Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pobol y Cwm

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Gwener, 24 Hydref 2008

Roedd 'na isetholiad cyngor bach diddorol ym Merthyr ddoe yn sgil ymddiswyddiad Democrat Rhyddfrydol yn ward y dre. Dyma'r canlyniad;

Dai Chick - Llafur - 580
Nigel Hulbert - Dem. Rhydd. - 461
Andrew Barry - Annibynol - 277
Idwal Davies - Annibynol - 125
Vivienne Davies - Annibynol - 110
Vivian David Pugh - Plaid Cymru - 72

Yn ôl ym Mis Mai enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y pedair sedd yn y ward gyda'u hymgeisydd blaen yn ennill mil o bleidleisiau'n fwy nac ymgeisydd blaen y Blaid Lafur.

Beth sydd wedi mynd o le felly? Wel, mae'n ymddangos bod y bleidlais wrth-Lafur wedi ei hollti i ryw raddau ac roedd y nifer wnaeth bleidleisio wedi haneru ers Mis Mai. Serch hynny fe fydd y canlyniad yn siom i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae adeiladu rhyw fath o bresenoldeb yn y cymoedd wedi bod yn nod strategol i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Rhyddfrydwyr o'u blaenau ers degawdau. Eto, er lansio sawl ymgais, dyw'r blaid fawr gryfach heddiw nac oedd hi yn ôl yn nyddiau Jenny Gibbs, Mary Murphy ac Angus Donaldson. Mae gan y blaid bresenoldeb ym Mhontypridd ond gan fod y dref honno yn prysur droi'n rhan o swbwrbia Caerdydd go brin fod hynny'n cyfri.

Hyd y gwelai i does 'na ddim rheswm gwleidyddol nac economaidd amlwg pam na fedr y Democratiaid Rhyddfrydol lwyddo yn y cymoedd yn yr un modd ac maen nhw wedi llwyddo mewn ardaloedd cyn-lofaol yng ngogledd Lloegr. Mae adeiladu sylfaen gwleidyddol mewn ardaloedd fel Caerffili neu'r Rhondda lle mae Plaid Cymru eisoes yn gweithredu fel gwrthblaid leol i Lafur yn anodd ond mae 'na hen ddigon o lefydd yn y cymoedd lle nad yw hynny'n wir- ac mae Merthyr yn un ohonyn nhw.

Beth sydd wrth wraidd y broblem, felly? Yr ateb dim ond un esboniad posib sy 'na. Gan osod Ceredigion i'r neilltu (ac fe allai patrymau mudo esbonio'r eithriad hwnnw) mae'n ymddangos bod 'na rhyw fath o gysylltiad rhwng lefelau cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod. Hynny yw, am ryw reswm, mae'r Blaid yn ei chael hi'n anodd llwyddo mewn ardaloedd lle mae'r diwylliant Cymraeg neu Eingl-Gymreig yn gryf.

Dyna ni yn ôl felly ar dir cyfarwydd y "three wales model" y ddamcaniaeth honno sy'n rhannu'r wlad yn dri rhanbarth gwleidyddol- y Gymru Gymraeg, Cymru Gymreig a Chymru Brydeinig. Dyw'r ddamcaniaeth honno ddim mor ffasiynol a buodd hi ond mae'n ymddangos bod 'na na sylwedd iddi yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol. Am ryw rheswm mae'r blaid yn ei chael hi'n anodd ar y naw i lwyddo y tu hwnt i ffiniau'r Gymru Brydeinig.

