主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ffwdan yn Fflandrys

Vaughan Roderick | 12:30, Dydd Sadwrn, 8 Rhagfyr 2007

Fel sawl dw i wedi bod yn dilyn helyntion gwleidyddol Gwlad Belg dros y misoedd diwethaf.

Dw i ddim yn hawlio bod yn unrhyw fath o arbenigwr ar y wlad honno. Guto Thomas sy'n goflau am yr ochr Ewropeaidd yn yr uned wleidyddol a'r unig dro bues i ym Mrwsel yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd am benwythnos o ramant a gloddesta yn hytrach nac un o dyrchu i entrychion gwleidyddol y wlad.

Serch hynny mae'r sefyllfa yn un diddorol a pherthnasol. Chwe mis ar 么l etholiad cyffredinol mae gwleidyddion y wlad o hyd yn methu ffurfio llywodraeth ac mae nhw yng nghanol argyfwng gwleidyddol a chyfansoddiadol sy'n gosod trafferthion haf diwethaf yng Nghymru mewn rhyw fath o gyd-destun.

Mae'n bosib mai diwedd hyn i gyd fydd hollti'r wlad yn ddwy gyda Fflandrys a Walonia yn mynd ei fyrdd ei hun. Mae hynny'n codi cwestiwn hynod ddiddorol sef beth fyddai ymateb yr Undeb Ewropeaidd i sefyllfa o'r fath?

Yn 么l yn 2004 fe holodd Romano Prodi, llywydd y comisiwn ar y pryd, yngl欧n a'r posibilrwydd o sefyllfa debyg yng Nghymru. Roedd hwn yn symudiad clyfar gan Lafur wnaeth ennill tipyn o gyhoeddusrwydd a chreu embaras i Blaid Cymru. Dyma oedd gan Romano Prodi i ddweud;

鈥淲hen a part of the territory of a member state ceases to be part of that state, e.g. because that territory becomes an independent state, the treaties will no longer apply to that territory. 聽
In other words, a newly-independent region would, by the fact of its independence, become a third country with respect to the (European) Union and the treaties would, from the day of its independence, not apply any more in its territory."

Roedd Eluned Morgan yn gwbwl sicr o ystyr geiriau'r llywydd. Ychwanegodd ei sylwadau ei hun.

"The Commission has now made it absolutely clear that from the first moment a territory inside the existing European Union becomes independent, that territory would cease to be part of the EU... After its expulsion, Wales would be required to re-apply for EU membership and would only be re-admitted with a unanimous vote from all Member States. It is clear that unanimity would not be reached because of Spanish and other concerns regarding the precedent that would be set.鈥

Achosodd llythyr Mr. Prodi gryn gynnwrf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn , Catalwnia a Gwlad y Basgiaid. Os oedd Mr. Prodi yn gywir roedd sicrhau annibyniaeth i'r gwledydd hynny bron yn amhosib ac fe wnaeth cenedlaetholwyr ar hyd a lled Ewrop geisio tanseilio rhesymeg Llywydd y Comiwiwn.

Roedd yr wrth-ddadl yn un syml. Hyd yn oed os oedd Mr Prodi yn gywir yngl欧n a sefyllfa lle roedd gwlad wedi datgan ei hannibyniaeth heb gydsyniad (sefyllfa o UDI fel y cafwyd yn Rhodesia ac fel sy'n debyg yn Kosovo yr wythnos hon) doedd hi ddim yn berthnasol mewn sefyllfa lle roedd roedd gwladwriaeth wedi ymwahanu trwy gydsyniad. Pam y dylai Lloegr neu Castille annibynnol, fel gwledydd mawrion newydd, barhau'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod gwledydd bychan newydd, yr Alban neu Catalonia, dyweder, yn cael eu diarddel? Onid oedd y syniad bod y wladwriaeth newydd fwyaf yn etifeddu hawliau a chyfrifoldebau yr hen wladwriaeth braidd yn ddi-synnwyr?

Yn 么l a ni i Wlad Belg felly i ystyried y sefyllfa yno o ddilyn rhesymeg Romano Prodi. Pe bai'r wlad honno yn hollti ddwy fe fyddai Fflandrys fel y rhanbarth fwyaf yn parhau'r rhan o'r Undeb Ewropeaidd tra y byddai Walonia yn cael ei diarddel.

Does ond angen meddwl am eiliad am sut y byddai'r Ffrancod yn arbennig yn ymateb wrth weld y ffensys a'r swyddfeydd tollau'n cael eu codi o gwmpas yn encil fechan hon yng nghalon Ewrop er mwyn gwybod mai nonsens yw'r syniad.

