Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2008

Smith Square Cymru

Vaughan Roderick | 19:20, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Am flynyddoedd lawer Smith Square, Westminster oedd canolbwynt bywyd gwleidyddol Prydain gyda phencadlysoedd y Ceidwadwyr a Llafur yn wynebu ei gilydd ar draws y sgwâr. Y tafarn cyfagos y Marquis of Granby oedd un o'r llefydd gorau i glywed clecs gwleidyddol. Y "Ted" oedd llysenw'r dafarn ymhlith y Cymry yn San Steffan gan fod 'na rhyw debygrwydd rhyfedd rhwng y llun o'r Marquis ar arwydd y tafarn a Ted Rowlands Aelod Seneddol Merthyr. Symudodd Llafur o Tranport House yn y sgwâr chwarter canrif yn ôl a gadawodd y Ceidwadwyr rhyw bum mlynedd yn ôl. Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd ar ôl ac mae eu swyddfeydd nhw tafliad carreg o'r sgwâr ei hun yn Cowley Street.

Nawr, mae'n ymddangos y gallai tafarn y "Wharf" yng Nghaerdydd ddatblygu'n rhyw fath o "Ted" Cymreig. Y Mis hwn mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn symud eu pencadlysoedd i Schooner Way i adeiladau sydd o fewn tafliad carreg i'w gilydd. Gyda'r Ceidwadwyr yn ystyried gwerthu eu pencadlys yn yr Eglwys Newydd (eto!) a chynlluniau ar y gweill i ail-ddatblygu'r adeilad undebol lle mae Llafur Cymru yn llechu a fydd y pedair plaid yn gymdogion cyn bo hir? Y "Wharf" amdani felly. Mae'n saffach na'r Eli Jenkins!

Cyfri Ceiniogau

Vaughan Roderick | 12:45, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (2)

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi cyfrifon ariannol y pleidiau ar gyfer 2007 ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wynebu dirwy am fethu cyflwyno'u cyfrifon mewn da bryd. Fe fydd union faint y ddirwy yn dibynnu ar faint rhagor o amser sy'n mynd heibio cyn i'r cyfrifon gyrraedd y comisiwn ond son am gannoedd nid miloedd o bunnau ydan ni yn fan hyn.

Yn eironig ddigon y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n gyfrifol am y ffaith eu bod yn gorfod cyflwyno cyfrifon Cymreig o gwbwl. Fe fyddai'n gwbwl gyfreithlon a phosib i'r blaid Gymreig guddio ei gwariant ac incwm y tu fewn i'r cyfansymiau Prydeinig. Dyna'n union y mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn gwneud. Trwy ddewis trin y blaid Gymreig fel uned ariannol ar wahân i'r blaid ffederal mae'n ymddangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi creu gwialen i'w cefnau eu hun.

Plaid Cymru yw'r unig blaid felly lle mae 'na gyfrifon Cymreig ar gael. Yn 2007 fe wnaeth y blaid golled o £276,341. £527,729 oedd cyfanswm incwm y blaid ac fe wariwyd £878,593. Dyw hynny ddim yn broblem i Blaid Cymru mewn gwirionedd gan fod 2007 yn flwyddyn etholiad a'i bod yn gwario gwaddol arian a ewyllysiwyd i'r Blaid yn 2006.

Mae'r manylion ar gael yn .

Barn y Bwci

Vaughan Roderick | 17:55, Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf 2008

Sylwadau (6)


Mae'n beth amser ers i ni glywed gan Karl y bwci. I'r rheiny ohonoch sydd wedi anghofio Karl oedd gosodwr prisiau betiau gwleidyddol cwmni Jack Brown cyn i'r bwci Cymreig gael ei lyncu gan Ladbrookes. Ta beth, mae Karl wedi bod wrthi yn ceisio proffwydo beth fyddai canlyniadau etholiad cyffredinol yng Nghymru pe bai un yn cael ei gynnal nawr.

