Main content

Cynghrair Iwerydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae’r Bala a’r Seintiau Newydd wedi gweld eu hunain yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd eleni sy’n cyfuno timau o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, mae yna drafodaeth yn cael ei chynnal rhwng timau eraill o’r Alban, Denmarc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Norwy a Sweden yngl欧n â sefydlu cynghrair newydd Ewropeaidd a fyddai yn gweld y timau yn torri i ffwrdd oddi wrth eu cynghreiriau domestig. Yr enw sydd yn cael ei gynnig ar y fenter yma ydi’r Gynghrair Iwerydd (Atlantic League).

Mae hyn yn cael ei ystyried oherwydd newidiadau sydd ar droed o fewn UEFA i gyfyngu aelodaeth o Gynghrair Pencampwyr Ewrop, i dimau mwyaf y cyfandir, ac yn ôl Bayern Munich, i wahodd timau i'r gystadleuaeth yn hytrach nag ar sail cyflawniadau o fewn eu cynghreiriau domestig fel sy'n bod ar hyn o bryd.

Mae llawer o’r timau mwyaf yn gweld Cynghrair y Pencampwyr fel modd i greu mwy a mwy o elw iddynt eu hunain, a tydi gweld timau, sydd yn eu barn hwy, yn ddim mwy na thimau israddol, yn gwneud dim lles i'w hymdrech i greu elw iddynt eu hunain.

Felly, fel ymateb i ryw sefyllfa nad sydd yn rhoi fawr o groeso i dimau o wledydd fel yr Alban, Gwlad Belg neu'r Iseldiroedd, y syniad ydi cynnal cynghrair eu hunain sef Cynghrair yr Iwerydd a fyddai yn rhoi gwell sylw, ac yn sgil hyn creu elw iddynt eu hunain. Mae’n deg dweud hefyd fod y gwledydd yma, fel yng Nghymru, yn tueddu o weld yr un tîm yn dominyddu ac yn ennill eu cynghreiriau cenedlaethol yn rheolaidd.

O ganlyniad, mae’r timau sydd a'u llygaid ar y datblygiad yma yn credu y gall cystadleuaeth o'r fath godi safon a chynnig mwy o gysondeb ar draws y gynghrair newydd nag a geir o fewn eu cynghreiriau cenedlaethol yn eu gwledydd ar hyn o bryd.

Hwyrach ei bod yn rhy fuan i feddwl am gael tîm o Gymru o fewn y drefn yma, a does dim amheuaeth mae'r Seintiau Newydd fyddai hwnnw petai'r cyfle yn codi eleni. Ond tybed, yn y dyfodol y byddai cynnig arall yn codi i sefydlu rhyw fath o drydydd cynghrair, siawns na fyddai hyn yn dod a thîm o Gymru i ystyriaeth!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Blog Ar Y Marc: Nigel Adkins