Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y diweddara o Aber

Vaughan Roderick | 17:27, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Mae pethau'n symud yn gynt na'r disgwyl. Deallaf y bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn cael ei gynnal o fewn wythnosau i gymeradwyo cytundeb yr enfys. Y son yw bod nifer o'r rhai oedd yn amheus wedi newid eu meddyliau ar ol darllen y ddogfen.

Os ydy'r Cyngor yn cymeradwyo'r ddogfen mae'n debyg y bydd y gwrthbleidiau yn chwilio am reswm/esgus i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y llywodraeth. Efallai y bydd hynny'n digwydd cyn yr haf ond mae'r hydref yn debycach.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:54 ar 26 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Gwych! Ewch amdanni - a'r tro yma dwi'n gobeithio y gwnaith rhai o'r Chwaeroliaeth ddangos ychydig o synnwyr cyffredin a theyrngarwch.

    Fel ACau Plaid Cymru fydd yn braf gweld Helen, Bethan, Leanne a Nerys yn cefnogi gweithio dan Prif Weinidog Plaid Cymru yn hytrach na gweithio Phrif Weinidog Lafur.

    Anghofiwch y jingoistiaeth dosbarth ferched - 2007 yw hi nawr nid 1985.

  • 2. Am 23:19 ar 26 Mai 2007, ysgrifennodd Gareth:

    Yn hollol. 2007 ydy hi. Dim ond wyth mlynedd ar ol yr etholiadau cyntaf. Y flaenoriaeth nawr ydy sicrhau bod y pawb yn dod yn gyfarwydd gyda'r pwerau newydd. Nid nawr ydy'r amser i arbrofi! Nid dadlau yn erbyn cynsail Yr Enfys ydw i. Ond cyn iddi weithio go iawn mae rhaid i'r etholwyr ddod yn fwy cyfarwydd a'r syniad yma o gydweithredu rhwng y pleidiau. Ac mae rhaid i'r Cynulliad fel corff fod yn fwy sicr o'i rol deddfwriaethol.

  • 3. Am 08:38 ar 27 Mai 2007, ysgrifennodd CH:

    Os yw Plaid Cymru yn cytuno i'r glymblaid, bydd y blaid Lafur yn ennill yr etholiad Cymreig nesaf yn hawdd, heb wneud dim . Noson yr etholiad , fe grybwyllwyd fod llawer o seddi (e.e. Castellnedd ) yn rai y dylem eu gwylio y tro nesaf. Mae'r penderfyniad hwn yn gydnabyddiaeth fod y Blaid wedi colli gobaith am ennill yr un sedd yn y Cymoedd. Credaf fod gan Blaid Cymru lawer mwy yn gyffredin gydag elfen Gymreiciaf y blaid lafur na gyda'r toriaid. Mae posibilrwydd cryf y bydd y llywodraeth nesaf yn San Steffan yn un Toriaidd. Petai hwn yn un adain-dde, a fuasai clymblaid sy'n cynnwys toriaid yn gallu ei wrthsefyll ?. Yn anffodus, yr unig beth gwaeth na ffurfio'r glymblaid bellach yw peidio ei ffurfio, gan bod yr holl etholwyr bellach yn ymwybodol o'n dymuniadau.
    Dewr iawn. Mae'r holl waith a wnaeth miloedd ohonom fis yn ol yn cael ei wastraffu yn gwireddu bygythiadau'r blaid lafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.