Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Western Post

Vaughan Roderick | 14:07, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2009

Ar y cyfan rwy'n osgoi 'sgwennu am y cyfryngau a newyddiaduraeth. Mae 'na beryg fy mod yn syllu ar fy mogail fy hun neu'n cyflawni rhyw losgach newyddiadurol trwy wneud!

Dw i am dorri'r rheol am unwaith gan fod 'na ddau ddatblygiad pwysig ym myd newyddiaduraeth Gymreig wedi eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf a heb gael y sylw haeddiannol.

Roedd y yn ymwneud a'r wasg. Cyhoeddodd Trinity Mirror fod y ddau is-gwmni sy'n cynhyrchu'r Western Mail a'r Daily Post yn cael eu cyfuno. Mae rheolwyr y cwmni deheuol "" yn gadael y cwmni. Rheolwyr cwmni'r Gogledd "" fydd wrth y llyw. Does dim angen dyfalu ynghylch cymhelliad y cwmni sef torri costau ac arbed arian.

Mae 'na un fantais bosib o'r newid. Ychydig iawn o gyfnewid deunydd sy 'n rhwng y Western Mail a'r Daily Post ar hyn o fyd ac mae'n ddigon posib y bydd y newid yn arwain at fwy sylw i straeon cenedlaethol Cymreig yn y Post ac i straeon y Gogledd yn y Western Mail.

Yr anfantais amlwg yw nad Cymru'n unig sydd wedi ei chynnwys yn yr is-gwmni newydd. Yn ogystal a'r hyn y mae'r cwmni'n galw'n "marketplace business" yng Nghyffordd Llandudno (sef y Daily Post a phapurau eraill y Gogledd) mae gan "NW2" fusnesau yn Lerpwl, Swydd Gaer a Huddersfield. Mae'n ymddangos bod "Media Wales" wedi ei israddio i fod yn "marketplace business" arall i gwmni a'i bencadlys yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Y yw'r trafodaethau rhwng y Ö÷²¥´óÐã ac ITV i sicrhâi parhad rhaglenni newyddion rhanbarthol ar y sianel fasnachol. Mae 'na rinweddau mawr i'r syniad yma. Mae'r dyddiau lle'r oedd darlledwyr yn gallu fforddio neu gyfiawnhau hela dwy uned ddarlledu allanol i gyfro achos llys ar ben.

Ar ddiwedd y dydd arian cyhoeddus sy'n talu am gynnyrch y Ö÷²¥´óÐã. Yn bersonol, fedrai ddim meddwl am ddadl dda, er enghraifft, yn erbyn caniatáu i wefannau newyddion Cymraeg atgynhyrchu a defnyddio peth o gynnyrch y Ö÷²¥´óÐã cyn belled a bod 'na ambell i reol golygyddol. Os mai'r bwriad yw cael pobol i ddefnyddio gwasanaethau Cymreig pam na ddylai gwefan newydd Golwg, dyweder, gael mewnosod adroddiadau gohebwyr y Ö÷²¥´óÐã?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:45 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Datblygiad pwysig arall ym myd y cyfryngau does fawr sylw wedi cael ei roi iddo fe oedd dyfarnu trwydded radio newydd i Real Radio. Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd llawer ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

    Wrth wahodd cwmniau i gystadlu am drwydded newydd, gwnaeth Ofcom hi'n ofynnol eu bod yn darparu lleiafswm o 10 awr y dydd o raglenni "lleol". Ond ni wnaed darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn amod o'r drwydded, er gwaetha'r ffaith y bydd yr orsaf newydd yn gwasanaethu ardaloedd gyda'r crynhoad mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Diffyg gweledigaeth Ofcom sydd wedi arwain at sefyllfa lle gall cwmni fel Real Radio haeru mai'r "gwasanaeth gorau posibl" i ogledd a chanolbarth Cymru yw un uniaith Saesneg.

    Union eiriad cais Real Radio oedd:

    "We have given careful thought to this issue and, on balance, have agreed that for Real Radio to offer the best possible service to the greatest number of adults across North and Mid Wales we should offer an English-only station."

    Gwaith Ofcom yw gwarchod buddiannau y rhai ohonom ni sydd yn defnyddio y cyfryngau darlledu. Ond mae'n amlwg eu bod yn rhoi buddiannau y cwmniau darlledu uwchlaw anghenion y gynulleidfa Gymraeg a Chymreig.

  • 2. Am 20:58 ar 14 Ionawr 2009, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    *tagu* Plwraliaeth?

