Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Diar, David

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Iau, 12 Mehefin 2008

Efallai fy mod wedi llyncu rhyw gyffur egsotig trwy ddamwain ond diawl mae pethau rhyfedd yn digwydd heddiw! Yn gyntaf mae wedi yn fy nghymharu â Bill Oddie. Diolch o galon am hynny, Glyn. Nawr i goroni'r cyfan mae David Davis wedi ymddiswyddo o'r senedd.

Pan glywais y newyddion gyntaf roeddwn yn amau bod Aelod Mynwy wedi mynd i ryw strach neu'i gilydd ac y byddwn yn cael cyfle i weld a allai'r sir honno gynhyrchu ail isetholiad hanesyddol. Diolch byth y David arall, Ysgrifennydd Cartref y Ceidwadwyr, sydd wedi dewis gadael San Steffan a hynny er mwyn gorfodi isetholiad fel protest yn erbyn y mesur gwrthderfysgaeth.

Mae'r penderfyniad hwnnw wedi sicrhâi cyhoeddusrwydd a chyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthod sefyll yn ei erbyn mae Mr Davis yn saff o adennill y sedd. Serch hynny mae 'na beryglon difrifol. Mae isetholiadau'n bethau rhyfedd ac yn amhosib eu proffwydo.

Pe bawn i'n rhedeg y Blaid Lafur (a diolch byth nad ydw i) fe fyddwn i'n gwrthod enwebu ymgeisydd yn erbyn Mr Davis. Fedrai sgwennu'r datganiad nawr. Dyma fei. "Mae hon yn stỳnt wleidyddol a dyw Llafur ddim am ei dyrchafu trwy enwebu ymgeisydd. Fe fydd y llywodraeth yn parhau i weithio dros bobol Prydain ym maes terfysgaeth a meysydd pwysig eraill gan adael i'r Torïaid chwarae eu gemau gwleidyddol."

A fyddai Mr Davies yn ymddangos fel gwladweinydd neu fel dipyn o glown pe bai'n ymladd etholiad yn erbyn UKIP, y BNP a llond dwrn o bleidiau'r cyrion?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:56 ar 13 Mehefin 2008, ysgrifennodd aled g job:

    Vaughan- yr hyn sy'n ddiddorol fan hyn yw'r bwlch rhwng y "bubble" gwleidyddol/cyfryngol yn San Steffan a phobl gyffredin. Mae'r "bubble" yn ei weld drwy'r prism pleidiol arferol a'r rhaniadau a thensiynau gwleidyddol sy'n eu cynnal nhw o ddydd i ddydd. Mae'r sylwadau ar flogs ac ati dros y 24 awr diwethaf yn awgrymu bod pobl gyffredin yn edrych arno'n wahanol: a'i weld fel enghraifft nodedig o gwleidydd yn gwneud safiad ar fater o egwyddor uwchlaw ystyriaethau pleidiol cul. Synnwn i damaid y bydd ymgyrch Davis yn taro tant gyda phobl yn yr oes gwrth-bleidiol, gwrth-wleidyddol hon. Bydd is-etholiad yn gyfle i edrych o ddifrif ar yr holl fater o golli hawliau suful,ac unwaith y daw pobl i wybod am yr holl bethau sy'n digwydd i'n rhyddid yn enw "diogelwch", fe all ei ymgyrch ddatblygu fel caseg eira.Ac o ran llunio datganiad ar ran Lafur- wel camgymeriad mawr iawn fyddai i Lafur wrthod gymryd rhan mewn etholiad democrataidd, a hynny ar un o'u polisiau pwysicaf! Dim ond cryfhau'r synnwyr mai'r Toriaid sy'n gosod yr agenda heddiw fyddai hynny.

  • 2. Am 19:56 ar 13 Mehefin 2008, ysgrifennodd Mochyn:

    Dwn i ddim pam y mae pobl yn meddwl y byddai Llafur yn peidio sefyll yn yr etholiad hwn yn gamgymeriad. Stynt glweidyddol gan Davis ydi hwn. Er nad ydw i yn amau ei angerdd am y pwnc dan sylw, allai ddim gweld unrhyw bwrpas iddo gymryd y fath gam heblaw am dynnu sylw ato fo'i hunan.
    Mi gafodd Llafur, a'r pleidiau eraill, ddadl am erydu hawliau dinasyddion yn siambr San Steffan, ac os nad yw honno yn fforwm digonol i Davis ble sydd? Beth bynnag, mi ydw i yn synnu bod Llafur yn cystadlu'r etholiad yn y sedd hon hyd yn oed mewn etholiad cyffredinol. Os y gellir coelio Wikipedia, mae'r sedd (a'i rhgaflaenwyr) wedi perthyn i'r Toriaid ers 1885!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.