Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pwdi yn y gornel

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Iau, 24 Mai 2007

Reit, mae 'na lawer i drafod heddiw. Fe wnâi gychwyn gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Beth sy'n 'na i ddweud am blaid lle mae un o'i aelodau blaenllaw yn dathlu penderfyniad neithiwr trwy ddatgan ar y Radio Cymru "mae hyn yn golygu y byddai'n gallu mynd i barti Mam Ddydd Sadwrn"?

Mae'n anodd gor-ddweud ynglŷn â'r dirmyg sy 'na tuag at y blaid o gwmpas y senedd. Daw'r dirmyg hwnnw nid yn unig o gyfeiriad disgwyliedig Plaid Cymru a'r Torïaid ond hefyd o aelodau Llafur sy'n elwa o'u penderfyniad.

Mae 'na ddau gwestiwn syml yn cael eu gofyn. Yn gyntaf sut mae plaid sydd a'r gair "Democratiaid" yn ei theitl yn gallu gwrthod yr hawl i'w haelodau gymryd y penderfyniad pwysicaf yn ei hanes. Yn ail sut y gall prif ladmeryddion cynrychiolaeth gyfrannol wrthod cyfle i wneud i'r system weithio gan benderfynu syllu ar eu bogeiliau eu hun am y blynyddoedd nesaf.

Ar ôl dod dros ei siom fe fydd na wenau enfawr ar wynebau Torïaid Powys a Phleidwyr Ceredigion.

Mae hi'n sicr bellach y bydd Rhodri Morgan yn cael ei enwebu fel Prif Weinidog Ddydd Mawrth nesaf. Er bod gan Blaid Cymru, y Torïaid a Trish y niferoedd i'w guro does 'na ddim diben gwneud hynny. Fe fyddai llywodraeth leiafrifol ddwy blaid yn un simsan a byrhoedlog ac o ddim mantais i'r naill blaid na'r llall.

Cwestiwn i Rhodri yw'r cwestiwn nesaf. Yn sgil penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i gerdded o'r cau a phwdi ar ys ystlys oes 'na ddiben ail-gychwyn trafodaethau a Phlaid Cymru neu ydy hi'n well straffaglu ymlaen fel llywodraeth leiafrifol tan yr haf a gweld beth sy'n digwydd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:46 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Ella i ddim disgrifio y siom o benderfyniad y Rh Dem, mae nhw wedi ei 'botlo' hi go iawn. Pwy gyda unrhyw synnwyr neith bleidleisio i Blaid mor ddi asgwrn cefn a hon yn y dyfodol. Mae angen arweinydd newydd...Peter Black.

  • 2. Am 11:00 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Neu efallai ei fod yn bryd dod mewn a 'first past the post' yng Nghymru...

    Wedi'r cwbwl, os odi gymaint o'r Aelodau yn dweud 'gallai ddim gweithio efo hwn/y llall', nid 'PR' yw y system i nhw, i fod yn ffraeth..

    Ond mae e'n gwneud bywyd [a dy flog!] yn llawer mwy diddorol a chyffrous, neu 'ecsiting' fel byddwn ni 'hwntws' yn dweud.

  • 3. Am 13:11 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Methu deall beth yn union mae'r Rhyddfrydwyr eisiau o fywyd - ceisio cael fy mhen rownd eu Rhesymeg ond yn methu'n llwyr. Am beth maint yn ymladd etholiadau ? - am hwyl ???

  • 4. Am 13:18 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    ...a Doedd tad Alex Salmond ddim yn weinidog !!!

  • 5. Am 08:37 ar 25 Mai 2007, ysgrifennodd Peter Black:

    Eleanor's mother is 90. She attended the Executive on Thursday night and voted in favour of the Conference despite the fact that only hours earlier her mother was admitted to hospital and was very ill. Irrespective of all that she will be at the conference on Saturday. When Eleanor said that she was very distressed because of her mother's illness.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.