Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Blog BYW 12-1

Vaughan Roderick | 00:00, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

49% wedi pleileisio ym Mon.

12. 22 Mae'n dawel...... duw fi eisiau clywed canlyniadau!

12.23; Y toriaid yn dweud mai nhw sydd ar y blaen ym mhleidlais ranbarthol Aberconwy

12.39 Llafur yn cyfaddef ei bod wedi colli Llanelli

12.50 Carwyn Jones mewn trafferthion ym Mhenybont

12.54 Democratiad Rhyddfrydol yn cyfaddef eu bod am fethu yng Ngheredigion

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:03 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Beth oedd y turnout yn Ynys Món yn 2003?

  • 2. Am 00:18 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd mourner:

    Gweler "exit pol" ar safle we Gwlad Rugby.com:

  • 3. Am 00:19 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Dyma fe. 50.28% yn 2003 felly dim newid mawr ers 2003. Ydy hyn yn dda i IWJ - hynny yw fod y turnout ddim yn isel o'i gymharu a 2003?

  • 4. Am 00:24 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Fi 'fyd Vaughan. Unrhyw syniad o gwbl lle fydd hwnnw?

    A ia, beth am Fon Vaughan? Beth sydd am ddigwydd ym Mon ...

    ... Vaughan?

  • 5. Am 00:29 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd mark:

    Something about the Tory party’s list of hopefuls caught my eye.
    Henrietta Hensher, Daisy Meyland-Smith, Gerry Frobisher, Felicity Elphick, Norma Lloyd-Nesling, Antoinette Sandbach…
    Real people?
    Or characters from a Jilly Cooper novel?

  • 6. Am 00:40 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Gosh 'the horsey set' ! Roedd Lembit Opik wedi cael sioc - nid oedd yn disgwyl gorfod bod yn y stiwdio nes saith o'r gloch y bore ! Oedd e wedi addo bod rhywle arall tybed ?

    'Priceless !'

  • 7. Am 00:40 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    A'i fi ydi'r unig un sydd yn dechrau meddwl wrth glywed yr holl negeseuon yma, fod hon yn mynd i fod yn noson gwaeth na'r disgwyl i Lafur.
    Hwyl fawr Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur Cymru?
    Wythnos nesaf efo Blair a Rhodri yn mynd, yn wythnos o lyfu clwyfau ac ail drefnu a pigo'r darnau i Llafur.

  • 8. Am 00:42 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Seiriol:

    Unrhyw newyddion o Gaerffili?

  • 9. Am 00:43 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Sian Pearce:

    Noswaith dda, o dysgwr cymraeg yn Abertawe!
    Edrych ymlaen i gwylio'r etholiadau yn Nghymru a'r Alban.

  • 10. Am 00:44 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Pa bris oedd Jack Brown yn ei gynnig ar glymblaid amryliw i ffurfio'r llywodraeth nesa?

  • 11. Am 00:45 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Mabon ap Gwynfor:

    Hyderus y bydd Ceredigion yn iawn i Elin. Oes newydd o Faldwyn? Efallai y bydd canlyniad gwael i'r Rhyddfrydwyr ym Maldwyn yn dysgu gwers i'r Rhyddfrydwyr.

  • 12. Am 00:54 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Hei Vaughn pa newydd o'r seddau Llafur 'saff', fel y Rhondda a Chwm Cynon a Phontypridd? Llafur yn dal eu pleidlais i fyny?

  • 13. Am 00:55 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Cymru'n Deffro?:

    Gyda'r Alban yn defnyddio'r dechnoleg newydd o gyfri pledleisiau. A oes lle i ni yng Nghymru i ddilyn y drefn hon ac efallai cael UNRHYW ganlyniad cyn syrthio i gysgu? :)

  • 14. Am 01:36 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Huw Morgan Jones:

    Be ellir ei ddarogan o'r ganran wedi pledleisio ym Mon??

    a be am Dafydd Wigley - unryw newydd ar y sin honno??X

  • 15. Am 01:37 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Coffi cynta'r noson....meddwl fod Rhodri yn edrych fel ei fod wedi gweld ysbryd yn ystod ei gyfweliad yn gynharach.
    Bydd y canlyniadau'n hedfan i mewn yn fuan.

  • 16. Am 02:16 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Llongyfarchiadau Trish Law, gyda mwyafrif uwch rwy'n credu?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.