Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y cynnig Llafur

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mercher, 23 Mai 2007

Mae Llafur newydd gyhoeddi ei chynnig i Blaid Cymru.

Mae'r ddogfen yn rhestri pump "piler" i'r cytundeb. Dyma grynodeb.

1. Cymru Gryfach

Refferendwm ar bwerau deddfwriaethol erbyn 2011
Comisiwn annibynnol ar fformiwla Barnett
Mesur iaith newydd (i'w drafod ymhellach)
Strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg gyfrwng Gymraeg
Symud adrannau'r cynulliad i'r Gogledd, y Gorllewin a'r cymoedd

2. Gwlad Menter

Ymestyn cymorth trethi busnes
Sefydlu Academi Wyddonol i Gymru
Cynllun peilot ar liniaduron i blant ysgol

3. Byw yn Gynaliadwy

Targedau i leihau rhyddhâi carbon
Grantiau i wella cadwraeth ynni
Cynllun datblygu i'r ardaloedd gwledig

4. Iechyd

Addewidion pendant ynghylch ad-drefnu ysbytai (i'w trafod ymhellach)
Siartr hawliau cleifion
Un nyrs i bob ysgol uwchradd
Cynllun peilot canolfannau "byw yn iach"

5. Cyfiawnder Cymdeithasol

Ceisio sicrhâi gofal plant fforddiadwy i bawb
Grantiau i brynwyr tai neu fesurau eraill i sicrhâi tai fforddiadwy
Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr
Cymorth ychwanegol i bensiynwyr sy'n talu trethi cyngor

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:33 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Helen Smith:

    Sylfaen gref i adeiladu arni, dybiwn i, felly mae'n ddirgelwch imi pam y rhoddodd Ieuan WJ y gorau i'r trafodaethau. Rwysut, dwy ddim yn credu y gallai'r Blaid glosio at y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol i greu pecyn a fyddai'n adlewyrchu dymuniadau'r pleidleiswyr. Unwaith eto, soniaf am y mandad hollbwysig ac am bwysigrwydd dymuniadau'r etholwyr yn hyn o beth, a chredaf mai clymblaid ar y chwith fyddai'r ateb. Mae'r 'stalemate' hwn yn dechrau mynd yn ddiflas ....

  • 2. Am 17:19 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    vaughan - faint o sail sydd i'r rhain? Oedd y Blaid Lafur fel plaid yn cytuno a nhw neu dim ond awgrymiadau Rhodri Morgan?

    Pam gadael y cynnigion yma mor hwyr -Rhodri Morgan a Llafur am gadw pwer - mae'n rhaid eu bod yn pryderi. Da iawn Plaid!

  • 3. Am 17:38 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Roedd y blaid wedi rhoi rhyddid llwyr i Rhodri lunio'r cytundeb fel dwy'n deall pethau. Roedd Jane Hutt a rhan bwysig yn y trafod hefyd.

  • 4. Am 17:51 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Huw Waters:

    Rhaid i mi ddeud, yr Academi Wyddonol Cymreig yw un o'r syniadau mwyaf gwreiddiol (er yn amlwg dipyn) yn gall cael ei gyflwyno mewn llywodraeth, a y byddai'n gallu hybu busnes yn fawr.

    Colled i'r Blaid Lafur, na glywais i am hyn cyn pleidleisio.

  • 5. Am 17:59 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    diddorol. Os ydy'r Libdems yn penderfynnu mynd yn erbyn yr Enfys yna i bob pwrpas mae'r Glymblaid drosodd. yn y sefyllfa hynny, efallai byddai'n werth edrych ar gynigion Llafur.

    Os felly, oni ddyliau PC mynnu mynd i Glymbaid ffurfiol a Llafur - beth yw'r pwynt cael lalfur yn gweithredu polisiau PC ond fod PC ddim yn y Llywodraeth i wneud y job yn iawn? Mae hynny'n hurt i'm meddwl i.

  • 6. Am 22:11 ar 23 Mai 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Mae copi llawn o'r ddogfen ar gael ar wefan y Western Mail:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.