Ond fe allai'r Undeb diarddel Fflandrys hefyd er mwyn bod yn gytbwys ac er mwyn danfon neges glir i unrhyw ranbarth Ewropeaidd arall oedd yn beiddio ystyried herio ffiniau sanctaidd y cenedl-wladwriaethau presennol. Wedi'r cyfan efallai y byddai hynny'n ddigon i ddod a gwelidyddion Gwlad Belg at eu gilydd a'u gorfodi i ailfeddwl. Yn sicr fe fyddai hynny'n well na gosod cynsail a allai arwain at symudiadau tebyg ar hyd a lled y cyfandir.

Wrth gwrs fe fyddai na un broblem fach wrth ddiarddel Fflandrys. Yn lle mae pencadlys yr Undeb Ewropeaidd dwedwch?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:28 ar 10 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd huw prys jones:

    Stori ddiddorol iawn, sy鈥檔 dangos yn amlwg ydi nad oes unrhyw ddarpariaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer aelod-wladwriaeth yn ymwahanu.
    Cytunaf yn llwyr nad oes unrhyw resymeg yn y syniad y byddai鈥檙 wlad 鈥榝echan鈥 sy鈥檔 hawlio ymreolaeth yn cael ei diarddel, a gweddill y wladwriaeth yn etifeddu hawliau a chyfrifoldebau鈥檙 aelod wladwriaeth wreiddiol. Y ffaith amdani ydi, os ydi gwladwriaeth yn ymwahanu, mae鈥檙 wladwriaeth honno wedi peidio 芒 bod.
    Wrth gwrs, anodd iawn fydd dychmygu鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn gwrthod gwledydd, hyd yn oed petaent yn rhai 鈥榥ewydd鈥, os ydynt yn rhan o diriogaeth a fu鈥檔 rhan o鈥檙 Undeb o鈥檙 dechrau, fel yn hanes Belg, neu ers dros 30 mlynedd yn hanes Prydain.
    Ond mi fyddai unrhyw ymwahanu鈥檔 achosi problemau enfawr i鈥檙 Undeb, er hynny. Yn fwyaf arbennig o ran hawliau pleidleisio, sef faint o bleidleisiau a ddylai鈥檙 gwledydd newydd eu cael o fewn Cyngor y Gweinidogion. Cymerwch chi Brydain, er enghraifft, pe digwyddai鈥檙 fath beth 芒 hi鈥檔 rhannu鈥檔 dair gwlad. Mi fyddai Cymru a鈥檙 Alban yn mynnu nifer tebyg o bleidleisiau i wledydd o faint cymharol, a byddai Lloegr yn mynnu na fyddai鈥檔 colli mwy o rym na鈥檙 hyn a fyddai鈥檔 cyfateb i鈥檙 lleihad yn ei phoblogaeth yn sgil y gwahanu. Ar yr un pryd, mi fyddai holl wledydd eraill Ewrop yn gwbl benderfynol na fyddai鈥檙 tair gwlad rhyngddynt yn cael cyfanswm uwch o bleidleisiau na sydd gan Brydain ar hyn o bryd. Ac o ystyried sefyllfaoedd tebyg yn codi mewn gwladwriaethau eraill hefyd, fel Sbaen er enghraifft, hawdd fyddai dychmygu llanast llwyr ledled yr Undeb.
    Mae hynny鈥檔 un rheswm allweddol pam ei bod hi鈥檔 gwbl afrealistig dychmygu cenedl wladwriaethau cyflawn yn ystyr heddiw o鈥檙 gair yn cael eu creu o鈥檙 newydd o fewn yr Undeb. Yr unig ffordd y byddai Cymru fyth yn cael 鈥榮tatws cenedlaethol llawn鈥 (o ddefnyddio diffiniad swyddogol Plaid Cymru o鈥檌 nod cyfansoddiadol) fyddai yng nghyd-destun datblygiad rhyw fath o uwch-wladwriaeth federal yn Ewrop. Er nad oes dim byd haws na siarad gwag am annibyniaeth er mwyn apelio at gnewyllyn o aelodau Plaid Cymru, mater cwbl wahanol fyddai cyflawni nod o鈥檙 fath yn y byd go iawn.

  • 2. Am 13:57 ar 10 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    VAUGHAN: "Pe bai'r wlad honno yn hollti ddwy fe fyddai Fflandrys fel y rhanbarth fwyaf yn parhau'r rhan o'r Undeb Ewropeaidd tra y byddai Walonia yn cael ei diarddel."

    Dydy hynny ddim beth atebodd y Comisiwn i Eluned Morgan. Beth sydd o bwys, dwi'n meddwl, ydy'r ffaith bod Fflandrys neu Gatalonia yn GADAEL gwlad sy'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Felly os ydy Walonia a Brwsel (neu Loegr yn y DU) yn aros yng Ngwlad Belg, a Fflandrys yn sefydlu gwladwriaeth newydd (neu'r Alban a Chymru yn gadael y DU), fe fydd rhaid i Fflandrys (a'r Alban a Chymru) ail-ymaelodi i'r UE.

