Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Blog Byw 1 - 4

Vaughan Roderick | 01:04, Dydd Gwener, 4 Mai 2007

O am ganlyniad! Plis ...hyd yn oed pleidlais restr Aberafan....

1.25 Plaid Cymru'n agos yng Nghastell Nedd yn ol y Democratiaid Rhddfrydol Llaur yn halio ei bodam gadw gorll Caerfyrddin

1.30 Mae Llafur yn poeni yn Islwyn

Bro Morgannwg yn agos iawn yn ol y Toriaid

Y turnout o leiaf pump y cant yn fwy na 2003

Diolch byth!!!! Canlyniad Islwyn. Trychineb i Lafur ond yr ymgeisydd annibynnol yn achub eu croen! Afydd hynny'n digwydd yng Nghaerffili?

2.15 Blaenau Gwent...dim problemau i Trish Law y gwrthryfel yn parhau!

Llafur ar y blaen o 100 yn Nyffryn Clwyd

Andrew Davies nol....nae'n ddyn lwcus iawn bod dim un o'r gwrthbleidiau yn llwyddo i sefydlu ri hum fel y dewis clir

Caerffili.....Mae Llafur yn lwcus heno ...y bleidlais yn syrthio ond neb yn elwa!

Castell Nedd un i wylio tro nesaf

LLanelli y sibrydion yn gywir felly ...200 rhwng Plaid a Llafur yng Ngorllewin Caerfyrddin

MWY Mae'r Toriaid yn y ras yng Ngorllewin Caerfyrdddin hefyd ac o bosib ar y blaen o drwch blewyn

Rhodri yn ol. Y Democrat Rhyddfrydol yn olaf...od gan mae "ras dau geffyl yw hon" Gallai seddi rhestr Elinor Burnham a Peter Black bod yn fregus.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:08 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Cytuno Vaughan! Mae gennai fws i'w ddal am 7:30!

  • 2. Am 01:08 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Mabon ap Gwynfor:

    Nia Griffith wedi rhoi canlyniad i bob pwrpas i Huw Edwards nawr - 'Not a success as far as we are concerned' neu rwbeth wedodd hi, gyda mwyafrif mwy na'r disgwyl i'r Blaid.

  • 3. Am 01:15 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Nia:

    Ma son fydd tipyn o aros am y canlyniadau... Pa ardal fydd gyntaf sgwn i?

  • 4. Am 01:19 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Helen:

    Rhaid imi sôn y tro hwn am wahaniaethu cadarnhaol yng nghyd-destun ymgeiswyr, eu trefn mewn rhestri rhanbarthol, a hefyd am ymdrech y gwahanol bleidiau i sicrhau cynrychiolaeth deg .....

    I ddechrau, mae angen cofio bod Janet Ryder eisoes yn AC, felly pam y dylai hi ildio ei sedd i neb arall? Does dim rheswm o gwbl dros hyd yn oed grybwyll y fath syniad!!!

    Yn ail, efallai bod ymgais i unioni tan-gynrychiolaeth flaenorol yn cael cryn sylw yn yr oes sy ohoni - yn wir, mae'n bosibl fod yr union derminoleg 'gwahaniaethu cadarnhaol' yn gymharol ddiweddar, ond dyw'r cysyniad ddim! Cofiaf glywed beth amser yn ôl, yng nghyd-destun tan-gyflawni gan fechgyn mewn arholiadau TGAU, ei bod yn gydnabyddedig ers degawdau fod perfformiad bechgyn yn tueddu i fod yn is na merched o'r un oedran, i'r graddau fel bod lwfans yn cael ei wneud dros fechgyn adeg arholiad yr 11+ ers talwm, dim ond i sicrhau y byddai niferoedd cyfartal o fechgyn ag o ferched yn cael lle mewn ysgolion gramadeg! Os felly, o gofio y byddai nifer fawr o fechgyn wedi cael lle mewn ysgol ramadeg oherwydd gwahaniaethu cadarnhaol o'u plaid nhw y pryd hynny, onid yw hi'n hen bryd i bobl ddistewi yngly^n â'r mater hwn?