Dydw i ddim yn ddeall y pethau 'ma ond mae Karl yn awgrymu mai'r broffwydoliaeth hon fyddai'n cael ei defnyddio fel sylfaen i fetio "spread". Dydw i ddim chwaith yn cytuno'n llwyr a'r darogan. Dw i'n meddwl, er enghraifft, bod Karl yn or-garedig i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Serch hynny mae'r ffaith bod y fath broffwydoliaeth yn gredadwy yn arwydd o ba mor dywyll yw pethau i Lafur. Dyma hi felly.

Llafur; 15 (Aberafan, Dwyrain Abertawe, Alun a Glannau Dyfrdwy, Caerffili, Cwm Cynon, Castell Nedd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Delyn, Islwyn, Merthyr a Rhymni, Ogwr, Pontypridd, Rhondda, Torfaen)

Ceidwadwyr; 14 (Aberconwy, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Gwyr, Mynwy, Pen-y-bont, Preseli Penfro, Wrecsam)

Plaid Cymru; 5 (Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Dwyfor Meirionnydd, Llanelli, Ynys Mon)

Democratiaid Rhyddfrydol; 5 (Gorllewin Abertawe, Ceredigion, Canol Caerdydd, Maldwyn, Dwyrain Casnewydd)

Eraill; 1 (Blaenau Gwent)

Ffwdan Ffred

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Dyma fi felly yn ôl yn y gwaith ar ôl wythnos o wyliau jyst mewn pryd i weld Alun Ffred Jones yn dechrau ar ei waith fel gweinidog treftadaeth.

"Par saff o ddwylo" yw'r disgrifiad arferol o Ffred ac yn sicr roedd e'n ddigon abl wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr ar lwyfan y Brifwyl y bore 'ma. Serch hynny mae 'na ddigon o broblemau'n wynebu'r gweinidog newydd. Mae effaith Gemau Olympaidd Llundain ar y cronfeydd loteri yn achosi pryder ym myd y celfyddydau a chwaraeon fel ei gilydd ac mae taith araf yr LCO iaith yn dechrau troi yn destun embaras i'r llywodraeth. Ond efallai mai'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r gweinidog yw'r un ar stepen ei ddrws yn ei etholaeth ei hun.

Dydw i ddim yn gwybod digon am sefyllfa Theatr Gwynedd i feirniadu'r penderfyniad i gau'r lle cyn llunio cynlluniau manwl a sicrhâi cyllid ar gyfer canolfan newydd. Serch hynny teg yw nodi bod canolfannau celfyddydol eraill fel Theatr y Werin yn Aberystwyth, y Grand yn Abertawe a Chapter yng Nghaerdydd wedi cael ei hail-ddatblygu'n helaeth heb amharu'n ormodol a'r ddarpariaeth gelfyddydol.

Pwy bynnag sy'n gyfrifol am gau prif theatr y Gogledd Orllewin a llwyfan bwysicaf y ddrama Gymraeg go brin y bydd y Gweinidog Treftadaeth newydd yn gallu caniatáu i'r sefyllfa barhau.

Yn y cyfamser os ydych yn chwilio am adloniant beth am ymweld â gweision sifil Elin Jones?

Pechadur Penna

Vaughan Roderick | 08:24, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (3)

Mae'n stori ryfedd. Pam yn union wnaeth Rhodri Glyn ymddiswyddo- neu i fod yn fanwl gywir pam yn union wnaeth Ieuan Wyn ofyn am ei ymddiswyddiad? Wedi'r cyfan dyw cerdded mewn i dafarn gan anghofio bod sigâr yn eich llaw ddim yn drosedd ddifrifol. Fe fyddai torri'r gwaharddiad ar ysmygu yn fwriadol neu wrthod diffodd sigarét yn fater gwahanol ond hyd y gwn does neb wedi cyhuddo'r gweinidog o'r naill drosedd na'r llall.

Beth ddigwyddodd felly?

