Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

UM!

Vaughan Roderick | 22:39, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Mae pwyllgor gwaith y Democratiad Rhyddfrydol wedi gwrthod yr enfys.

Beth sy'n digwydd nesaf? Duw... neu Trish Law sy'n gwybod! Mi wnai fentro un sylw. Mae'n drychineb i Mike German a Lembit ac, o bosib, i ddyfodol eu plaid.

Mae na ddewisiadau mawr yn wynebu y pleidiau mawr ond does dim un ohnyn nhw yn wynebu cymaint o argyfwng a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar fe ofynnodd y newyddiadurwr Simon Jenkins "beth yw pwynt y Democratiaid Rhyddfrydol?" Cwestiwn da.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:18 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Gareth:

    Vaughan - cwestiwn Mr Jenkins ydy hefyd byrdwn y rhan fwyaf o'r negeseuon digon cignoeth dwi wedi darllen ar flogiau eraill ers y datganiad!!

    Dydy hi ddim yn ymarferol i Lafur lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol am bedair blynedd heb help rhywun. Ai Plaid fydd hwnnw wedi'r cwbwl? Ydy safiad y 5 wedi cadw cil y drws yn agored tybeb?

  • 2. Am 23:18 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd huw ap pi$$pot:

    Wel, dyna ddiwedd ar freuddwyd Ieuan o fod yn Brif Weinidog. Diolch byth!

  • 3. Am 23:21 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Rwy bron â theimlo dros Mike German. Roedd golwg ofnadw arno ar ôl y pwyllgor.

    Ble awn ni i gyd o fan hyn dwedwch?

  • 4. Am 23:36 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dyma un o gyfnodau mwyaf diddorol yn weleidyddol yng Nghymru, eto da ni yn amherthnasol o safbwynt y wasg a'r cyfryngau prydeinig. Mae'r hyn sydd yn ac wedi digwydd yn haeddu sylw petai dim ond am yr elfen ddramatig.

    Mae yn rhyfedd sut mae pethau yn pendilino

    Dwi yn sylweddoli fod hyn yn academaidd bellach Vaughan ond o'r cynhigon Llafur sydd wedi cyhoeddi faint o'r rhain fyddai wedi bod yn bosibl i'r Blaid ei gwireddu o fewn cymblaid enfys.

    Tybed a fydd cynhigon Llafur yn parhau ar y bwrdd? A ydynt yn gallu ei tynnu yn ol bellach. Dwi yn gwybod bod addewid gwelidyddol mor werthfawr a brechdan "cockroach".

    Pwy sydd a'r llaw uchaf. Llafur am fod LD wedi gwrthod neu yr enfys neu Plaid am fod y cynhigion wedi cyhoeddi ac yn hysbys i'r byd ?

    Dim ond 7 diwrnod yn weddill!!! Oleiaf mae rhaglen y Brawb Mawr ar fin ein ailgychwn. Dwi angen rhywbeth i'm cadw yn ddiddan dros yr Haf ar ol yr holl hwyl. Tybed a fydd modd i mi bleidleisio am Glyn Wise arall

  • 5. Am 23:45 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd aled j:

    Mae'n anodd coelio hyn.Mae'n amlwg bod y Dem Rh wedi penderfynu ei bod hi'n bwysicach cael gwared ar Mike German na chael bod yn rhan o lywodraeth newydd greadigol. Dwi'n meddwl y bydd rhaid i PC ymateb drwy roi gwybod i'r genedl beth oedd y polisiau newydd, cynhyrfus yr oedd yr enfys am eu cyflwyno. Tydio ddim yn gwbl amhosib y byddai ymateb da i'r rheini yn galluogi PC glymbleidio gyda'r Toriaid a Trish Law, ac y caiff y Dm Rhydd eu cywilyddio i gytuno i'w cefnogi o'r tua allan i'r llywodraeth.....

  • 6. Am 23:49 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Huw Waters:

    Bydd y Dem Rhydd yn colli eu hygrededd ar ôl hyn, gan eu bod wedi bygwth y bosibiliad o ailetholiad ar y Cymry.

