Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

CWIS

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Sul, 27 Mai 2007

Roeddwn i'n wirioneddol hyderus ynghylch cwestiwn ddoe ond o fewn munudau roedd Sion Gwilym wedi ei ddatrys.

3 + 11 + 18 + 10 = 42
3 - Y mwyafrif y collodd Gwynfor Caerfyrddin
11 - Cartre'r Canghellor
18 - 18 Stryd Doughty - y teledu gwleidyddol ar y we
10 - un o ffilmiau Bo Derek
42 - yr ateb i gwestiwn eithaf bywyd, y bydysawd a phopeth yn ôl Douglas Adams yn yr Hitchhiker's Guide to the Galaxy

Da iawn Sion.

Dw i'n gobeithio cael gwell lwc da hwn!

Fedrwch chi ffurfio enfys trwy ddefnyddio ymerodraeth alltud Caerfaddon, y "Clitheroe Kid", fy nghariad i (nid fi'n bersonol!), hen sedd Durham ac arwr ein pentref bach ni?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:59 ar 27 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    OK......

    Ymerodaeth alltud Caerfaddon = Haile Selassie I o Eithiopia (Lliwia baner = COCH, MELYN a GWYRDD)

    Un o'r actorion ar sioe James Rpbertson Clitheroe (Clitheroe Kid) oedd VIOLET Carson

    Mi odd Richard Lumley yn aelod o deulu mawr Durham (ag yn Lord Luitenant o Durham) ag yn un o'r saith wnaeth wahaodd William yr OREN i drio concro Lloegr

    Ma Sam Tan yn gwisgo GLAS

    sy'n gadal Porffor/Indigo a "fy nghariad i"? Dwi'n sdyc!Ma na ffasiwn beth a'r "Indigo Love of Reading Fund" ond swn in meddwl bo hwnna lot rhy vague!

  • 2. Am 16:09 ar 27 Mai 2007, ysgrifennodd haydn hughes:

    Onid yw'r canghellor yn byw yn rhif 10 Downing St ers rhai blynyddoedd nawr?

  • 3. Am 08:27 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mae hwn yn achosi trafferth! Mae Guto wedi mynd peth o'r ffordd. Mae Ethiopia a Sam Tan yn gywir, Rhaid chwio am N,F ac Y felly.

  • 4. Am 09:27 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Roedd Diana Day, yr actores a gymrodd rhan chwaer Jimmy Clitheroe yn ei gyfres radio hefyd yn y ffilm "Rainbow Round the Corner" yn 1944???

  • 5. Am 10:27 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Jimmy C yn byw yn Lilac Avenue...pa liw yw lilac ?

  • 6. Am 10:40 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cliw bach arall. Yn y cyd-destun yma nid Jimmy Clitheroe yw'r "Clitheroe Kid" chwiliwch am wleidydd!

  • 7. Am 10:44 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Hen Sedd Durham Ynys Metgawdd...Lliw Medd yn Goch ?

  • 8. Am 10:47 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Ac:.....
    Ar Lan y mor y mae fy mwriad
    Ar lan y mor y mae f'anwylyd
    Ar Lan y Mor y mae fy ngariad
    Sy'n darllen blogs gan Vaughan Roderick !!!

    Sori....

  • 9. Am 13:02 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    O reit, felly dim chwylio am y lliwia yda ni!

    Ethipia
    N
    F
    Ynys Metgawdd (Lindisfarne)
    Sam Tan

    Bach yn vague ella ond y gwleidydd sy'n dal set Ribble Valley (sydd yn cynnwys tref Clitheroe) ydi Nigel Ebans (ma hwnna'n N yndi!)

  • 10. Am 13:08 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Oh! Ac yn Gaernarfon y term am "fy nghariad i" ydi "Fodan"

    Eithiopia (gwlad Haile Selassie 1)
    Nigel Davies(gwleidydd Clitheroe es 1992)
    Fodan ("fy nghariad i" yn iaith y Cofi)
    Ynys Metgawdd (hen sedd Durham)
    Sam Tan (arwr ein pentref bach ni)

    Agos?

  • 11. Am 13:18 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Nigel Evans - Aelod dros Clitheroe...."King of the Blues"

    Digon Vauaghan - ti wedi gwneud dy bwynt !!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.