Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 27ain o Fedi 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Beti a'i Phobl - Sion Tomos Owen

cyflwyno - to present
cyfres deledu am y cymoedd - a television series about the valleys
dim profiad - no experience
cysylltodd - contacted
cwrdd lan - to meet up
mis mêl - honeymoon
yr un hen bobl - the same old people
saethu - to shoot
sa i'n gwybod - dw i ddim yn gwybod
angerddol - passionate

Sion Tomos Owen o'r Rhondda oedd gwestai Beti George wythnos diwtha. Buodd Sion yn cyflwyno cyfres deledu am y cymoedd ar S4C. Ond doedd dim profiad gyda fe o gyflwyno rhaglenni teledu o'r blaen. Sut cafodd e'r cyfle felly? Dyma fe'n esbonio wrth Beti George.

Aled Hughes - Siapan

cefnder - male cousin
dyddiadau - dates
yn hytrach na - rather than
degfed - the tenth
nawfed - ninth
joli hoit bach - an outing
do, Tad - God, yes

Sion Tomos Owen oedd hwnna yn esbonio sut cafodd e'r gwaith o gyflwyno cyfres am y cymoedd. Mae Cwpan Rygbi'r Byd wedi dechrau ac mae llawer iawn o Gymry wedi mynd draw i Siapan i gefnogi'r tîm cenedlaethol. Roedd Alun Roberts o Ynys Môn yn gobeithio bod yn un o'r rheini ond roedd na broblem fach, fel gwnaeth e esbonio wrth Aled Hughes.

Rhaglen Bore Cothi - Alaw Llwyd Owen

triniaeth - treatment
uned gofal arbennig - special care unit
llwyth o lawdriniaethau - loads of operations
sefyllfa reit erchyll - a quite terrible situation
hofrennydd - helicopter
uned gofal dwys - intensive care unt
yn eithriadol - exceptionally
wrth reswm - of course
arbenigedd - expertise
mor ffodus - so lucky

Wel gobeithio bydd Alun yn medru dilyn y gêmau i gyd ar S4C on'de? Alaw Llwyd Owen oedd yn rhannu ei stori bersonol gyda Shan Cothi ar raglen Bore Cothi yr wythnos yma. Stori oedd hon am brofiad newidiodd bywyd Alaw yn dilyn damwain car ddigwyddodd bron i flwyddyn yn ôl bellach. Dyma hi'n sôn am y driniaeth gafodd hi yn yr ysbyty yn dilyn y ddamwain.

Rhaglen Anthem - Clive Rowlands

anafiadau difrifol - serious injuries
anthem genedlaethol - national anthem
hyfforddwr - coach
rheolwr - manager
Y Llewod - The Lions
siom - disappointment
trueni mawr - a huge shame
dorf - crowd
aros lan - to stand up
ambell i chwaraewr - the odd player

Pob lwc i Alaw on'de i ddod dros ei hanafiadau difrifol. Byddwn ni'n clywed anthem genedlaethol sawl gwlad yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd ond mae 'na rywbeth arbennig iawn am anthem Cymru on'd oes yna? Buodd Clive Rowlands yn gapten ar dîm rygbi Cymru, yn hyfforddwr y tîm ac yn rheolwr ar dîm y Llewod. Dyma fe'n sôn am ba mor emosiynol mae clywed yr anthem yn gallu bod i chwaraewyr rygbi Cymru.

Rhaglen Stiwdio - Comedi

buddugoliaeth - victory
cafodd ei darlledu - was broadcast
y gyfres - the series
Mae'r dyfyniadau'n gyfarwydd - the quotations are familiar
fwyaf ddylanwadol - most influencial
Caergrawnt - Cambridge
Rhydychen - Oxford
hollol ddwl - totally silly
ddim yn llifo cystal - doesn't flow as well

Ac mae Cymru wedi cael dechrau da i Gwpan Rygbi'r Byd on'do gyda buddgoliaeth dda yn erbyn Georgia. Comedi oedd thema rhaglen Stiwdio pnawn Mercher gyda Nia Roberts. Un o'r rhaglenni comedi mwya eiconig erioed oedd 'Monty Python's Flying Circus' cafodd ei darlledu gynta yn 1969. Dyma'r comediwr Aled Richards yn rhoi ychydig o hanes y gyfres i ni.

Rhaglen Ifan Evans - Canu gwlad

y ddeuawd canu gwlad - the country music duo
poblogaidd - popular
yn briodol - appropriate
Diwrnod Cenedlaethol - National Day
anferth - huge
traddodiadol - traditional
mor eang - so extensive
byd gwahanol - a different world

Ychydig o hanes y gyfres 'Monty Python' yn fan'na ar raglen Stiwdio. Iona Myfyr o'r ddeuawd canu gwlad bobolgaidd ‘Iona ac Andy' oedd yn sgwrsio gyda Ifan Evans ar ei ralgen brynhawn dydd Mawrth. Roedd hynny'n briodol gan ei bod hi'n Ddiwrnod Cenedlaethol Canu Gwlad y diwrnod hwnnw. Pa fath o fiwsig mae Iona ac Andy yn ei licio felly? Dyma Iona'n esbonio.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blerwch yn y Bernab茅u

Nesaf