Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ac mae'r llencyn yn y jel...

Vaughan Roderick | 20:19, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

O safle'r BNP;

Out of a Welsh-speaking population of little more than one million, a staggering 6,000 people went to prison during the campaign, launched by Saunders Lewis in 1968, to secure official status for the Welsh language. Many of those now ageing veterans of a long campaign of civil disobedience and non-violent direct action, and their families, are now watching in impotent horror as the neo-Marxist polytechnic lecturers and town hall parasites who have hijacked Plaid Cymru make a play for the Polish vote- despite the devastating effect of Polish immigration and cheap labour on poor Welsh families and communities.

Byddwch arwrol! Anghofiwch eich "impotent horror". Safwch yn erbyn y "neo-Marxist polytechnic lecturers" yna!

Sefwch yn y bwlch. Oes modd dweud unrhywbeth?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:36 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Roeddwn yn synnu ac wedi siomi'n ddirfawr gweld darpar ymgeisydd ar ran y BNP yn cael ei chyfweld ar Newyddion S4C yr wythnos diwethaf. Vaughan - Beth yw polisi 'r Ö÷²¥´óÐã o ran rhoi platfform/llais i'r bobl hyn?

  • 2. Am 21:51 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Cheap labour? Duh! Mae'r Pwyliaid, fel dinesyddion yr UE, yn cael yr un cyflog minimwm a phawb arall.

  • 3. Am 21:54 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Hollol, hollol anhygoel! Dwi'n gegrwth! Ti'n iawn, does dim modd dweud dim byd!! 8-O

  • 4. Am 23:18 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ond Vaughan, mae pobl yn digon twp i gredu nhw. Does dim ond hala peth amser yn darllen ei gwefan nhw i ddeal fod 'twin-track approach' ar waith fan hyn.

    Mae llawer o beth mae'n nhw'n dweud i'r wasg dyddiau 'ma ddim yn rhy wahanol I beth mae pobl fel Richard Littlejohn yn dweud yn y Daily Mail. Ond gan balu yn ddwfnach mae'n bosib ffeindio y polisiau 'racist' sy'n cael ei cuddio.

    Un esiampl - mae'n nhw'n dweud, pan caent ei sialensio am fod yn 'racist' [hiliol?] y bydden nhw yn dod lawr fel tunell o 'frics' ar pobl gwyn sy'n torri'r gyfraith. Heb ateb y cwestiwn a ydy'n nhw'n hiliol.

    Ond mae'n bosib i ffeindio nhw'n gofyn am bob moslem gael ei stopio o hedfan ar awyren, a llawer gwaith.

    Roedd Iain Dale yn dweud ni ddylai ni gormod o sylw i'r BNP. Rwy'n gallu gweld fod 'no such thing as bad publicity'. Ond ddylai ni ddim anwybyddu y perygl chwaith.

    Mae 'banio' nhw yn ffordd anghywir o ddelio a nhw - mae rhaid sgwaru lan i'r bygythiad yma.

  • 5. Am 05:46 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Bobi,
    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn dilyn canllawiau manwl adeg etholiad. Yn yr etholiad hwn rydym yn ceisio sicrhai cydraddoldeb sylw rhwng y pedair prif plaid ac yn gwarantu isafswm sylw i unrhyw blaid sydd yn sefyll ym mhob rhnabarth etholiadol. Yr un yw'r trothwy ar gyfer cael darllediad gwelidyddol. Wrth reswm, dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn darlledu deunydd sydd yn hiliol nac yn anghyfreithlon. Yn ogystal a chanllawiau'r Ö÷²¥´óÐã rydym hefyd fel unigolion yn dilyn canllawiau ein hundeb, yr NUJ.

  • 6. Am 11:06 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Sefyllfa anodd i sawl person mae'n siwr? Gyrrodd darllediadau gwleidyddol(Cymareg a Saesneg) y BNP neithiwr ias annifyr i lawr fy asgwrn cefn. Ac oni chlywais fod protest wedi ei threfnu y tu allan i'r Ö÷²¥´óÐã yn rhywle i wrthwynebu darlledu rhain? Gyda chefnogaeth yr NUJ a BECTU??

  • 7. Am 11:49 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Roedd na rhiw gant o bobol yn protestio y tu allan i'r Ö÷²¥´óÐã rhwng chwech a saith neithiwr. Yn ol "Media Guardian" roedd na dorriadau i ddarllediad y BNP ar gais y Ö÷²¥´óÐã. Does gen i ddim gwybodaeth personnol am hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.