Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Joe a German

Vaughan Roderick | 13:04, Dydd Llun, 5 Tachwedd 2007

Oce, dw i'n gwybod bod y gymhariaeth yn un cwbwl rhyfedd ond dyma gwestiwn i chi. Ai Mike German yw Joe Calzaghe gwleidyddiaeth Cymru?

Dros y mis diwethaf mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn cynnal ei fersiwn nhw o "re-unification bout" i sicrhâi bod gan y Blaid un arweinydd cyhoeddus yn unig yn y dyfodol yn lle'r cawlach o gael arweinydd Cymreig nad oedd yn Aelod Cynulliad.

Wrth gwrs dyw Mike ddim wedi gorfod paffio am ei wobr ar ôl i Lembit ddewis sefyll o'r neilltu a hongian ei felt yn wardrob Gabriella. Mae'r teitl yn dipyn o wobr gysur mewn gwirionedd gan fod Mike wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar yr amod ei fod yn rhoi'r twls ar y bar ymhen rhyw flwyddyn.

Yn y cyfamser mae'r Blaid yn cynnal etholiad sydd hyd yn oed yn llai diddorol na'r ras rhwng Chris Huhne a Nick Clegg i ddewis llywydd newydd y Blaid yng Nghymru. Y cyn AC Christine Humphries, yr Athro John Last a'r Cynghorydd Bob Barton yw'r ymgeiswyr. Eisiau gwybod mwy? Doeddwn i ddim yn credu eich bod chi! Serch hynny mae'r swydd yn gallu bod yn un pwysig. Ym marn llawer, stranciau'r cyn-lywydd "Red Rob" Humphreys oedd yn bennaf gyfrifol am dranc yr enfys.

Cyn belled a mae Mike druan yn y cwestiwn mae "Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru" yn deitl digon dymunol ond dim hanner cystal â dirprwy brif weinidog!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:39 ar 5 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Pwy?:

    Pwy yw 'y cyn AC Christine Humphries?' Mae gen i rhyw gof mod i wedi clywed yr enw o'r blaen ond fedrai ddim cofio dim mwy amdani. Fedri di fy ngoleuo? A tra fyddi di wrthi, pwy yw'r ddau arall?

  • 2. Am 14:44 ar 5 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Anonymous:

    Fe gynrychiolodd Christine ranbarth y Gogledd yn y cynulliad cyntaf cyn ymddeol am resymau iechyd. Mae'n Gymraes Gymraeg o Lanrwst. Cynghorydd o Sir Ddinbych yw Bob Barton. Dw i ddim yn nabod y trydydd ymgeisydd ond mae'n debyg ei fod yn ymgyrchu fel "tecnocrat" fydd yn gwella trefiadaeth y Blaid

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.