Wel, gadewch i ni droi'r cloc yn ôl. Roedd penodi Rhodri Glyn yn weinidog yn gambl i Ieuan Wyn ac roedd e'n gwybod hynny. Heb os roedd ei ddirprwy yn wleidydd galluog a lliwgar ac yn llwyr abl i wneud y gwaith. Bod yn rhu lliwgar oedd y broblem. Roedd gan Rhodri enw drwg am beidio â rheoli ei yfed. Doedd neb yn credu, a does neb yn credu fod ganddo fe broblem hynod o ddifrifol dim ond bod un gwydr yn arwain i'r nesa ar adegau a bod hynny yn arwain at gur pen ac edifeirwch yn y bore.

Dyw hynny ddim yn beth mawr. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi'n canfod ein hun yn yr union sefyllfa. Yr hyn sy'n sicr yw y byddai Ieuan wedi gofyn am addewid gan Rhodri na fyddai hynny'n digwydd pe bai'n cael ei benodi i'r cabinet. Mae'n ymddangos bod Rhodri wedi llwyddo i argyhoeddi Ieuan gan fod arweinydd Plaid Cymru yn ddigon hyderus yn ei gylch i addo i Rhodri Morgan na fyddai'r Gweinidog Treftadaeth newydd yn achosi unrhyw drafferth.

Felly y bu pethau tan y smonach yn Seremoni Llyfr y Flwyddyn. Does 'na ddim tystiolaeth o gwbwl bod a wnelo'r dryswch yn y digwyddiad hwnnw unrhyw beth ac yfed. Yn wir mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu'r gwrthwyneb. Roedd cyfaill i mi yn eistedd ar yr un bwrdd a Rhodri Glyn yn ystod y seremoni. Mae fe'n tyngu bod y Gweinidog yn gyfan gwbwl sobor a dw i'n ei gredu. Serch hynny fe wnaeth digwyddiadau'r noson honno atgoffa'r dosbarth gwleidyddol o'i broblemau yn y gorffennol. Yn yr ystyr hynny fe roddodd y Gweinidog ei hun yn ôl "ar brawf". Y peth olaf yr oedd e'n gallu ei fforddio oedd cael ei weld o dan ddylanwad y ddiod yn yr wythnosau rhwng y noson wobrwyo a gwyliau'r haf.

Dyna ddigwyddodd yn nhafarn yr Eli Jenkins nos Fercher. Sgwarnog yw'r sigâr- a dyna chi frawddeg.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:20, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)


Roeddwn i wedi gobeithio mynd adre'n gynnar heddiw. Ond och gwae fi! Ydy'r Gweinidog Treftadaeth mewn trafferth eto? Mae'n ymddangos felly.

Ieuan Wyn Jones yw'r gwestai ar y podlediaid. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Vaughan Roderick | 15:06, Dydd Iau, 17 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Roedd y temtasiwn yn ormod i chithau hefyd rwy'n sicr. Yr eiliad y cyhoeddodd Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr fanylion eu treuliau doedd dim dewis ond mynd i gael cipolwg ar wariant yr aelodau Cymreig! Mewn gwirionedd does na ddim llawer gwerth nodi ac eithrio efallai bod Stephen Crabb yn cyflogi aelod o'i deulu a bod Cheryl Gillan yn hoff o aros yng Ngwesty'r Saint David's wrth ymweld a Chaerdydd.

Mae'n werth nodi bod y tri aelod wedi manteisio ar y lwfans cyfathrebu. Gwariodd David Davies £7,494.76 ar gyfathrebu a'i etholwyr. Fe wariodd Stephen Crabb £2,485.13 tra roedd David Jones yn dipyn o gybydd o safbwynt gwario arian cyhoeddus gan hawlio £96.

