Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y 10 Uchaf- Maldwyn

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Yn ôl yn 1979 roedd Rhyddfrydwyr Maldwyn yn brysur iawn yn trefnu parti- gloddest i ddathlu eu canmlwyddiant fel deiliaid yr etholaeth. Roedd angen tipyn o waith i drefnu achlysur priodol a rhoddwyd y flaenoriaeth i hynny yn hytrach nac ymgyrchu etholiadol. Fel yn rhyw ddrama yn yr hen Roeg fe dilynnwyd hubris gan nemesis ac fe gollwyd y sedd i'r Ceidwadwyr.

Dysgodd y Rhyddfrydwyr eu gwers gan ennill y sedd yn ôl yn 1983 a'u dal hi byth ers hynny. Ac eithrio Ynysoedd Erch a Shetland, efallai, Maldwyn yw'r peth agosaf i gadarnle sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Does dim rhyfedd felly bod gwleidydd ifanc uchelgeisiol wedi ei dewis fel y lle delfrydol i lansio ei yrfa seneddol yn 1997. Record Lembit Opik ers hynny sy'n rhannol gyfrifol am wneud yr ornest ym Maldwyn mor ddiddorol.

Serch hynny, er cymaint troeon trwstan Lembit, y cyhoeddusrwydd ynghylch ei fywyd personol a steil ymgyrchu sy'n wrthyn i rai go brin y byddai'n wynebu unrhyw wir drafferth pe bai Glyn Davies heb golli ei sedd yn y cynulliad yn yr etholiad diwethaf. Lembit yn erbyn Glyn sy'n ddiddorol nid Lembit yn erbyn "pwy bynnag".

Yn fan hyn mae'n werth cofio ambell i beth. Faint bynnag o sylw y mae Lembit wedi ei dderbyn gan y cyfryngau dyw e ddim wedi gwneud unrhyw beth sy'n dod yn agos at fod yn ymddygiad anfoesol neu annerbyniol gan ddyn sengl. Ar y mwyaf ffolineb achlysurol yw'r cyhuddiad yn ei erbyn. Does dim awgrym chwaith ei fod wedi bod yn esgeuluso ei waith etholaethol wrth chwennych bywyd "seleb". Cofiwch hefyd bod pobol sy'n ymhél a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn tueddu hoffi Glyn. Mae'r gwrthwyneb yn wir am Lembit. Does dim sicrwydd o gwbwl bod etholwyr Maldwyn o'r un farn a'r gwleidyddion a sylwebyddion.

Yn ôl yn 1997, gyda llaw, Glyn oedd gwrthwynebydd Lembit yn ei etholiad cyntaf. Roedd hwnnw'n etholiad hunllefus i'r Ceidwadwyr, wrth reswm, ond mae'n werth nodi perfformiad y ddau ddyn bryd hynny.

Lembit Opik 14,647 ( 45.9%)
Glyn Davies 8,344 ( 26.1%)

Safodd Glyn ym Maldwyn yn etholiadau cynulliad 1999 a 2003. Dyw canlyniad yr ail o'r etholiadau hynny ddim yn awgrymmu ei fod wedi adeiladu pleidlais bersonol sylweddol.

Mick Bates 7869 (40.3%)
Glyn Davies 5572 (28.6%)

Mae'n bosib wrth gwrs bod yr etholwyr wedi ceisio sicrhai "dau aelod am bris un" gan wybod bod Glyn hefyd yn ymgeisydd rhestr ond dyw canlyniad 2003 ddim yn awgrymmu bod 'na don o gefnogaeth i'r Ceidwadwr.

Dyma un ystadegyn arall sef canlyniad etholiad cyffredinol 2005.

Dem. Rhydd. 15,419 (51.2%)
Ceidwadwyr 8,246 (27.4%)
Llafur 3,454 (11.5 %)
Plaid Cymru 2,078 (6.9%)
UKIP 900 (3.0%)

Mwyafrif 7,173 (28.3%)

Edrychwch ar faint y mynydd sy'n wynebu Glyn. Roedd pleidlais Lembit yn ddwbl y bleidlais Geidwadol. Yn fwy pwysig efallai enillodd dros hanner y pleidleisiau. Does dim modd i Glyn ennill trwy wasgu pleidiau eraill. Mae'n rhaid iddo ddarbwyllo miloedd o bobol wnaeth bleidleisio i Lembit yn 2005 i newid eu lliw.

Ac eithrio greddf felly pam bod rhai (a fi yn eu plith) yn amau y gallai hon fod yn agos?

Yn gyntaf mae 'na bosibilrwydd cryf y bydd na symudiad cyffredinol o'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r Torïaid yn yr etholiad nesaf. Yn ail fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill nifer o seddi ym Maldwyn yn yr etholiadau lleol llynedd. Doedd y blaid ddim wedi enwebu ymgeiswyr lleol yn yr etholaeth o'r blaen. Does dim modd mesur gogwydd felly ond gallai lleoliad y llwyddiannau hynny fod yn arwyddocaol. Enillodd y blaid seddi mewn wardiau Cymraeg eu hiaith ac yn y Drenewydd- llefydd sydd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol. Pe bai Glyn yn gallu ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg (roedd yn ddysgwr y flwyddyn, cofiwch) a chadw pethau'n agos yn nhref fwyaf yr etholaeth fe fyddai Lembit yn wynebu ffeit go iawn.

Ar ddiwedd y dydd dw i'n meddwl y bydd Glyn yn methu torri'r talcen ond fe fyddai'n gamgeriad i'r Democrataid Rhyddfrydol ddechrau trefni'r parti dathlu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:09 ar 12 Chwefror 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Hmm sgrifennu I'r Daily Sport,
    Cynnig trafod tranc y byd gyda Osama a hercian o gwmpas ar beirian rhyfedd.... Deg punt ar Glyn (a phump punt ar Heledd I ddod yn ail!)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.