Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 22/03/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Bore Cothi - Dysgwr y Flwyddyn

enwebu - to nominate
Pwyllgor Gwaith - Executive Committee
cystadleuaeth - competition
shwd (sut)gymaint - so many
cwympo mewn cariad - falling in love
cyfleoedd - opportunities
tynnu sylw - drawing attention
cefnogaeth - support
y gofynion - the requirements
gorfod cyflawni - to have to achieve

"Mae na ddyddiad cau pwysig iawn ddiwedd y mis ma, sef y cyfle olaf i enwebu rhywun, neu i enwebu eich hun, fel Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Fenni a’r Cyffiniau fis Awst nesa. Geraint Wilson Price, cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Dysgwyr fuodd yn sgwrsio am y gystadleuaeth efo Shan Cothi ddydd Mercher..."

John Walter - Y Celtiaid

gwaed Gwyddelig - Irish blood
bodoli - to exist
ffordd o fynegi - form of expression
tebygrwydd diwylliannol - cultural similarities
noddwyr - sponsors
cynghanedd - a form of poetry
disgynyddion - descendants
dadlau - to argue
cyfnod cyn-Rufeinig - pre Roman period
hunanaieth - identity

"Dydd Iau Mawrth trideg un ydy’r dyddiad cau pwysig, felly beth amdani? Pwy ydy’r Celtiaid ac a ddylen nhw fod yn bwysig i niy dyddiau hyn? Dyna oedd cwestiwn John Walter Jones i’w westeion ddydd Mercher. Dyma i chi flas ar ateb James January McCann o Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Mae James yn dod o Portsmouth yn wreiddiol. Mae ei dad yn dod o dde Cymru ond dydy o ddim yn siarad Cymraeg, ac mae gan James ychydig o waed Gwyddelig hefyd fel y cawn ni glywed...."


Rhaglen Dylan Jones - Y Gymraeg yn Melbourne

hyder - confidence
denu - to attract
Cymanfa - Hymn singing festival
yn or-lawn - full to capacity
trafod ymysg ein gilydd - discussing amongst ourselves
yn ddiweddarach - later on
neiniau a teidiau - grandmothers and grandfathers
cyfathrebu - communicating

"James January McCann yn sôn am y Celtiaid yn fan'na efo John Walter Jones. Mae yna lawer iawn o bobl efo gwaed Celtaidd yn byw yn Awstralia, yn enwedig pobl efo gwaed Gweddelig. Ond faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn Melbourne, Awstralia tybed? Wel dyna mae Ceri Ann Williams eisiau gwybod. Mae hi'n byw yno ers pedair blynedd ac roedd hi eisiau gwahodd siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i ddod at ei gilydd yn y Charles Dickens Tavern yn Melbourne wythnos diwetha..."


Rhaglen Gari Wyn - Ieuan Edwards

prentis cigydd - apprentice butcher
hysbyseb - advert
dim yn wirioneddol - not really
perchennog - owner
o ddifri - serious
cychwyn - start
gwartheg godro - milking cattle
gwerth go lew - worth quite a bit
yn graff - craffty
ychwanegol - extra

"Wel, gobeithio bydd llawer yn dod i'r dafarn yn Melbourne i sgwrsio efo Ceri Ann a 'i ffrindiau ynde? Efallai eich bod wedi gweld selsig gan gwmni Edwards o Gonwy yn y siopau. Ieuan Edwards sy biau'r cwmni. Dechreuodd y busnes drideg mlynedd yn ôl pan oedd Ieuan yn brentis cigydd yn Llanrwst, yn Nyffryn Conwy. Erbyn hyn mae yna 80 o bobl yn gweithio i'r cwmni. Dyma Ieuan yn dweud wrth Gari Wyn sut prynodd o ei siop gyntaf pan oedd o'n ddim ond ugain oed..."

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cydnabyddiaeth i Trefor Lloyd Hughes

Nesaf

Porthmadog