Hwn oedd y lwfans aeth a rhai o Aelodau Seneddol Plaid Cymru i drafferth yn ystod etholiad y cynulliad y llynedd. Mae'n lwfans cymharol newydd sy'n talu am gost cynhyrchu cylchlythyrau ayb i gyfathrebu ac etholwyr. Os ydych chi'n derbyn taflen trwy'r drws yn llawn o luniau o'ch Aelod Seneddol, yn lliwiau ei blaid ond heb enwi'r blaid honno gallwch fentro'n hyderus mai'r chi'r trethdalwr sydd wedi talu.

Mae 'na ddadleuon o blaid ac yn erbyn lwfans o'r fath. Mae'r ffin rhwng cyfathrebu a phropaganda yn gallu bod yn annelwig ond does dim dwywaith bod deiliad sedd yn elwa'n wleidyddol o'r lwfans hwn. Y peryg amlwg yw ei fod yn gam tuag at sefyllfa debyg i'r un yn yr Unol Daleithiau lle mae hi bron yn amhosib ennill etholiad yn erbyn deiliad sedd.

Yn eironig efallai, mae'n ymddangos bod cynrychiolwyr yr etholaethau mwyaf ymylol, fel David Jones, yn llai tebygol o ddefnyddio'r lwfans na'r rheiny mewn seddi mwy diogel. Efallai bod 'na rhyw fath o gydbwysedd rhyfedd yn fan hyn. Hyd y gwn i does neb yn credu y bydd David Davies yn colli Mynwy y tro nesaf. O'r herwydd mae'n annhebyg y byddai unrhyw yn ei gyhuddo o geisio mantais bleidiol anheg trwy ddefnyddio'r lwfans. Mewn etholaeth ymylol fe fyddai cyhuddiad o'r fath a mwy o sail iddo ac oherwydd hynny mae'r aelod yn llai parod i fanteisio.

Clecs

Vaughan Roderick | 18:47, Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Mae pawb yn y lle 'ma'n barod am wyliau erbyn hyn. Yn ôl Carwyn Jones pan ofynnodd rhyw un i'w fab a oedd e wedi gweld ei dad yn ddiweddar "ar beth?" oedd ateb y crwt.

Ydy, mae'r sesiwn ers y Pasg wedi bod yn un hir ond mae dyddiau'r cŵn o'n blaenau. Beth i sgwennu felly?

Fe ddylwn i flogio am raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ond does gen i fawr o awydd drafod yr LCO cig coch na'r Mesur Anghenion Arbennig. Nid bod y rheiny'n ddibwys, jyst fy mod yn ei chael hi'n anodd meddwl am rywbeth newydd i ddweud yn eu cylch. Yn lle hynny dyma ychydig o glecs.

Beth am hwn? Mae'r Pwyllgor Cynaladwyedd newydd ddanfon deg datganiad i'r wasg i'r Ö÷²¥´óÐã ar ddeg darn o bapur. Fe fyddai un yn ddigon...neu e-bost. Oni fyddai hynny'n fwy cynaliadwy?

Fe fu'r South Wales Echo yn dalcen caled i Blaid Cymru ers degawdau. Roedd y papur ym mlaen y gad yn erbyn datganoli yn refferendwm 1979 ac mae'n dal i argraffu yn ymosod ar addysg cyfrwng Cymraeg. Ond yn sydyn mae cyfres o erthyglau mwy ffafriol i'r Blaid wedi dechrau ymddangos eitemau fel a . Beth yw'r esboniad? Ai cyd-ddigwyddiad yw hi bod Plaid Cymru newydd gyflogi Phil Nifield i ofalu am ei chysylltiadau cyhoeddus yn y De-ddwyrain? Mae Phil yn foi ffein iawn ond yn bwysicach efallai, am bron i ddeugain myned ef oedd gohebydd gwleidyddol... y South Wales Echo.