  • 5. Am 01:24 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwen:

    pryd o pryd y bydd pethau'n dod drwodd? alun davies ar radio cymru heb feddwl am be sy'n digwydd fory?!

  • 6. Am 01:30 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gareth:

    Islwyn: pwy sy'n arwain, Plaid neu Kevin?

  • 7. Am 01:42 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Seiriol:

    Diddorol sôn am Carwyn Jones - roedd yn swnio'n hyderus -iawn- ar Radio Cymru.

    Ond beth am Mike German?

    O dan fygythiad?

    Pwy fydd yn camu i'r adwy?

  • 8. Am 01:47 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Pam na wnes i roi £10 ar glymblaid amryliw i ffurfio'r llywodraeth nesaf? Damia!

  • 9. Am 02:31 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys:

    O feddwl mai ffrae ynglyn a dethol ymgeiswyr benywaidd oedd wrth wraidd sefydlu Llais y Bobl, mae canlyniad Blaenau Gwent yn 'gyfiawnder barddol' go iawn. Da iawn Trish!

  • 10. Am 02:39 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Oes gan rhywyn wybodaeth am Aberconwy a Gorllewin Penfro?

  • 11. Am 02:40 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Gawn i weld effaith yr ymgeisydd annibynil yng Nghaerffili, Islwyn ac Ynys Mon ar bleidlais Plaid Cymru o ganlyniadau'r rhestr rhanbarthol.

  • 12. Am 02:45 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Catrin Alun:

    Plis, plis ewch yn ol at Rebeca Jones i weld be' sy'n digwydd yng Nghastell Nedd!!!!!!!

  • 13. Am 02:50 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Seiriol:

    Gwerth gwrando ar Dafydd Êl ar Radio Cymru.

    Y cyhoedd yn fwy clyfar na'r gwleidyddion - eu bod nhw eisiau'r pwerau newydd yn y Cynulliad a bod y canlyniad yn ddangosiad o ymwybyddiaeth newydd o wleidyddiaeth cymreig ... Canmol IWJ i'r cymylau ... "Llafur wedi cael cweir" ... diddorol iawn.

  • 14. Am 03:15 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Mr G:

    Mae yna blaid o'r enw Annibynnol yn bwrw gwreiddiau yn y cymoedd. Enill pleidleisiau draddodiadol Llafur - yr union rai mae'r Blaid wedi bod yn eu ceisio ers blynyddoedd. Ai dyma sdori'r etholiad - ymddangosiad Plaid y Cymoedd?

  • 15. Am 03:21 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Llongyfarchiadau i Dafydd El ac i Alun Ffred...braf gweld yr ymgeisydd Llafur yn drydedd gwael yn Dwyfor Meirionnydd yn sgil y celwyddau mae'r Blaid Lafur wedi bod yn ei ddweud ynglyn a dyfodol Ysbyty Coffa Ffestiniog.
    Yn Arfon, efallai neith Mr Eaglestone dderbyn bellach nad yw etholwyr yr ardal honno yn dymuno ei weld o nac Llafur yn eu cynrychioli.

  • 16. Am 03:27 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Nia:

    Plaid wedi cipio Llanelli gyda dros 50% o'r bleidlais.

  • 17. Am 03:31 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Canlyniadau yn dod i mewn, Llafur, er yn colli pleidleisau yn dal i enill seddi.
    Be da chi'n darogan fel canlyniad terfynol gan fod rhywun yn gallu rhagweld be fydd canlyniadau rhanbarthol?

  • 18. Am 03:38 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Ydy'n debygol i'r annibynwyr cipio sedd ar y restr rhanbarthol yn Ne Ddwyrain Gwent.

  • 19. Am 03:46 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd niclas y glais:

    Vaughan
    Mae raid dy fod ti wedi sylwi fod yr "eraill" yn gwneud yn syfrdanol ar rhestr y Gogledd. Ai'r BNP ydi hynny? Mae angen i bobol gael gwybod, er mor uffernol ydio bod nhw mewn lle i ennill sedd... tyd laen - hwn di stori'r etholiad.

