Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hirddydd Haf

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Mae dyddiau'r cŵn yn nesu pan fyddwn ni'r newyddiadurwr yn chwilota am rywbeth, unrhyw beth, i lenwi'n bwletinau a'n papurau. Roeddwn i'n meddwl bod canlyniadau arolwg Beaufort yn ddiddorol heb fod yn ysgytwol ond mae'r Western Mail wedi eu dyrchafu i fod yn brif stori. Cofiwch os mai "Deadly Toy Dog" y Daily Post oedd y dewis arall i arwain y papur dw i'n meddwl y byswn i wedi heipio'r pôl hefyd!

Yr hyn y mae'r arolwg, ynghyd ac un diweddar y Ö÷²¥´óÐã, yn awgrymu yw y bydd y llywodraeth newydd yn mwynhau dipyn o fis mel a chyda cadoediad gwleidyddol yr Haf ar fin cyrraedd fe fydd hi'n rhai misoedd eto cyn i unrhyw graciau ddechrau ymddangos.

Mae un broblem bosib wedi ei datrys. Gyda chydsyniad y Torïaid fe fydd Dafydd Elis Thomas a Rosemary Butler yn parhau fel llywydd a dirprwy llywydd. Er nad yw'r pwnc ar yr agenda fe fydd cynnig i'r perwyl hwnnw yn cael ei gyflwyno yn ystod sesiwn lawn y cynulliad heddiw.

Gallai hynny fod yn bwysig yn y dyfodol. Gyda Dafydd a Rosemary wedi eu gwahardd rhag pleidleisio 39 yw cyfanswm pleidleisiau'r llywodraeth, un yn brin o'r ddwy ran o dair sydd angen o bryd i gilydd. Y ffactor hynny ynghyd a chynnig cadeiryddiaeth y Pwyllgor Archwilio i David Melding wnaeth ddarbwyllo'r Ceidwadwyr i ildio ei hawl i eistedd yn y set fawr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:20 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dyfrig Thomas:

    Onid yw hyn yn golygu y gall cefnogaeth Trish Law fod yn dyngedfennol ar adegau fel hyn?

  • 2. Am 09:48 ar 12 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Padarn:

    Os oes angen mwyafrif o ddwy ran o dair, onid yw 39 yn ddigon i drechu'r 19 sy'n weddill (sef 18 Tori, 6 Rhyddfrydwr a Trish Law)?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.