Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

SIOC!

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Mae un o bapurau Llundain wedi sylwi ar wleidyddiaeth Cymru. Yn y mae Michael White yn dweud hyn;

"Not many people in England seem to care very much, but nationalist politics within the British (or is it Atlantic?) Isles take a significant step forward today when a politician called Ieuan Wyn Jones is appointed deputy first minister of Wales."

Wel efallai y byddai ots da pobol yn Lloegr pe bai Michael a'i debyg yn talu mwy o sylw neu yn cofio bod gan eu papurau ddarllenwyr yng Nghymru.

Un o'r rheiny sy'n gwybod fawr ddim am Gymru yw Arglwydd Glentoran llefarydd newydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi. Hwn, heb os, yw dyfyniad y dydd;

"As far as the politics of Wales is concerned, as of 48 hours ago I knew absolutely nothing. I now know nothing, plus a bit. I know nothing about the politics but I know quite a lot about the geography, having climbed most of the mountains."


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:15 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Gwylan:

    Mae geiriau Glentoran yn gyfystyr a llythyr o ymddiswyddiad. Dim ond un peth all ddigwydd nawr. Ar ol cyfaddefiad o'r fath rhaid i Toriaid
    apwyntio rhywun arall yn ei le. Mae'r holl beth yn chwerthynllyd ac yn ergyd i hygrededd y Toriaid yng Nghymru. Druan a nhw - a ni'n meddwl fod agwedd y Toriaid at Gymru wedi newid.


  • 2. Am 12:40 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Aled Griffiths:

    Da iawn wir, mae Cymru wedi neud e i mewn i tudalenau un o'r "nationals". Na'r quota am eleni am wn i, cawn ni ddim mwy o son am "the principality" nawr am flwyddyn arall!

  • 3. Am 16:09 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dyfrig Thomas:

    Arglwydd Glentoran llefarydd newydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi:

    "As far as the politics of Wales is concerned, as of 48 hours ago I knew absolutely nothing. I now know nothing, plus a bit. I know nothing about the politics but I know quite a lot about the geography, having climbed most of the mountains."

    Felly nid yw'r Blaid Geidwadol wedi newid DIM ers dyddiau Redwood !!

  • 4. Am 16:51 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    ti'n gwybod y peth difyra Vaughan? Sai'n becso be mae Llunden yn feddwl.

    Mae gwleidyddiaeth Cymru mor wahanol bellach mae ar pace wahanol i Lundain. Mae Llundain yn bwysig siwr iawn, ond dyw'r pethe sy'n cael eu trafod yno ddim yn relefant i'n bywydau ni ar y cyfan. Gadwch iddyn nhw fyw eu breuddwyd o Brydain unedig c1955.

    Erthygl dda yn y Glasgow Herald:

    ffeindies i e ar y wefan wych yma:

    Mae'r cenedlaetholwyr Cymreig, Albanaidd a Seisnig yn bwrw ymlaen gyda'u bywydau ... pa ots am Lundain?

  • 5. Am 17:35 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Fel darllenwr ffyddlon or Guardian dwi'n falch iawn or cydnabyddiaeth yma dwi wedi sgwennu digon yn gofyn pam does na fyth newyddion o Gymru, yr Alban ar Iwerddon yn y papur. Hwyrach eu bod wedi sylweddoli fod yna ddarlenwyr tu allan i Islington!!

  • 6. Am 18:17 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    D. Enw.

    Diolch am y ddolen. Pa ots am Lundain wir ?

  • 7. Am 20:33 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Emyr:

    Fel Guardianista pybyr arall, rhaid cytuno a thi Arfon.

    Yr unig driniaeth ddeallus mae gwleidyddiaeth Cymru'n ei chael yw colofn Hywel Williams - a Thori ydi hwnnw (er difyred a huotled ei waith), sy'n ei gwneud hi'n hawdd i drigolion Islington barhau i gredu'r rwtsh y mae chattering Kim a'i debyg yn bwydo iddynt mai cenedlaetholdeb adain dde yw sail unrhyw ddeisyfiad dros fynegiant gwleidyddol o hunaniaeth Gymreig.

    Dyna ni. Teimlo'n well rwan.

  • 8. Am 09:58 ar 12 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Mae'r blincin fuwch Siambo wedi cael mwy o sylw gan Radio 4 na holl etholiad ac oblygiadau cyfansoddiadol Cymru ar y DU.

    Man a man i ni gael annibynniaeth, fydde'r Saeson ddim callach!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.