Ffrio yn Bae

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Gwener, 11 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Rwy'n dwli ar Ddydd Gwener yn y Bae. "Fry up Friday" yw llys enw'r diwrnod i'r rheiny ohonom sy'n gweithio yn NhÅ· Hywel. Gyda'r gwleidyddion wedi gwasgaru mae'r bwydydd iachus soffistigedig hefyd wedi diflannu o'r ffreutur. "Sausage in batter" felly yn hytrach na "Salmon en Croute" a phastai'r bugail yn lle pesto a pasta, Gwyn ein byd! Gan fod hi'n ddydd Gwener mae 'na bodlediad newydd. Y gwestai'r wythnos hon yw Daniel Davies gohebydd PA yn y cynulliad. Gasgwch y botwm ar y dde.

Is etholiadau

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Gwener, 11 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Dyma ganlyniadau is etholiadau ddoe- y lleiaf diddorol yn gyntaf.

Gorllewin Risga (Cyngor Caerffili)

Llafur 636
Plaid Cymru 315
Ceidwadwyr 137
Dem. Rhyddfrydol 47

Er gwaethaf ofnau y gallai sylwadau diweddar Don Touhig effeithio ar y canlyniad yn y sedd hon cafodd Llafur fawr o drafferth wrth ddal ei gafael ar un o'i chadarnleoedd ar gyrion Casnewydd. Yn sgil y canlyniad mae Llafur a Phlaid Cymru yn gydradd o safbwynt nifer eu cynghorwyr ond Plaid Cymru sy'n rheoli'r Cyngor gyda chefnogaeth dau aelod annibynnol. Ron Davies yw un o'r aelodau hynny ac roedd cyn-arweinydd Llafur Cymru yn bresennol yng nghinio Plaid Cymru i ddathlu pen-blwydd y glymblaid ym Mae Caerdydd yr wythnos hon. Mater o amser,efallai?

Rheidol (Cyngor Ceredigion)

Plaid Cymru, 271
Dem Rhyddfrydol 252
Annibynnol 98
Llafur 36

Roedd angen amgylchiadau arbennig iawn i'r Democratiaid Rhyddfrydol golli yn Rheidol ond dyna'n union a gafwyd- storom berffaith sy ddim eto yn ddigon i roi awenau'r yng Ngheredigion yn nwylo Plaid Cymru. Gallai hynny ddigwydd rhyw bryd yn ystod y pedair blynedd nesaf. Dw i'n tybio na fydd yr unig aelod Llafur, Hag Harries yn gorfod talu am ei baned yn Neuadd y Sir am beth amser eto!

Yn y cyfamser lan yn Haltemprice a Howden fe dderbyniodd cyn Aelod Seneddol Bro Morgannwg Walter Sweeney 238 o bleidleisiau.

Arglwydd Faer Brisbane

Vaughan Roderick | 20:01, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Does dim byd arbennig iawn am Brisbane prifddinas talaith Queensland yn Awstralia ond mae ei Harglwydd Faer yn ddyn o bwys. Os ydych chi'n chwilio ar y we gallwch ddarganfod fod gan Campbell Newman ddau lys enw "can-do Campbell" (ei slogan etholiad) a "Noddy"- ei lysenw yn y fyddin. Mae'n briod a chafodd ei hyfforddi fel peiriannydd sifil.

Beth sy'n arbennig am Mr Newman felly? Wel, dim ond hyn. Ar ôl i'r Rhyddfrydwr John Howard golli grym yn Canberra llynedd, a chyda Llafur yn llywodraethu ym mhob un dalaith a dinas arall Mr Newman oedd y Rhyddfrydwyr pwysicaf i barhau mewn grym. Dw'n i ddim p'un ai oedd Mr Newman yn mwynhau ei statws ai peidio ond mae'n anodd credu nad oedd e'n cael rhiw faint o gic o glywed ei hun yn cael ei ddisgrifio fel " the most senior elected Liberal in Australia".

Ta beth am hynny. Fe wnaeth e daro fi'r dydd o'r blaen y gallai Rhodri Morgan nei ei olynydd fod yn yr un sefyllfa a Mister Newman pe bai Llafur yn colli grym yn San Steffan. Gyda'r SNP yn rheoli yn Holyrood a Boris yn teyrnasu yn Llundain Prif Weinidog Cymru, mae'n debyg, fyddai'r gwleidydd Llafur etholedig mwyaf grymus ym Mrhydain.