    Ond dwi ddim yn meddwl fyddai Sbaen neu unrhyw aelod arall yn gwrthod derbyn yr aelodau newydd (Fflandrys, Yr Alban ayyb). Fy fyddai hynod o anodd gwrthod cais gwlad newydd fel yr Alban neu Gatalonia.

    Sefyllfa arall a mwy tebygol (a nad oedd Morgan yn son amdani) yw Lloegr yn penderfynu (dan y 'Cyfansoddiad UE' newydd) i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe fydd rhaid i Gymru dilyn Lloegr, wrth gwrs.

    Dafydd ab Iago, Brwsel

  • 3. Am 19:39 ar 10 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Fe allai'r UE awgrymu hyn, ond a fyddai'n fygythiad mewn gwirionedd? A fyddai'r UE wir am ddiarddel gwlad newydd fel Fflandrys neu Gatalwnia sy'n rhan ganolog o ddaearyddiaeth y Cyfandir?

    Dwi'n meddwl mai fformaliti fydde hi yn y pendraw. Diarddel ac yna'n derbyn yn ol yn unionsyth. Neu fel arall, gall wladwiraeeth newydd ddewis i dderbyn y rhanau o gyfrieithiau'r UE a ddymunau ond cadw allan o'r rhai nad yw am ddilyn. Dyma wna Norwy a'r Swisdir yn llywddianus iawn.

    Dwi'n amau y byddai gweld nifer o wladwriaethau newydd fel Fflandrys, Cymru, Yr Alban etc yn (gorfod) cymeryd y trywydd hwn yn tanseilio'r UE yn y pendraw gan y byddai'r gwladwriaethau newydd yn llewyrchu'n ddigon da y tu allan i'r UE. Byddai hynny'n rhoi signal cryf iawn i wladwriaethau fel Yr Almaen neu Yr Eidal nad yw darogan gwae yr UE yn dal dwr a gallai arwain a wanhau'r UE ymhellach.

    T'beth, o dan Confensiwn Fienna, byddai asedau ac oblygiadau gwladwriaeth yn cael ei rannu gan y gwladwriaethau newydd. Petai'r Alban yn gadael yr DU yna mae'r DU yn peidio a bodoli, oni fyddai angen iddi hi hefyd geisio statws newydd o fewn yr UE? Os yw'r DU lai yn cael ei chydnabod fel y prif successor state a fyddai DU heb yr Alban wir am weld gwladwriaeth ar ei ffiniau allai'n hollol gyfriethiol danseilio a thanbrisio economi y DU?

    Dwi'n amau fyddai'r UE am gadw pobl o fewn y Clwb. Byddai gwladwriaethau bychain llwyddiannus (ac fe fyddant yn llwyddiannus) yn tanseilio hygrededdd yr UE.

    Bygythiad wag yw hyn gan genedlaetholwyr Prydeinig a Sbaeneg. Mae hawl o dan siarter y Cenhedloedd Unedig i bobl ennill annibyniaeth. A fyddai'r UE wir yn gwrthod mynediad i Fflandrys sydd a GNP rhyw 116% o un cyfartalog yr Undeb ond yn derbyn Rwmania sydd oddeutu'r 45%? Byddai'n joc.

    T'beth, yna hanesyddol mae cenedlaetholwyr gwledydd mawrion wastad wedi dweud fod annibynniaeth yn 'rhy gostus', 'broblem', 'yn anghyfansoddiadol' neu'n 'amhosibl' i bob darpar wladwriaeth. Hen diwn gron yw hon. Fydd angen i genedlaetholwyr Prydeinig y Blaid Lafur feddwl am esgusodion gwell os ydynt am ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i Gymru/Yr Alban/Ffladrys/Catalwnia.

    Dydy pobl ddim yn credu'r bygythiadau yma bellach a dwi'n amau fyddai nifer o bobl yn ddigon balch fod y tu allan i'r UE ond manteisio ar ei marchnad.

    Ond am wn i, y cwestiwn sylfaenol, yw sut fath o Gymraes yw Eluned Morgan ei bod yn ymyrchu yn erbyn cael yr un statws i'w gwlad ag sydd gan ddwsin o wledydd eraill o fewn yr UE. Mae'n rhaid bod yn dipyn o genedlaetholwr Brydenig i wneud y fath beth.

  • 4. Am 19:56 ar 10 Rhagfyr 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Diddorol iawn yno. Statws dinesig/cenedlaethol i Frwsel? - math o Canberra neu Washington DC i Ewrop? Wallonia yn uno gyda Ffrainc?

    ON - erthygl diddorol yn Agenda Vaughan.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.