau a fyddai'n cyfrannu at fagu medrau yn ogystal ag ennyn awch a brwdfrydedd yr ifanc. Un o’r adnoddau y cyfeirir ato ydi’r caeau artiffisial a welir yn gynyddol heddiw ac yn ei farn o sydd yn cyfrannu’n bwysig tuag at fagu doniau'r ifanc.

Yn ogystal mae'n rhoi'r cyfleodd i chwaraewyr ymarfer yn gyson ( yn hytrach na ceisio datblygu medrau ar gae mwdlyd a hefyd fe ellir ymarfer o dan oleuadau, rhywbeth nad oedd llawer ohonom yn gallu ei wneud pan oedden ifanc!

Cyfeirir at y gwelliant yng nghyfansoddiad y caeau artiffisial gwreiddiol a sefydlwyd ar sylfaen o dywod a choncrid gyda bron phawb yn gorffen eu sesiynau ymarfer yn llawn creithiau a briwiau yn dilyn crafiadau ar wyneb y cae. Atgofion rwy'n si诺r o'r dyddiau pan oedd Nigel a thîm Bangor yn ymarfer ar y cae ar artiffisial yn Nhreffynnon a minnau a thîm Treffynnon ar hanner arall y cae ar yr un adeg!.

Rwy’n cofio un noson stormus, pan oedd y ddau dîm yn ymarfer, ac a dweud y gwir, roedd tywydd mor arw doedd hi ddim ffit i fod allan, heb son am ymarfer.

Plediodd chwaraewyr Bangor gyda Nigel na ddylent fod allan yn ymarfer ar y fath noson a rhoddwyd gorau i'w sesiwn rhyw hanner ffordd.

O weld beth oedd yn digwydd, dyma chwaraewyr Treffynnon yn rhyw awgrymu mai doeth fyddai iddynt hwythau roi gorau iddi!

Y Sadwrn hwnnw, roedd Treffynnon yn chwarae yn erbyn Bangor, ac felly, fe gafodd tîm Treffynnon ymateb gen i nad oedd yn ddim mwy na llond ceg o regfeydd, am beidio â bod mor fabïaidd eu hagwedd, a mynnais barhau gyda'r sesiwn.

Parhau fodd bynnag hyd nes i dîm Bangor ddiflannu dros y gorwel yn eu bws mini cyn i minnau gyhoeddi na ddylai unrhyw un, hyd yn oed cath, fod allan ar y fath noson, ! Ac felly , ffwrdd a chi!

Ond roeddem wedi dangos i Fangor pa mor ddygn oedden ein cymeriad , ac i gofio hyn y Sadwrn wedyn. Digon ydi dweud fod Treffynnon wedi curo Bangor y Sadwrn hwnnw! Ond yn ôl at y caeau cyfoes.

Da yw gweld fod timau uwch gynghrair Cymru heddiw yn buddsoddi yn fuddiol yn y caeau 3G newydd a hyn drwy gymorth y Gymdeithas Bel Droed a hefyd, fel yn y Bala, drwy gymorth y cyngor sir.

Does dim amheuaeth fod hyn yn gwella ansawdd y gemau, gallu'r unigolion ac ansawdd y sesiynau ymarfer a hefyd yn codi delwedd y clwb pêl droed fel rhan annatod a chynwysedig o'r gymuned leol.

Llongyfarchiadau i Nigel Adkins am ei gyflawniadau ac am ei gefnogaeth barhaol at ddatblygu’r gêm ar ei lefel sylfaenol.

A phwy a 诺yr na ddysgodd rhywbeth gwerthfawr ar y noson stormus yna yn Nhreffynnon, gan ddeall ei bod yn bosib ymarfer bob tro ar gaeau artiffisial, beth bynnag fo'r tywydd, wel bron pob tro efallai !

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cynghrair Iwerydd

Nesaf