Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cnoi Cil

Vaughan Roderick | 17:15, Dydd Mercher, 25 Mehefin 2008

Yn ôl yn y dyddiau pan oedd glo Cymreig yn troi tyrbinau llongau'r byd prin oedd y dynion oedd yn gallu goddef y gwres a'r stŵr i wneud y gwaith hanfodol o gadw ffwrneisi'r llongau ynghyn.

Ar longau moethus Cunard a White Star "the black hand gang" oedd llysenw'r dynion hynny a rhybuddiwyd teithwyr i gadw draw o griw oedd yn chwedlonol o anwar a meddw.
Ar longau cargo yr arfer oedd cyflogi trigolion rhai o drefedigaethau mwyaf crasboeth Prydain i weithio am oriau di-ben-draw mewn amodau arswydus. Does dim angen dweud bod enillion y dynion hynny yn chwerthinllyd o fach hyd yn oed o gymharu â morwyr eraill.

Yn anorfod efallai fe wnaeth rhai o'r dynion hynny, yn arbennig rhai o Aden a British Somaliland, ymgartrefu yng Nghaerdydd a Chasnewydd gan ffurfio dwy o'r cymunedau ethnig cyntaf ym Mhrydain. Mae 'na ddadl rhwng Caerdydd a Lerpwl ynghylch lleoliad y Mosg cyntaf ym Mhrydain ond mae gwreiddiau cymunedau Mwslemiaid y ddwy ddinas yn Yemen a Somalia yn perthyn i'r un cyfnod.

Wrth i grwpiau ethnig eraill gyrraedd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf mae hanes y grwpiau cynnar hynny wedi bod yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae Arabiaid Yemen ar y cyfan wedi ymdoddi i'r gymdeithas ehangach tra bod y Somaliaid wedi parhau fel cymuned ar wahân- cymuned sydd ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae'r ffeithiau yn frawychus. Yn ôl astudiaeth yn 20O6 roedd oddeutu 8,000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd ac roedd 95% ohnyn nhw yn ddi-waith ac yn dibynnu ar fudd-daliadau neu haelioni eraill er mwyn byw. Mae'r anfanteision sy'n wynebu'r gymuned yn amlwg. Mae nifer sylweddol o Somaliaid Caerdydd yn newydd-ddyfodiaid, yn bobol sydd wedi ffoi rhag anarchiaeth waedlyd eu mamwlad i geisio lloches â pherthnasau yng Nghymru. Mae nhw hefyd yn bobol sydd yn dioddef rhagfarn hiliol ddifrïol , nid yn unig gan y mwyafrif gwyn ond gan leiafrifoedd ethnig eraill, hyd yn oed Mwslemiaid eraill.

Mae gan y gymuned ei lladmeryddion gwleidyddol. Mae Alun Michael a Lorraine Barret wedi gweithio'n ddiflino ar eu rhan. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi gweithio'n ddyfal i geisio gwella eu sefyllfa ond yng nghanol hyn oll mae cwestiwn anodd a chymhleth wedi codi.

Mae'r cwestiwn yn ymwneud a'r cyffur traddodiadol khat, cyffur sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth o fewn y gymuned. Ar hyn o bryd mae prynu, gwerthu a chnoi dail khat yn gyfreithlon ym Mhrydain ond mae 'na alwadau cynyddol o'r tu fewn a'r tu fas i'r gymuned am newid yn y gyfraith.

Mae Llefarydd Y Ceidwadwyr ar Gymru yn San Steffan Cheryl Gillan wedi camu i mewn i'r ddadl gan ddweud hyn;

Khat is one of the most dangerous recreational drugs currently available in this country. Its use is tearing apart the fabric of sections of our society. It is destroying the lives of those who use it and there is considerable evidence that it has long-term, serious, health implications. I am astonished that despite the weight of evidence in favour of classifying khat as an illegal drug the Labour Government has still not done so."

Mae dadl Ms Gillan yn un sylweddol ac mae 'na gefnogaeth iddi ymhlith Somaliaid Caerdydd ond mae'n bosib dadlau i'r gwrthwyneb hefyd. Wedi'r cyfan gellid defnyddio disgrifiad Ms. Gillan o effeithiau khat i ddisgrifio effeithiau alcohol ac mae 'na beryg y byddai gwneud Khat yn anghyfreithlon ond yn creu masnach danddaearol ac yn ychwanegu at droseddi.

Yr hyn na ddylid gwneud yw anwybyddu'r cwestiwn oherwydd ei fod yn amherthnasol i'r mwyafrif ohonom neu oherwydd ein bod yn awyddus i beidio â sathru ar ddiwylliant lleiafrifol. Y Somaliaid yw'r peth agosaf sy 'na yng Nghymru i is-ddosbarth ethnig ac fe ddylai'r problemau sydd wedi datblygu ac is-ddosbarthiadau o'r fath yn Llundain a Gogledd Lloegr fod yn rhybudd y gall eu problemau mewnol droi'n broblem i'r gweddill ohonom yn ddigon buan.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.