Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tyngu llw

Vaughan Roderick | 15:18, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2007

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i fi ac nid dim ond oherwydd bod hi'n ddiwrnod CF99! Y bore 'ma derbyniodd fy mhartner ddinasyddiaeth Brydeinig mewn seremoni yn y TÅ· Mansiwn yng Nghaerdydd.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o sinig pan gyhoeddodd David Blunkett y bwriad i gynnal y seremonïau yma. Roedd hi'n ymddangos yn un o'r gimics hynny yr oedd y cyn Ysgrifennydd Cartref mor hoff ohonyn nhw. Dyma oedd ei esboniad ef ar y pryd.

"We should value, promote and give real content to the acquisition to British nationality and the process of integration... becoming a British passport holder will not just be a piece of paper arriving in a brown envelope alongside the gas bill"

Dw i dal yn amheus o'r rhesymeg. Cyn gwneud cais am ddinasyddiaeth mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod a'r hawl barhaol i breswylio ym Mhrydain. Dyw cymryd y cam olaf yn ychwanegu fawr ddim at hawliau'r unigolyn ac eithrio pasport porffor a'r hawl i fwrw pleidlais. Mae 'na ddadl gref felly bod eu parodrwydd i dalu chwe chan punt a llenwi llwyth o ffurflenni ychwanegol i sicrhâi dinasyddiaeth lawn yn brawf ynddi ei hun o ymroddiad yr ymgeiswyr i'w gwlad newydd.

Serch hynny, ar ôl mynychu'r seremoni'r bore 'ma dw i'n meddwl bod y defodau yma yn bethau rhagorol- ond nid am y rhesymau a gynigiwyd gan David Blunkett. Yr hyn sydd wedi newid fy meddwl yw gweld cymaint y mae'r seremonïau'n golygu i'r bodol sy'n cymryd rhan.

Rhyw hanner cant o ddinasyddion newydd oedd yn cael eu croesawi gan Arglwydd Raglaw ac Arglwydd Faer Caerdydd heddiw, y mwyafrif llethol ohonynt o wledydd y Gymanwlad yn Africa a De Asia yn ogystal â llond dwrn o Awstralia a Seland Newydd. Ar ôl canu (neu wrando ar) "Hen Wlad fyn Nhadau" a thyngu llw i'r Frenhines galwyd pawb i fyny fesul un neu fesul teulu i dderbyn tystysgrif swyddogol y Swyddfa Gartref a thystysgrif o groeso gan Gyngor Caerdydd.

Roedd 'na ddigonedd o wenu o glust i glust, ambell i ddeigryn a theimlad anhygoel o falchder. Wedi'r cyfan nid newydd-ddyfodiaid i Brydain oedd y bobol yma ond pobol sydd wedi treulio rhwng saith a deng mlynedd ar gyfartaledd yn llenwi ffurflenni, yn gwneud ceisiadau di-ri am fisas ac estyniadau ac yn cadw biliau trydan a llythyrau gan y banc yn unswydd er mwyn profi ei hachos.

Dw i'n meddwl bod ymateb y dinasyddion newydd yn ddigon o gyfiawnhad dros y seremonïau newydd. Ydyn nhw'n debyg o fagu teimlad o berthyn a dinasyddiaeth ymhlith plant ac wyrion y mewnfudwyr? Wedi'r cyfan yn a'r ail a'r drydedd genhedlaeth y mae'r broblem mewn rhai cymunedau. Dyn a ŵyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:16 ar 7 Tachwedd 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Roeddwn i wastad yn credu dyliau'r Urdd wneud seremoni debyg wrth ymuno a'r mudiad hwnnw. Roeddwn i wastad yn teimlo elfen o anti-climax wrth ymuno ac hyd yn oed fel plentyn ysgol roeddwn i'n credu ei fod yn fudiad bwysig ac roeddwn am gydnabyddiaeth o hynny.

    Os yw rhywbeth yn bwysig ac os ydy pobl yn gwerthfawrogi eich bod yn ymuno, ac ie, ymdyngedi iddo, oni dddylie fod serermeoni fach i gydnabod hynny - ac ie, gyda'r Anthem?

    Oes raid i bopeth Cymreig fod yn understated, diddim ... a diflas? Sdim rhyfedd fod pobl ddim yn credu nad yw rhywbeth yn bwysig neu'n werth rhoid amser a pharch iddo. Mae seremoniau'n bwysig.


  • 2. Am 17:35 ar 7 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Linda:

    Cwestiwn diddorol. Y gwirionedd ydi , os oes rhaid gweithio'n galed i sicrhau rhywbeth , mae'r canlyniad yn saff o olygu mwy.
    Mi wnês innau dyngu llw yng Nghanada chwe mlynedd yn ôl , yn dilyn pedair blynedd o lenwi ffurflenni ayb. Teimlad o rhyddhâd llwyr o gael fy ystyried yn ddinesydd Canada yn hytrach na 'landed immigrant'. 'Roedd hefyd yn deimlad o falchder ac yn gyfle i ddweud Diolch yn fawr Canada!
    Llongyfarchiadau mawr i dy bartner!

  • 3. Am 21:05 ar 7 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Dei:

    Mae'n rhaid imi ddweud mod i dal yn amheus ynglyn a gallu'r seremoniau i 'fagu' teimlad o berthyn. Siawns fod y hwnnw wedi datblygu eisioes?... trwy'r sgyrsiau a'r 'man-benodau' eraill sy'n digwydd o ddydd i ddydd ac sy'n gwneud rhwyun yn gyfarwydd a'r gymdeithas o'i gwmpas. Fesul dipyn bach mae rhywun yn dod i berthyn am wn i - nid trwy un sbloets o symbolau...? Fel wyt ti'n awgrymu Vaughan, cydnabyddiaeth o ymdrechion ac ymroddiad dros amser - o berthyn de facto - ydy'r seremoniau mewn gwirionnedd yn hytrach na throthwy neu fan cychwyn.

    Ond a chymryd fod symbolau yn bwysig, ar wahan i'r anthem, oedd na nodweddion 'Cymreig' eraill i'r achlysur?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.