Fyddai na ddim mwy o'r busnes "gwthio i'r cyrion" yna mewn cynadleddau Llafur, dim mwy o orfod goddef y cryts ffroenuchel 'na o rif deg yn ei siwtiau siarp a dim angen gwrando bellach ar frefi wrth ddatganolwyr y meinciau cefn Llafur yn San Steffan. Mae'n anodd credu na fyddai na wen fach slei ar wyneb Prif Weinidog Cymru wrth glywed y disgrifiad "the most senior elected Labour politician in Britain".

Cofiwch pe bai pethau wedi digwydd ychydig bach yn wahanol flwyddyn yn ôl fe fyddai rhywbeth hyd yn oed yn fwy rhyfedd wedi digwydd. Am gyfnod o leiaf fe fyddai Nick Bourne wedi gallu brolio mai ef oedd Y Ceidwadwr etholedig pwysicaf!

Penblwydd Hapus

Vaughan Roderick | 15:00, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Maddeuwch i mi am esgeuluso'r blog am ychydig ddyddiau. Dw i wedi bod dros fy mhen a'n nghlustiau oherwydd pen-blwydd y glymblaid.

Dyw hynny ddim yn esgus arbennig o dda ond pe bai'n Prif Weinidog yn dewis slacio'r wythnos hon bysai neb yn ei feio. Dyw Rhodri ddim yn ddyn iach ar hyn o bryd gan frwydro yn erbyn rhyw salwch neu'i gilydd. Serch hynny mae wedi mynnu dod i'r senedd ar gyfer cynhadledd newyddion a sesiwn gwestiynau'r prif weinidog. Yng ngeiriau un aelod Llafur hon oedd yr unig wythnos yn y flwyddyn lle nad oedd hi'n bosib i Rhodri droi am ei wely. Wedi'r cyfan mae'n flwyddyn union ers i Mr Morgan gael triniaeth ar ei galon ac mae'n benderfynol o sicrhâi na fydd cwestiynau am ei iechyd yn taflu cysgod dros ddathliadau'r wythnos.

Efallai mai salwch Rhodri oedd yn gyfrifol am y ffordd y gwnaeth e cam-ddeall cyfres o gwestiynau gan newyddiadurwyr yn ei gynhadledd newyddion. Fe wnes i ofyn iddo, er enghraifft, a fyddai'r glymblaid yn goroesi newid yn yr arweinyddiaeth Llafur flwyddyn nesaf gan gyfeirio, wrth reswm, at ei ymddeoliad a'r posibilrwydd y gallai rhywun annerbyniol i Blaid Cymru, Huw Lewis, dyweder, ei olynu. Ymateb Rhodri oeddd myfyrio ynghylch pa effaith y byddai ymadawiad cynnar gan Gordon Brown yn cael ar wleidyddiaeth y Bae. Peidied neb a dweud wrth Gordon!

Yn y cyfamser pe bawn i yn sgidiau Alun Cairns fe fyswn i'n gandryll wrth ddarllen y stori ynghylch sylwadau amrhiodol gan Arglwydd Ceidwadol

A spokeswoman for Conservative leader David Cameron said: "This was not an appropriate thing to say and it was absolutely right that he apologised to the House." She said he would not be sacked from the front bench over the comments.

Sianws fod na safonnau dwbwl yn fan hyn?

Esgusodwch fi...

Vaughan Roderick | 15:17, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Mae Plaid Cymru newydd lansio ar-lein yn croniclo blwyddyn gyntaf llywodraeth "Cymru'n Un". Mae'n cychwyn trwy ddweud hyn;

Yng Ngorffennaf 2007, ffurfiodd Plaid llywodraeth i Gymru am y tro cyntaf yn ein hanes.

