Mae 主播大秀 Radio Cymru ar fin torri tir newydd sbon drwy gyflogi bardd preswyl bob mis.
Bydd un bardd bob mis yn ymrwymo i gynhyrchu nifer o gerddi yn ystod y mis hwnnw a fydd yn ymateb i sgyrsiau, straeon, caneuon neu raglenni cyfan a glywyd ar yr orsaf. Bydd y cerddi wedyn i鈥檞 clywed ar raglenni Radio Cymru.
Gan gychwyn ym mis Ebrill, bydd y cynllun yn anelu i roi cyfle i gynulleidfa Radio Cymru ddod i adnabod y beirdd - a dod i adnabod yr orsaf - yn well. Bydd cyfle i ddeall yr hyn sy鈥檔 ysbrydoli bardd, deall sut byddan nhw鈥檔 mynd ati i gyfansoddi cerdd, ond yn bennaf bydd y gynulleidfa yn clywed mwy o gerddi newydd gan rhai o feirdd Cymru.
鈥淢ae hwn yn brosiect cynhyrfus ac unigryw,鈥 meddai Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru.
鈥淒wi'n edrych ymlaen i glywed ymateb y beirdd i raglenni Radio Cymru ac yn gobeithio y bydd eu hymwneud creadigol nhw 芒鈥檙 orsaf yn cyfoethogi鈥檙 hyn ry鈥檔 ni鈥檔 ei gynnig. Ry鈥檔 ni eisoes wedi gofyn i Llyr Gwyn Lewis, Karen Owen a Llion Jones wneud y gwaith dros y tri mis cyntaf ac mae鈥檙 tri wedi derbyn y gwahoddiad i gyd-weithio 芒 ni. Bydd eu cerddi鈥檔 cynnig un cyfle arall i Radio Cymru hybu beirdd a barddoniaeth yng Nghymru.鈥
Llyr Gwyn Lewis
鈥淢ae hi鈥檔 gyfnod cyffrous dros ben i Radio Cymru wrth i鈥檙 orsaf gynnig amrediad o raglenni a chyflwynwyr newydd,鈥 meddai Llyr Gwyn Lewis.
鈥淩ydw i鈥檔 edrych ymlaen yn fawr felly at gael gwrando ar y lleisiau hyn, ac ar ambell i hen ffefryn hefyd, a chael cyfle i ymateb yn greadigol iddyn nhw.
鈥淕obeithio y gallaf ymateb i鈥檙 pethau sydd wedi denu fy sylw neu ennyn fy chwilfrydedd, boed hynny鈥檔 g芒n ar un o raglenni neu鈥檔 ddadl frwd ar . Fydda i ddim yn oedi chwaith rhag ymateb mewn ffyrdd mwy uniongyrchol, os byddaf yn anghytuno 芒 rhyw sylw neu bod rhywbeth yn codi gwrychyn. Cyn belled 芒鈥檌 fod yn esgor ar gyfle i sgwennu, rydw i鈥檔 edrych ymlaen yn arw at y cyfle i wrando, ymateb, a chyfansoddi.鈥