  • 20. Am 03:54 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Dai:

    Vaughan:

    Diolch am gadw hiwmor yn ystod y noswaith - hyfryd yw gweld pobl sydd ddim yn hollol sych ar y testun o wleidyddiaeth!

    Bydd gwleidyddiaeth Cymru yn hynod ddiddorol yn ystod y blynydde nesa - gobeithio gwelwch wellhad yn safon y llywodraeth ac r'wyn gobeithio gwelwn ni leuhad mewn maint llywodraeth - dyna'r llywethyr penna ar economi Cymru. Faint o gyfran economi Iwerddon sy'n ddibynnol ar y sector gyhoeddus? - dim byd tebyg i Gymru - a dyna pam fod ni yn sefyllfa economaidd arswydus, yn enwedig yng nghefn gwlad.

    Gyda llaw - mae angen gwersi Cymraeg ar rai o'n swyddogion - mae'n bechod gorfod gwrando arnynt ....

    dai

  • 21. Am 03:55 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Dewi - ers pa bryd y bu hi'n debygol bod plaid Cymru am gipio Arfon? Byddwn innau hefyd yn disgwyl mwy o sylw i'r etholateh NEWYDD SBON yma, yn enwedig a sawl newyddiadurwr wedi dweud heno wrth gyfeirio at Aberconwy bod Llafur wedi colli cadarnle fel Bangor!

  • 22. Am 04:06 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Huw Morgan Jones:

    Wehei! Plaid Cenedlaethol Cymru wedi ennill eu sedd yn Ynys Mon.

    Mae Llafur ar ei lawr - ond ddim digon i'r pleidiau eraill gymryd rhai o'r seddi. Braidd yn gyted am hyna.

    Dwi'n poeni braidd am y sedd ranbarthol, dwi'n gobeithio yn bydd Dafydd Wigley mewn...amser a ddengys. huw X

  • 23. Am 04:25 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Vaughan,
    Cytuno efo dy ddamcaniaeth di o'r cynydd ym mhleidlais y Ceidwadwyr.
    Credaf hefyd fod y ffaith fod y Cynulliad yn cael rhagor o rymoedd yn ffactor arall am y codiad cyffredinol yn y bledlais ar draws Gymru.

  • 24. Am 04:26 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Ydi canlyniad Preseli Penfro yn golygu y bydd y Ceidwadwyr yn colli Glyn Davies a Lisa Francis oddi ar y rhestr Canolbarth?
    Byddai hynny yn drieni gan fod y ddau ohonynt yn fobol da ac yn wleidyddion cydwybodol dros ben sydd wedi gweithio yn galed iawn ar lawr gwlad yn enwedig ar fater dyfodol yr Ysbyty Coffa yma yn Stiniog.

    Bore difyr gyfeillion!

  • 25. Am 04:54 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Simon Thomas:

    Diddorol fod Neil McEvoy wedi gwneud cystal yng Ngorllewin Caerdydd, mae'n dechrau edrych fel marginal tair ffordd ar ol i Rhodri fynd...

  • 26. Am 05:19 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Gwilym Euros:

    Sut fydd y rhestri rhanbarthol yn edrych Vaughan?

  • 27. Am 09:03 ar 4 Mai 2007, ysgrifennodd Rhian Jones:

    Rydw i'n anhapus iawn gan sylw a glywais gan un o swyddogion yr orsaf bleidleisio yng Nghrymych, am 9.55 p.m. neithiwr. Doedd e ddim yn rhan o'r broses gyfri fel mae'n digwydd ond fe ddywedodd na fyddai'r cardiau'n cael eu cyfri'n drwyadl achos yn ei brofiad ef, does neb yn siecio ta beth!Hoffwn i felly ofyn am i'r cardiau pleidleisio ar gyfer Preseli Penfro gael eu hail gyfri achos mae'r canlyniad, bod y Ceidwadwyr yn cipio'r sedd, yn un amheus iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.