主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ffrae am ffiniau

Vaughan Roderick | 14:43, Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2007

Dyw e hi ddim cweit yn rhyfel agored rhwng y Bae a San Steffan eto ond mae'r arfau'n cael eu hogi ac ambell i fwled yn cael ei thanio. Wrth i Lywodraeth y Cynulliad glustnodi dwy filiwn a hanner o bunnau ar gyfer y Confensiwn Cyfansoddiadol a'r adolygiad o'r ffordd mae'r cynulliad yn cael ei ariannu cyhoeddodd aelodau'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad i wasanaethau traws-ffiniol flwyddyn nesaf.

Y cynnwrf yngl欧n 芒'r awgrym y gallai cleifion o'r Gogledd orfod teithio i'r De am driniaeth niwrolegol sydd wrth wraidd y penderfyniad ond fe fydd y maes llafur yn llawer mwy eang na hynny. Fe fydd y pwyllgor yn ymchwilio i ddarpariaeth ym meysydd fel addysg uwch ac addysg bellach, cysylltiadau trafnidiaeth, darlledu a lefelau cyflog a chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil yn ogystal a darpariaeth iechyd arbenigol.

Mae'r rhain i gyd yn bynciau pwysig a chwbwl dilys i'r pwyllgor eu hystyried ond mae'n anodd peidio credu bod 'na gymhelliad arall hefyd. Mae'n anorfod bron y bydd y pwyllgor yn cynhyrchu adroddiad sy'n pwysleisio pa mor agos yw'r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr a sy'n cyflwyno rhyw fath o wrth-ddadl i'r rheiny sy'n dymuno gweld camau cyfansoddiadol cyson tuag at annibyniaeth.

Mae geiriau Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd David Jones yn ddadlennol;

"Welsh people, quite reasonably, cannot understand why they should be expected to put up with poorer levels of service, despite paying their taxes and national insurance contributions at precisely the same rate at people from the other side of Offa鈥檚 Dyke.I look forward to participating in the inquiry and hope that it will prove instructive to a Welsh Assembly Government that is, increasingly, perceived by North Walians as remote and out of touch.鈥

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal ar gyfnod lle mae 'na awgrymiadau clir bod yr awdurdodau Cymreig yn ceisio "cau'r ffin" rhwng Cymru a Loegr gan gredu bod Cymru yn talu trwy'r trwyn am wasanaethau y tu hwnt i Glawdd Offa.

Dw i wedi sgwennu am hyn o'r blaen a dw i'n rhyfeddu nad yw'r pwnc wedi cael mwy o sylw. Gydag unrhyw lwc fe fydd ymchwiliad y Pwyllgor Dethol yn gallu ysgogi ar drafodaeth gall yn hytrach na dim ond rhoi cyfle i wleidyddion sgorio pwyntiau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:11 ar 6 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Pan fues i'r gogledd ar y penwythnos, roedd cart诺n yn y Daily Post ble roedd dyn tlawd a'i blentyn o'r gogledd yn cerdded ar 'border control' at "Prosperous South [De Cymry hy]" yn gofyn "Please sir, can my child go to scholl - and can I post this letter?" i'r swyddog.

    Falle dyma be mae David Jones wedi bod yn ddarllen.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.