Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Am ddiwrnod!

Vaughan Roderick | 19:00, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Dwi'n haeddu peint heno!

I ddyfynnu Betsan ar "Wales Today"; "We are certain of our sources, we stand by our story"

Iechyd da!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:49 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion Gwilym:

    Iechyd da Vaughan, diwrnod difyr iawn!

  • 2. Am 00:40 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Marc Evans:

    Da iawn - fe gei di gen i'r tro nesa!

    Os mai'r bwriad oedd niweidio'r Rhyddfrydwyr trwy ollwng y ddiarhebol gath, dwi'n disgwyl yn hytrach mai Llafur a Phlaid Cymru fydd yn colli wyneb a digio cefnogwyr dros y stori hon.

  • 3. Am 10:50 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ie, ond pan weli di Betsan lawr y 'pyb' rho 'nudge' iddi flogio eto. Mae ei blog yn dda iawn, ond mae yna ambell 'lost weekend' yno fo - 'early days' ontefe..

  • 4. Am 11:56 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Er tegwch i Betsan roedd hi yn y Senedd trwy'r dydd ddoe yn gwneud darnau byw i News24 ac ym Mae Colwyn gyda'r bws cyn hynny! Fe wnaethon ni benderfynu ar ddechrau'r ymgyrch y byddai blogs Cymraeg a Saesneg ar wahân gan Betsan a finnau yn well na un blog ar y cyd a fyddai ar gael yn y ddwy iaith. Mae hynny'n golygu bod 'na rai straeon sydd ond yn ymddangos yn Gymraeg ac eraill sydd ond yn ymddangos yn Saesneg. Dwy'n siŵr y bydd 'na gyfnodau lle y bydd y blog yma'n gymharol segur o gymharu ag un Betsan. Ar ben hynny wrth gwrs mae'r ddau ohonom ni yn ddibynnol ar ein cyd-newyddiadurwyr am straeon - yn enwedig yr anhygoel Rhuanedd Richards.

  • 5. Am 15:31 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Yfwyd sawl gwydraid o win ym Mangor iti neithiwr Vaughan, a hynny o sawl lliw gwleidyddol - rydyn 100% tu ol i dy flog!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.