Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O bedwar ban

Vaughan Roderick | 11:24, Dydd Mercher, 29 Hydref 2008

Mae'n hanner tymor yn y cynulliad. Dyma ychydig o bethau i'ch difyrru. Yn gyntaf fe wnes i anghofio dweud Ddydd Gwener fod 'na bodediad newydd ar gael. Eleanor Burnham yw'r gwestai. Gwasgwch y botwm ar y dde.

O son am y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth Gymreig wedi sefydlu gwefannau. Mae'n well cadw draw o fersiwn Gymraeg gwefan sy'n cynnwys brawddegau fel yr un yma;

Credaf mai gwlad ryddfrydol yw Cymru yn y bôn, yn llawn pobl â chalon lân, ond yr ydym hefyd yn wladle mae gwleidyddiaeth yn ei gadael hi i lawr.

O diar. O leiaf mae safle Jenny wedi ei gynllunio'n effeithiol. Mae fersiwn Gymraeg safle yn gyfan gwbl ddryslyd. Mae gwasgu'r rhai o'r dolenni ar y safle Cymraeg yn eich arwain yn syth at y safle Saesneg. Fe fyddai disgybl pumed dosbarth wedi gwneud jobyn gwell.

Mae 'na ddadl ddifyr ar y chwith ynghylch cenedlaetholdeb a Phrydeindod. Darllenwch mwy ar , a .

Efallai oherwydd nad ydy Prydain yn caniatáu hysbysebion gwleidyddol ar y teledu mae 'na rywbeth hudolus bron ynghylch gwylio'r rhai'r Unol Daleithiau. Mae Politico wedi casglu .Mae blogwyr y chwith yn awgrymu mai yw hysbyseb fwyaf effeithiol y Democratiaid eleni. Fe geisiodd y Gweriniaethwyr yn ôl!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:37 ar 30 Hydref 2008, ysgrifennodd allfor:

    Fel mae'r rhod yn troi. Yn ol yn y 70au rwy'n cofio bois 'Militant' colegau Caerdydd yn disgrifio cenedlaetholdeb Cymreig fel 'a diversion from the necessary struggle.'
    A ble mae un ohonyn nhw nawr?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.