Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Safonau Dwbl

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2008


Duw, mae 'na safonau dwbl yn y lle 'ma weithiau. Dyna i chi Jane Davidson fel enghraifft. Mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma roedd Jane yn ddigon parod, yn awyddus hyd yn oed, i rannu eu safbwynt ynghylch Zimbabwe. Galwodd ar Nelson Mandela i ymyrryd i geisio sicrhau heddwch. Beth felly oedd barn Jane am Israel ar y diwrnod y mae llysgennad Israel yn ymweld â'r cynulliad? Wel, yn ôl Jane doedd hi ddim yn briodol iddi drafod y pwnc gan nad yw'n ddatganoledig. Yn wahanol i Zimbabwe wrth gwrs.

A beth am Jenny Randerson, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol? Ers tro byd mae Jenny wedi bod yn rhybuddio bod y polisi presgripsiwn am ddim yn faich ariannol difrifol ar y gwasanaeth iechyd. beth oedd ganddi i ddweud ym mis Awst y llynedd.

Free prescriptions for all sounds great on election leaflets, but, in reality, the drugs budget is finite. Last year I warned that free prescriptions would mean more Beechams Powders for millionaires and less people getting the help they need. Labour brought this in with claims it would help a healthier Wales move towards full employment - in reality it will lead to more demands on GPs' time, longer waiting lists and less money for expensive new cancer drugs.

Onid yw'r ffaith bod y gwasanaeth wedi tanwario ar gyffuriau yn newyddion da felly- yn brawf nad oes 'na brinder arian ar gyfer cyffuriau newydd drudfawr? Onid yw hi'n ddiddorol bod cyfanswm y tanwariant bron union yr un ffigwr ac amcangyfrif cost dileu taliadau presgripsiwn? Onid yw hynny'n awgrymu bod gan ambell i filiynydd bethau gwell a mwy proffidiol i wneud a'u hamser na hongion o gwmpas mewn meddygfa er mwyn cael Beechams Powders am ddim?

Ond, na. Och gwae ni medd .

It is obvious that LHBs are robbing Peter to pay Paul.If they spent up to how much they should be spending, we would have fewer cases of people being denied the best, most effective modern drugs.

Nawr ym mhob man y tu fas i'r sector gyhoeddus mae arbed arian a thanwariant yn cael ei ystyried yn bethau da. Os ydy gwario pob ceiniog o'r gyllideb yn brawf o effeithlonrwydd mae'r ateb yn amlwg...ymgyrch hysbysebu i sicrhâi bod ein miliynyddion yn hawlio eu Beechams Powders.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:15 ar 24 Mehefin 2008, ysgrifennodd twm:

    Typical o dwy o wleidyddion fwyaf hypocritical yn y Cynulliad.

  • 2. Am 10:23 ar 25 Mehefin 2008, ysgrifennodd Ty Mawr:

    Pam fod Twm yn meddwl for Jane Davidson a Jenny Randerson yn ddwy o'r gwleidyddion fyaf rhagrithiol y Cynulliad?

  • 3. Am 13:38 ar 25 Mehefin 2008, ysgrifennodd Jenny Randerson AC:

    Vaughn,

    Dwi’n teimlo dy fod ti wedi methu’r pwynt ynglŷn a’m ymateb i danwariant cyllid cyffuriau y Byrddau Iechyd Lleol.

    Yr hyn oeddwn yn trio ddweud oedd fod rhai o’r Byrddau, ar un llaw, yn gwrthod ariannu triniaethau effeithiol gan honni nad ydynt yn gall eu fforddio, tra ar y llaw arall, eu bod yn methu gwario eu cyllid a ddyrennir ar gyfer cyffuriau.

    Mae hyn yn fater hollol wahanol i roi powdr Beechmans am ddim i filiwnydd.
    Rwy’n gweld dy sylwadau yn anodd i dderbyn yn enwedig yn yr wythnos pan mae’r Cynulliad yn trafod methiant i drin Wet AMD. Er bod hwn y gyllideb wahanol, yr un yw’r egwyddor.

    Os wyt ti’n credu fod rhoi prescripsiwn am ddim heb arwain at wastraff o adnoddau, fe’th gyfeiriaf at fy adroddiad diweddar sy’n edrych ar effaith y cynllun yma lle darganfyddwyd y gofynnir i feddygon teulu rhagnodi swm anferthol o barasetamol, rhwymynnau, cribau llau, mel ayyb.

    Mae Powdr Beechams i un filiwnydd yn meddwl un claf arall yn derbyn cyffur rhatach yn lle’r un mwyaf effeithiol.

    Jenny Randerson AC

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.