Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rheolau Rhodri

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Mae'n fore Gwener. Cyn cau pen y mwdwl ar gyfer hanner tymor mae angen diweddaru un stori sef honno ynghylch Rhodri Morgan ac ysgolion Treganna.

Ddoe fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gwyn swyddogol bod Rhodri wedi torri cod ymddygiad gweinidogion y cynulliad. Mae'r cod hwnnw yn gallu bod yn amwys iawn ar adegau ac fe fyddai angen holl ddiwinyddion Rhufain i ganfod ei union ystyr. I barhau a'r gymhariaeth grefyddol mae Rhodri yn gorfod ymddwyn fel y drindod sanctaidd yn y mater hwn. Ei gyfrifoldeb ef fel Prif Weinidog yw barnu os ydy gweinidog (yn yr achos hwn fe'i hun) wedi torri'r rheolau.

Mae Rhodri wedi ymateb i'r gwyn trwy honni ei bod yn "sylw gwleidyddol" yn hytrach na chwyn ddifrifol. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ysgrifennu yn ôl yn nodi'r ddwy reol y maen nhw'n honni bod y prif weinidog wedi eu torri yn bennodol.

Fe gawn weld sut mae'r stori'n datblygu. Yn y cyfamser mae gen i ambell i nodyn i osod ar yr hysbysfwrdd. Fe fydd 'na bodlediad newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw ac fe fydd 'na bodlediad a rhaglen "Dau o'r Bae" wythnos nesaf. Fe fydd CF99 yn cael hoe fach.

Fe fydd 'na ffilmiau'n ymddangos ar y blog dros y Sul. Dyma damaid bach i aros pryd. Mae WITBN, y gymdeithas ryngwladol sy'n cynrychioli darlledwyr mewn ieithoedd lleiafrifol (gan gynnwys S4C a Ö÷²¥´óÐã Alba) wedi lansio . Mae'r safle yn cynnig blas o gynnyrch nifer o'r sianelu yn eu plith Maori TV, NITV a Sianel Trigolion Brodorol Taiwan.


.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:02 ar 13 Chwefror 2009, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Rydych chi'n gofyn sut bydd stori sylwadau Patel yn datblygu. Wel, i ryw raddau, mae wedi datblygu eisoes gyda'r datganiad diangen isod gan Ieuan Wyn Jones:

    "This [matter] is now in the hands of the independent Commission for Equality and Human Rights and it will be a matter for the commission to decide whether or not to hold an investigation."

    Yn sicr, mae angen trafod y berthynas rhwng amlddiwylliannedd a'r iaith Gymraeg. Ond dwi'n amau ai corff fel y Comisiwn Cydraddoldeb a ddylai fod yn gyfrifol am hynny. Nid oes ganddo unrhyw arbenigedd ynghylch yr iaith Gymraeg, ac mae ei ddehongliad o amlddiwyllianedd yn debyg o fod yn un Prydeinig. Ymhlith pethau eraill, mae'n atebol i San Steffan ac nid i Gaerdydd - a hyn ar adeg pan for Llywodraeth y Cynulliad eisiau symud y cyfrifoldeb dros y Gymraeg o Lundain i Gaerdydd! Bu trafferthion mawr yn y gorffennol gyda'r hen Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn dehongli materion ieithyddol mewn modd hynod ansensitif. Yr enghraifft enwocaf ydy achos Bae Colwyn 1985 pan fu'r Comisiwn Hil yn cefnogi achos camwahaniaethu hiliol yn erbyn yr hen Gyngor Sir Gwynedd, am fod y cyngor hwnnw wedi gwneud y Gymraeg yn amod cyflogaeth mewn cartref henoed.

    Fel rhiant gyda phlentyn yn Ysgol Treganna, rwyf am i Ieuan Wyn Jones esbonio arwyddocad ei ddatganiad i'r wasg. Pam ei ryddhau o gwbl? Ydy o'n aberthu datblygiad addysg Gymraeg er mwyn cyfleustra gwleidyddol llywodraeth Llafur-Plaid y Cynulliad?

    Beth fydd yn digwydd os yw'r corff Prydeinig hwn yn llunio adroddiad gelyniaethus i'r Gymraeg? Ydy arweinydd Plaid Cymru bellach yn dweud na fydd hawl i blant dderbyn addysg Gymraeg mewn adeiladau addas pe bai rhyw gorff anetholedig o Lundain yn barnu fod hynny'n groes i "amrywiaeth"?

  • 2. Am 23:29 ar 13 Chwefror 2009, ysgrifennodd dewi:

    Dim fideo - ond mae'r New York Times wedi rhoi ei archifau ers achau ar
    y we. Hynod o ddiddorol archwilio "Welsh Language" - Mwynhewch !

  • 3. Am 16:12 ar 14 Chwefror 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ymddiheuriadau bod y sylw yma (ac eraill) yn hwyr yn ymddangos. Does na ddim system gymedrolu Gymraeg ganolog gan y Ö÷²¥´óÐã. Fi sy'n gwneud a dw i wedi bod i ffwrdd o'r cyfrifiadur. Os oes angen cysur mae'r system (neu ddiffyg system) yn golygu fy mod yn darllen pob post! Sori eto.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.