Mae hynny'n codi cwestiwn syml arall sef "pam?". Does gen i ddim syniad. Mae hon yn blaid sydd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn hanes Cymru, hi wnaeth arloesi'r syniad o ddatganoli a does 'na ddim byd yn ei chylch hi sydd mewn unrhyw ffordd yn wrth Gymraeg nac yn wrth Gymreig. Dw i'n gobeithio nad ydw i'n swnio'n gwbwl hurt yn fan hyn ond ydy hi'n bosib bod y broblem yn rhywbeth mor syml ac acenion ei harweinwyr a'i hymgeiswyr?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:24 ar 24 Hydref 2008, ysgrifennodd Dan:

    Diddorol iawn.
    Mae hyn wedi bod yn hen broblem i'r Dem Rhydd yng Nghymru. Mae gan y blaid wir gweithrhediad "made in Wales" sy'n hir-sefydlog, ond oherywdd cefndiroedd nifer o ymgeiswyr a seneddwyr y plaid mae'n annodd iddyn nhw adlewyrchu hyn (er eu fod i gyd yn cefnogi a deall Cymreictod polisiau ag hanes y blaid).
    Efallai fod frwydyr yr arweinyddiaeth yn cyfle i gryfhau wyneb ac acen (yn llythrennol!) Cymreig y blaid? Oes yna ymgeisydd sy'n dod o rhywle sy'n ffinio'r Fro a "Welsh Wales" ac sydd efallai yn cynrhychioli sedd yn yr ardal "Prydeinig"??

  • 2. Am 16:25 ar 24 Hydref 2008, ysgrifennodd blogmenai:

    Plaid Cymru nid y Blaid Ryddfrydol sydd wedi etifeddu'r traddodiad rhyddfrydol Cymreig.

    Bu'r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru yn adlewyrchiad o'r traddodiad rhyddfrydol gwledig Seisnig hyd yn ddiweddar.

    Maent wedi symud ymlaen yn y dinasoedd Cymreig yn ddiweddar oherwydd bod gwleidyddiaeth y llefydd hynny yn adlewyrchu patrwm gwleidyddol Prydeinig ehangach. 'Dydi hi ddim yn hawdd iddynt ar y maes glo oherwydd nad yw patrwm gwleidyddol y rhannau hynny o'r wlad yn rhan o gyd destun gwleidyddol ehangach mewn gwirionedd. Materion Cymreig sy'n gyrru eu gwleidyddiaeth nhw.

    Mae Ceredigion yn gwahanol. Ceir adlais o'r 'tribal head count' sy'n nodweddu gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yno.

  • 3. Am 08:40 ar 26 Hydref 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Problem y Rh Dem's ydy does ganddo nhw ddim sylwedd a dim arweinyddiaeth yng Nghymru. Fel gwleidydd fy hun dydw i ddim yn gwybod be mae nhw'n sefyll drosto. Cwestiwn Vaughan, ydy Wrecsam yn fitio i'r model tri rhan o Gymru? Dwi ddim yn meddwl ei bod hi, mae ymwybyddiaeth o Gymreictod yn uchel iawn ym mrodorion y sir.

  • 4. Am 22:57 ar 29 Hydref 2008, ysgrifennodd bochgoch:

    "Mae Ceredigion yn gwahanol. Ceir adlais o'r 'tribal head count' sy'n nodweddu gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yno."

    Dwi'n tueddi i gytuno a blogmenai. Elystan, Geraint, Cynog ac i raddau llai Simon. Oll yn perthyn i'r llwyth.
    Ond beth ddigwyddodd y tro diwethaf? Prin y gellid honni fod gan Mark Williams y credentials i berthyn heb son am arwain y llwyth. Daeth tro ar fyd. Pwy a wyr beth ddigwyddith tro nesa. Er, os bydd barn Quentin Letts yn y Daily Mail yn ddylanwadol bydd y llwyth yn dewis arweinydd newydd y tro nesa.

    "On the LibDem benches, meanwhile, we are assured that one Mark Williams sits for the electors of Ceredigion (Cardiganshire in old money). Does he? Could have fooled me.
    What makes this all the worse is that the alleged Mr Williams – who may well be Inspector Clouseau, for all we know – won his seat at the last general election by ousting Plaid Cymru’s Simon Thomas, an outstanding parliamentarian."

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.