    Gall Plaid fod mewn sefyllfa gryfach hefyd drwy mynnu bod nhw'n cael yn union be oedd ym mhapur y Blaid Lafur yn ogystal a mwy, neu bydd Llafur o dan bygythiad cael eu gweld fel y rhai sy'n gwrthod cyfaddawdu.

  • 7. Am 23:55 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Shwr fod Rhodri yn damio gwneud ei gynnig desbryt i Plaid yn gyhoeddus rwan tydi! Be neith Llafur os di plaid yn troi rownd a deud "Ia iawn, go on ta!"

  • 8. Am 00:55 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Falch gweld fod un o bapura Lloegr wedi penderfynnu sgwennu am Gymru

    Shwr fod y gohebydd yn damio'r ffaith fod y Times wedi mynd i brint cyn fod y Libs yn datgelu ei pleidlais!

  • 9. Am 07:31 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd americanwr:

    Ateb: parhau yn wrthblaid leiafrifol am byth; methu derbyn cyfrifoldeb; methu cyd-weithio hefo neb; cynyddol amherthnasol

  • 10. Am 09:06 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Mae'n ymddangos i mi fel pe bai'r Democtatiaid Rhyddfrydol, trwy wrthod ymuno â chlymblaid, wedi adfer hygrededd Plaid Cymru! O leiaf, mae syniad yr enfys fondigrybwyll wedi'i gladdu, a thrychineb wleidyddol i'r D.Rh. a hefyd i P.C. wedi'i hosgoi. Mewn difri calon, faint o dir cyffredin fuasai rhwng y ddwy blaid uchod a'r Torïaid i ffurfio llywodraeth sefydlog? Ar ôl cyfnod y 'mis mêl', byddai craciau dwfn wedi ymddangos, a dim modd atal y llywodraeth fregus honno rhag cwympo ar ei phen-ôl!

    Yn awr, aiff Rhodri M. yn ôl i'w hen swydd, o leiaf am y tro, a phwy wyr? - efallai y gwêl Plaid Cymru y ffordd yn glir i ddod i gytundeb â'r Blaid Lafur fel bod polisïau buddiol i Gymru yn dod o'r cawdel hwn!

  • 11. Am 09:21 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Carys:

    Mae'r pwynt am Trish Law yn un diddorol yn arbennig gan gofio mai'r Llywydd yw Dafydd Elis-Thomas felly mae gwrp Plaid â dim ond 14 o bleidleisiau.

  • 12. Am 12:10 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    syrfdannol. Beth yw pwynt y LibDems - asmer i'w haelodau ymuno a phleidiau go iawn.

    Dylse fod cwilydd ar y 4 AC Plaid wnaeth siarad yn erbyn penderyfniad y Grwp. Galle ni nawr fod yn trafod Prif Weinidog cenedlaetholaidd ac agenda gynhryfus fyddai wedi gorfodi i Lafur gael ffrae fewnol a ildio tir yng Nghymru. Mae'n amlwg fod yn well gan HMJ, Leanne a'r ddwy ferch ddi-brofiad hefru mlaen am 'werthoedd' sosialaidd na chymryd grym. Maent cynddrwg a'r LibDems. Pobl sydd well ganddynt brotestio a chael Lalfur yn rheoli na newid Cymru er gwell.

  • 13. Am 15:42 ar 24 Mai 2007, ysgrifennodd Rhodri Moseley:

    Does neb wedi gwneud sylw hyd yn hyn ar yr honiad ar dudalennau'r beeb fod Plaid Cymru hefyd nawr nid yn unig am wrthod siarad a Llafur, ond hefyd am ymatal bwrw pleidlais am Brif Weinidog ddydd Mawrth. Vaughan, wyt ti'n medru cadarnhau y datganiad yma? Beth yw dy ddadansoddiad? Ydyn nhw o ddifri am weld llywodraeth leiafrifol Llafur yn hytrach na defnyddio'r unig siawns erbyn hyn i lywodraethu ar y cyd? Alla i ddim credu'r peth fy hunan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.