Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Shalom!

Vaughan Roderick | 15:44, Dydd Mercher, 11 Mehefin 2008

Does gen i ddim o'r geiriau i ddisgrifio pa mor rhemp yw'r awyrgylch yn y cynulliad yn sgil y ffrwgwd ynghylch gwahoddiad Mohammad Ashgar i lysgennad Israel ymweld â'r lle. Mae dyddiau'r cwm wedi cyrraedd o'r diwedd!

Mewn gwirionedd wrth gwrs nid y gwahoddiad sydd wedi creu'r cynnwrf ond penderfyniad Dafydd Elis Thomas i foicotio derbyniad Mr Ashgar a'r llysgennad a'i wahoddiad i aelodau eraill ddilyn ei esiampl. Mae'r alwad honno wedi cythruddo aelodau cynulliad o bob plaid sy'n credu nad yw'n briodol i Lywydd y cynulliad ymddwyn yn y fath fodd. Yng ngeiriau un aelod amlwg o'r gwrthbleidiau "oes 'na unrhyw amheuaeth y byddai Michael Martin allan ar ei glust pe bai'n gwneud rhywbeth fel hyn?"

Fe wnes i ysgrifennu peth amser yn ôl ynghylch yr anniddigrwydd cynyddol ynglŷn ag ymddygiad y Llywydd a'r comisiwn ymhlith rhai o aelodau'r cynulliad. Y broblem i'r aelodau hynny oedd eu bod wedi eu pechu naill dros bynciau weddol dechnegol megis y rheolau blogio neu rai lle fyddai 'na fawr o gydymdeimlad gan y cyhoedd fel cyhoeddi manylion eu treuliau.

Mae'r helynt y tro hwn yn wahanol ac mae 'na gyllyll yn cael eu hogi. Mae'n debyg y bydd ymddygiad y Llywydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf o'r grŵp Llafur ac mae 'na aelodau o'r gwrthbleidiau sydd hefyd yn awgrymu bod hi'n bryd cael newid wrth y llyw.

A ddaw unrhyw beth o'r ffrwgwd? Pwy a ŵyr? Mae Dafydd El wedi hen feistroli'r grefft o dynnu blew o drwyn heb oddef unrhyw ganlyniad. Efallai mai dyna fydd yr hanes y tro yma eto. Serch hynny mae'r Llywydd yn hwylio'n agos iawn at y gwynt yng ngolwg nifer cynyddol o'n gwleidyddion.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:44 ar 12 Mehefin 2008, ysgrifennodd Rhys:

    Diwach, dio ddim fel Dafydd El i wrthod noson o giniawa a ysgwyd llaw gyda phobl pwysig! Nid mod i'n ceisio cymharu sefyllfa'r Palasteiniaiddd gyda'r Cymry, ond pam nad yw Dafydd El yn boicotio ymweliladau gan y ffigyrau sy'n cynrychioli sustemau wrth-ddemocrataidd - fel teulu brenhinol Lloegr er engrhaifft?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.