Main content

Ffeinal Cwpan Y Byd 2018 - Ffrainc v Croatia

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A dyna ni, Ffrainc yn erbyn Croatia -  a 'dan'i gyd yn gwybod be’ fydd ddim yn dod adra!

Y gwir yn erbyn y byd - wedi ei ddweud gan Roy Keane ar y teledu ar ddiwedd y gêm rhwng Lloegr a Croatia, wrth gyhuddo panelwyr Seisnig y teledu o ddathlu cyn hyd yn oed curo gem cyn derfynol.

Ategwyd y sylw yma gan Luka Modric, capten Croatia ar ddiwedd y gem, yn egluro fod agwedd drahaus a diffyg parch gan y wasg Seisnig wrth fethu a gwerthfawrogi gallu’r Croatiaid, wedi eu sbarduno i guro Lloegr.

Tydi rhai pobol, a rhai sefydliadau byth yn dysgu!

Wrth ysgrifennu’r Blog yma, rwyf yn gwrando ar raglen radio yn derbyn galwadau ffôn gan gefnogwyr Lloegr, sydd erbyn y bore 'ma wedi penderfynu fod dewisiadau Gareth Southgate wedi bod yn hollol anghywir, ei fod yn ddiffygiol ei dactegau ! Sylwadau pell iawn o'r hyn a glywyd cyn dydd Mercher wrth feddwl fod y ffordd yn glir i agor y llwybr at gyrhaeddiad y gêm yn ôl i'w grud genedigol.

Ond dyna ni - pwy sydd am ennill Cwpan y Byd?

Ffrainc gyda llyfnder eu chwarae - Pogba a Kante ynghanol y cae, Varane (amddiffynnwr y gystadleuaeth hyd yn hyn) yn y cefn, y golwr Lloris ar ben ei gem a’r blaenwr Kylian Mbappe yn dangos cyflymder sy’n creu trafferthion diri ymysg amddiffynfeydd , ac yn dwyn y sylw oddi wrth y blaenwr a gredai llawer a fyddai yn serennu fwyaf yn Rwsia, sef Antoine Griezeman.

A gyda chystadleuaeth Cwpan y Byd wedi ei greu gan Ffrancwr, Jules Rimet, hwyrach ar ddiwedd y dydd y byd pêl droed yn dod adre wedi'r cwbl!

Ond, be’ sy’ gan Croatia i'w gynnig?

Luka Modric (sy’n aelod o dîm Real Madrid) yn un, ac oes llwyddir i gadw fo yn ddistaw yna mae  dau arall o’r hyn sydd wedi ei ddisgrifio yn Zagreb fel y genhedlaeth euraid, sef Ivan Rakitic (sy’n chwarae i Barcelona) a’r blaenwyr Ivan Perisic (Inter Milan), Mario Mandzukic (Juventus) yn barod i ddangos y gallant hwythau, fel unrhyw Ffrancwr, newid cwrs y gêm , rhedeg y sioe (fel y gwelwyd yn erbyn Lloegr) a dod a buddugoliaeth i’w gwlad. A hynny drwy eu profiad blaenorol gyda'u clybiau o chwarae a llwyddo ar lefel uchaf y gêm yn Ewrop.

A thu ôl i rhain, mae yna gawr o golwr, (Danijel Subasic o Monaco), ac amddiffynnwr Lerpwl, Dejan Lovren yn cadw cwmni i Domagoj Vida (Besiktas), chwaraewr na fyddai llawer yn dadlau gydag o ynghanol gêm.

Felly - gan obeithio am gem boeth, llawn angerdd ac nid rhyw ffeinal oeraidd, dactegol,  rhyw Coldplay o gêm os hoffech, ai' Viva la Vida' a fydd hi i Croatia, neu Paradwys (Paradise) i'r Ffrancwyr ?

 Gem go iawn o’n blaenau - mwynhewch, a diolch i'r holl dimau a gwledydd am wledd dros y mis diwethaf.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 9fed o Orffennad 2018

Nesaf

Geirfa Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg 2018