Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion o'r siambr

Vaughan Roderick | 14:28, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Roedd hi'n brynhawn rhyfedd yn siambr heddiw wrth i Ieuan Wyn Jones gymryd yr awenau fel dirprwy brif weinidog. Yn yr oriel roedd 'na bedair cenhedlaeth o deulu Ieuan o'i fam i'w wyres fach. Hefyd yn bresennol roedd rhai o hen stejers Plaid Cymru gan gynnwys y bytholwyrdd Glyn James a fu'n llais unig dros ei blaid am ddegawdau yn y Rhondda.

Roedd pob un o aelodau cynulliad Plaid Cymru yn bresennol, wrth reswm. Roedd hynny i'w disgwyl. Roedd pob un Ceidwadwr yno hefyd a phob un Democrat Rhyddfrydol.

Ond nid Rhodri oedd yr unig aelod oedd yn absennol o'r meinciau Llafur. Dim Huw Lewis. Dim Anne Jones. Dim Lynne Neagle. Dim Karen Sinclair. Fe adawodd Irene James y siambr wrth i Ieuan godi ar ei draed.

Y rheswm am absenoldeb rhai o'r aelodau yn ôl y Llywydd oedd eu bod yn mynychu cyfarfod pwyllgor busnes. Mae ambell aelod arall yn pendroni pa bwyllgor sydd ond yn cynnwys yr union aelodau Llafur hynny oedd yn gwrthwynebu’r glymblaid. Cwestiwn da.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:27 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Ti'n gwbod fod pethe'n mynd yn dda pan mae'r ochor arall yn dechre pwdu...

  • 2. Am 19:47 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Twll eu tinnau!

    gwynt teg ar eu hol!

  • 3. Am 20:28 ar 11 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dafydd Pritchard:

    ... o leiaf roedd lefel IQ y Siambr wedi codi'n sylweddol am gyfnod byr y pnawn 'ma.

  • 4. Am 09:07 ar 12 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    ...eu colled nhw...

    Mor dda i glywed bod Glyn James yn bresennol. Roedd Glyn yn llanw'r lle oedd y 5 rebel Llafur wedi gadael ar eu hôl yn hawdd iawn. Siawns bod neb yn gweld eu heisiau nhw wedyn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.