Ydyn nhw wedi anghofio rhywun, tybed?


Podlediad

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)


Y Mesur Teithio i Ddysgwyr a'i effaith posib ar ysgolion Cymraeg yw un o'r pynciau ar y podlediad yw wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

E(lfyn)-ddemocratiaeth

Vaughan Roderick | 12:04, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Difyr yw darllen maniffesto Elfyn Llwyd ar gyfer llywyddiaeth Plaid Cymru ac mae gen i slogan addas ar ei gyfer sef "Ymlaen i'r Gorffennol!"

Yn y dyddiau electronig e-ddemocrataidd yma mae'n ymddangos nad yw'r chwyldro digidol eto wedi cyrraedd Meirionnydd Nant Conwy. Does nemor ddim son am Facebook,My Space blogs a'u tebyg yng nghynlluniau Elfyn. Yn hytrach sonnir am daflenni, pamffledi, ysgolion haf a hyd yn oed canolfan breswyl.

Wrth gerdded adref neithwyr wnes i daro i mewn i rywun sy'n agos at Elfyn a chrybwyll y diffyg yma. Yr ymateb; "Os oeddwn i'n tecstio fo byswn i ddim yn disgwyl ateb am o leiaf pum mlynedd arall!"

Ffasiwn beth

Vaughan Roderick | 20:32, Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Fel ym mhob maes arall mae 'na ffasiynau ym myd gwleidyddiaeth ac mae'r ffasiynau hynny'n tueddu troi mewn cylchoedd. Mae popeth sy'n ymddangos yn hurt ac yn hen ffasiwn mewn un cyfnod yn saff o gael ei ail-gofleidio mewn cyfnod arall- ac eithtrio'r "bubble perm" efallai!

Diddorol oedd gweld yr erthygl yn y Times sy'n awgrymu bod 'na newid sylfaenol yn digwydd ym myd musnes. Awgrymmir bod y cynnydd ym mhris adnoddau crau yn darbwyllo cwmnïau i ail afael yn y syniad o fusnes integredig, hynny yw cwmni sy'n berchen ar bob cam o'r broses cynhyrchu a phob agwedd o'r busnes. Roedd cwmnïau felly yn gyffredin ar un adeg. Roedd bron pob cwmni olew er enghraifft yn berchen ar feysydd olew, llongau, purfeydd, a gorsafoedd petrol heb son am weithfeydd cemegol. Ers blynyddoedd os nad degawdau bellach mae'r ffasiwn wedi bod yn erbyn cwmnïau o'r fath. Gwerthwyd is-gwmnïau a chafodd pob math o waith ymylol ei gontractio allan i fusnesau eraill.

Fel sy'n digwydd bron yn ddieithriad, fe ddylanwadodd y sector breifat ar y sector gyhoeddus gyda dyletswyddau mawr a man oedd arfer cael eu cyflawni'n fewnol yn cael eu trosglwyddo i gwmnïau preifat. Os ydy'r rhod yn troi ym myd busnes yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd yr athroniaeth newydd yn treiddio i'n gwleidyddiaeth. Y dydd o'r blaen disgrifiodd y Ceidwadwyr lywodraeth Rhodri Morgan fel llywodraeth ganoledig, sosialaidd a hen-ffasiwn. Ond tybed? Ydy Rhodri, efallai am y tro cyntaf, o flaen y ffasiwn?

A'r enillydd yw...

Vaughan Roderick | 15:59, Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)


Fedrai ddim ychwanegu rhyw lawer at yr helynt ynglŷn â'r gweinidog treftadaeth yn enwi'r awdur anghywir fel enillydd gwobr llyfr y flwyddyn. Doeddwn i ddim yno ac mae'r lluniau'n siarad drostyn nhw ei hun o safbwynt maint yr embaras.