    O'n i'n meddwl taw dyna oedd hanner y ffys am ITV Wales yn crebachu yn y man cyntaf!

    Ma hyn yn newyddion gwael i newyddion yn fy marn i - mae'n amser lladd ITV Wales mor fuan ag y gallwn ni, tynnu breintiau ITV plc oddi wrthynt (slots EPG etc) a dechrau gwasanaeth Cymreig newydd dwyieithog yn lle gyda chronfa newydd o arian. Nid rhoi life support system i sianel fasnachol sydd wedi bod yn cael ei chrogi'n araf bach gan ei meistri nes ei bod heddiw'n sgerbwd o beth y bu ac beth ddylai fod. A hynny gyda arian y ffi drwydded! Cheek!

    A dwi'n siwr bydd Trinity Mirror yn buddsoddi llawer mwy yn eu gwasanaethau fideo 'lleol' rwan bod ganddyn ambell gyflog yn llai i'w dalu, a bod y bbc ddim yn 'gystadleuaeth' iddyn nhw. Pfft!

  • 3. Am 00:26 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae 'na ddadl y naill ffordd a'r llall ynghylch ITV, Rhodri. Rwy'n llwyr ddeall dy bwynt ac wedi dadlau'r un achos o bryd i gilydd. Ar hyn o bryd dydw i ddim yn gweld bod yr ewyllus yn bodoli i ddilyn y llwybr rwyt ti'n ei awgrymmu ond mae dy ddadl yn gwbwl resymol ac yn gwbwl bosib ei gweithredu pe bai'r ewyllus yna.
    Pwynt ychydig yn wahanol oedd gen i ar y diwedd ynghylch y defnydd o ddeunydd y Ö÷²¥´óÐã, yn enwedig deunydd Cymraeg. Mae'n ymddangos yn wallgof i mi nad yw rhaglenni teledu Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã yn cael eu dangos ar iPlayer am wythnos ar ôl cael eu darlledu oherwydd ffenestr "egliwsif" S4C. Yn yr un modd dydw i ddim yn gweld pam na ddylai gwefannau Cymraeg gael mewnosod adroddiadau newyddion y Ö÷²¥´óÐã. Nid trafod plwraliaeth oeddwn i yn (er bod hynny'n bwysig) ond cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio safleoedd a gwasnaethau Cymraeg. Does dim angen i mi ddweud mae safbwyntiau personol yw rhain nid negeseuon oddi uchod!

  • 4. Am 09:23 ar 15 Ionawr 2009, ysgrifennodd Rhodri :

    Efallai nad yw'r ewyllys yn bodoli, ond mae hynny'n fy nhristhau. Drwy weithredu'n gyflym gallem ni sefydlu rhywbeth cryf. Gallai ITV Wales hyd yn oed dendro am yr arian a byddent mewn safle cryf i wneud hynny gan gryfhau eu gwasanaeth unwaith eto.

    O ran y pwynt ynglyn a rhannu adnoddau ar gyfer gwasanaeth Cymraeg yn benodol. Efallai mod i wedi cam ddeall, gan mod i'n cytuno gyda hyn yn i raddau helaeth. Er, fy mod i'n teimlo weithiau bod teyrnasiad y Ö÷²¥´óÐã dros newyddion Cymraeg am cyhyd ddim y sefyllfa iachaf, gallai cael system o rannu (hyd yn oed gyda ffynhonellau print sydd nawr yn neu am wneud fideo hefyd) roi sbarc newydd i'r gwasanaeth. Fydda i'n blogio am iplayer ac S4/Clic nes mlaen heno...

    Wedi'r cyfan da ni'n wlad fechan, ac mae angen gwneud y mwyaf o'r adnoddau prin sydd ganddon ni.

  • 5. Am 20:27 ar 19 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Rhodri,

    Y broblem yw na fydd UNRHYW bapurau newydd 'lleol' mewn deng mlynedd. Dim ond edrych ar beth sydd yn digwydd yn yr Amerig sydd eisiau i sylweddoli fod y we yn mynd i ladd y nifer mwyaf o nhw.

    Wrth gwrs mae'r 'Western Mail' yn bapur 'genedlaethol', ond mae eisiau rhifer mawr o ddarllenwyr i dalu ffordd y dyddiau yma - ac mae'r gwir yna yn mynd i fod yn 'reality check' gwael i bobl [fel fi] sy'n mwynhau darllen papurau newydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.