Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wel, Dyna Sypreis!

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009

Fe fydd 'na fwy am hyn yn ystod y dyddiau nesaf ond gesiwch beth? Mae'r LCO Iaith mewn trafferth eto! Wel dyna syndod.

Ydych chi'n cofio'r awgrym yna bod popeth wedi ei setlo, bod y gorchymyn ar ddesg Paul Murphy ac y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei gymeradwyo i'r cabinet rhywbryd ym Mis Ionawr? Roedd 'na hyd yn oed dyddiad yn cael ei grybwyll- Ionawr 26.

Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf. Diawch, waeth i mi dorri a phastio'r hyn wnes i ysgrifennu ar Ragfyr y degfed.

"Ydych chi'n cofio'r LCO iaith- y cais oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn?
Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Tan heddiw'r addewid oedd y byddai'r cais yn ymddangos "cyn y Nadolig" . Y prynhawn yma yn siambr y cynulliad cyhoeddodd Yr ysgrifennydd Gwladol bod adrannau Whitehall bellach wedi cwblhau'r broses o astudio'r cais. Fe fydd yr LCO felly yn cael ei gyhoeddi. Pryd? Wel, "yn y flwyddyn newydd".
Rhai dyddiau yn ôl clywais fod un o swyddogion Plaid Cymru wedi sgwennu cân "All I want for Christmas is my language LCO". Dim ffiars o beryg".

Beth yw'r broblem y tro hwn? Traed oer yn Swyddfa Cymru ynghylch sancsiynau cyfreithiol yn erbyn Gweinidogion y Goron efallai?

Diweddariad; Mae Llywodraeth y cynulliad yn ymateb i flogs y dyddia 'ma! Dyma'i datganiad;

"Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe ein bod am gyhoeddi'r LCO arfaethedig yn fuan. Dydi llywodraethau ddim yn rhoi sylw ar drafodaethau dydd i ddydd, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn ar yr LCO pan fydd wedi ei gyhoeddi. Nid ydym yn cynnig sylw ar unrhyw ddyfalu"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:03 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Beth bynnag ydi'r broblem y tro hwn, rhaid dweud bod yr holl beth yn troi'n jôc erbyn hyn!

  • 2. Am 15:12 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Maen hysbys na fydd sgôp yr LCO yn ddigon eang i gyflwyno deddf fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr o fywyd cyhoeddus Cymru felly maen ddychryn meddwl fod y gweision sifil yn Whitehall wrthi yn ceisio ei wanhau ymhellach fyth ar hyn o bryd.

  • 3. Am 16:26 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Pwy wahaniaeth mae e'n gwneud i Vaughan Roderick ?? Nid job y Ö÷²¥´óÐã yw i fod o blaid neu yn erbyn yr LCO, dim ond i weud beth sydd yn digwydd heb 'fear or favour'.

  • 4. Am 22:04 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Os ca'i amddiffyn VR yn erbyn BG, dydw i ddim yn gweld lle yn yr erthygl yma mae VR yn deud ei fod o blaid neu yn erbyn yr LCO.

    Yr unig farn bersonol y mae'n ei mynegi yw: "Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf." Dydi ddim o blaid nac yn erbyn yr LCO, 'mond yn mynegi ei rwystredigaeth fel newyddiadurwr nad yw'r "stori" wedi symud yn ei blaen. Sdim o'i le ar hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.