Cofiwch chi, o gymharu â'r sefyllfaoedd mae ambell i wleidydd wedi ei wynebu go brin y bydd Rhodri Glyn yn cochi gormod. Fel cysur i'r gweinidog dyma ddetholiad bychan o sefyllfaoedd trwstan y mae gwleidyddion wedi wynebu.

Beth am y gwleidyddion hynny sydd wedi bod yn ddigon anffodus i golli eu trowsus? Fe ddigwyddodd hynny i Geoffrey Howe yn ôl yn 1982. Dihunodd canghellor Mrs Thatcher mewn caban cysgu ar drên i ddarganfod fod lladron wedi dwyn ei ddillad. Mae'n adrodd cyfrolau am Syr Geoffrey bod pawb wedi derbyn yr esboniad hwnnw!

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach daethpwyd o hyd i gyn prif weinidog Awstralia Malcolm Fraser yn gwisgo dim byd ond tywel yn nerbynfa gwesty rhad ym Memphis oedd yn gyrchfan i buteiniaid a masnachwyr cyffuriau. Esboniad gwraig Syr Malcolm oedd ei fod wedi ei adael yn y fath gyflwr "fel jôc" gan aelodau eraill o'r "Commonwealth Eminent Persons Group" oedd yn ceisio datrys problem De Affrica ar y pryd.

De Affrica oedd wrth wraidd embaras mawr Peter Hain hefyd er yn yr achos hwn does dim amheuaeth bod y gwleidydd ei hun yn gwbwl di-fai. Arestiwyd Mr Hain am ladrad arfog o fanc yn 1974 o ganlyniad i gynllwyn gan wasanaethau dirgel De Affrica. Cafwyd e'n ddieuog o'r drosedd ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Awdur ei anffawd ei hun oedd Aelod seneddol Leith Ron Brown. Cafodd ei ddiarddel o'r Blaid Lafur ar ôl i lys ei gael yn euog o dorri fewn i fflat ei gariad a difrodi ei heiddo. Cafwyd e'n ddieuog o ddwyn rhai o'i dillad isaf. Roedd hynny yn ôl Mr Brown yn "fuddugoliaeth foesol"

Ond does dim un digwyddiad gwaeth na'r un diarhebol na wnaeth ddigwydd i Brown arall. Roedd George Brown yn yfwr o fri ac yn ddirprwy arweinydd ac Ysgrifennydd Tramor i Harold Wilson. Yn ôl yr hanes gofynnodd i fenyw ddeniadol ddawnsio ag e yn ystod ymweliad a De America. Derbyniodd yr ateb yma; "I will not dance with you for three reasons. The first is that you are drunk. The second is that the band is not playing a waltz, but the Peruvian national anthem. The final reason is that I am the Cardinal Archbishop of Montevideo". Yr hyn sy'n ddiddorol am y stori yma yw bod bron pawb yn y chwedegau yn ei chredu er nad oedd 'na fymryn o wirionedd yn perthyn iddi. Roedd hi'n haeddu bod yn wir rhywsut- ac efallai bod 'na wers yn hynny.

Vaughan Roderick | 13:57, Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2008

Sylwadau (2)

Mae dewis a dethol yn rhan hanfodol o newyddiadura. Pa stori i redeg? Pa ddyfyniad i gynnwys? Beth sydd o ddiddordeb a beth sy ddim? Yn anorfod efallai mai 'na ambell i hanesyn diddorol yn syrthio trwy'r rhwyd- yn enwedig rhai o dramor. Dyma i chi un a allai fod yn berthnasol i ni.

Draw yn Seland Newydd mae'r llywodraeth newydd . Roedd y wlad honno wedi mabwysiadu system ddigon tebyg i'r un sy'n bodoli ym Mhrydain gyda'r trac ei hun yn eiddo cyhoeddus a'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg gan gwmni preifat. Dyma esboniad y gweinidog cyllid.

"The Government will now avoid paying subsidies to third parties and we also avoid the on-going disputes ...which had the potential to destroy value in the business and erode the morale of the people who work in it."

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.