Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Statto

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Llun, 22 Mehefin 2009

Yn sgil etholiadau Ewrop fe gyhoeddais i gyfres o erthyglau ynghylch cyflwr trefniadaeth y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'n bosib eu crynhoi mewn un gair- "kaput". Os oeddech chi i ffwrdd o'ch cyfrifiadur dyma nhw; Rhowch i mi'r hen ffordd Gymreig..., Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr, Dinas.

Fe brofodd rhain yn bur ddylanwadol. Does braidd neb wedi anghytuno a'r dadansoddiad. Fe wnaeth gyrraedd casgliadau digon tebyg yn y Western Mail ac mae wedi cydnabod maint y broblem.

Nawr dyma i chi ambell i ffaith fach ddiddorol. Mae pleidiau lleol yn gorfod cyhoeddi eu cyfrifon ar wefan y (PDF) os ydy eu hincwm neu wariant yn fwy na £25,000 y flwyddyn. Sut mae'r pleidiau'n gwneud, tybed?

Fel y byddai dyn yn disgwyl mae'r Ceidwadwyr yn morio mewn pres ar hyn o bryd gyda deg pwyllgor etholaeth yn gorfod cyhoeddi cyfrifon sef Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caedydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Clwyd, Delyn, Maldwyn, Mynwy a Phreseli Penfro. Yr unig sioc ar y rhestr yw Gorllewin Caerdydd. Mae honno yn un i wylio, efallai. Rwy'n synnu braidd hefyd nad yw Conwy/Aberconwy wedi cyrraedd y trothwy. Fe gawn weld os ydy hynny'n arwyddocaol.

Mae pump o bwyllgorau rhanbarth Plaid Cymru ar y gofrestr sef Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn.

Mae'n ddiddorol nodi bod Plaid Cymru wedi cyrraedd y trothwy yng Ngheredigion a bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu gwneud. Dwy o'u pleidiau lleol nhw sydd ar y rhestr, Brycheiniog a Maesyfed a Chanol Caerdydd. Fe ddylai Maldwyn fod yna hefyd ond fe wnaeth y trysorydd lleol gamddeall y rheolau. Ar ôl i fi dynnu eu sylw at y ffaith mae swyddogion y blaid wedi syrthio ar eu bai ac yn cymryd camau i ddatrys y broblem.

Dyma ni'n cyrraedd y "punch line". Faint o bwyllgorau etholaeth y Blaid Lafur wnaeth godi neu wario £25,000 yn 2008, tybed? Tri. Union yr un nifer a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma nhw; Gwyr, Gorllewin Abertawe a'r Rhondda.

Nawr mewn rhai o'r achosion yma (gan gynnwys y cyfan o'r rhai Llafur) mae'r trothwy ond wedi ei gyrraedd oherwydd rhent swyddfa gan AC neu AS ond mae rhai o'r ystadegau lleol yn ysgytwol. 271 aelod sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd ond yn 2008 trwy roddion yn unig fe dderbyniodd y blaid leol £42,755. Yn Arfon mae gan Blaid Cymru dros £120,000 yn y banc. Arian parod yw hynny, dyw'r swm ddim yn cynnwys gwerth asedau eraill megis adeiladau.

Nawr cofiwch hyn. Roedd Llafur yn dal sedd seneddol Canol Caerdydd tan yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd y blaid yn chwennych Arfon yn sgil ad-drefnu'r ffiniau. Dyw hi ddim hyd yn oed mewn sefyllfa i gystadlu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:00 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Mae hynny'n anhygoel - tra nad yw'n syndod bob y Ceidwadwyr yn boddi mewn arian ar hyn o bryd, mae'n dweud cymaint nad ydi Llafur yn gallu cystadlu hyd yn oed â Phlaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Y peth trist o safbwynt y blaid Lafur, mi dybiaf, ydi nad oes yno ateb pendant ynghylch sut i fynd i'r afael â'r broblem.

  • 2. Am 14:10 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Meurig:

    Diddorol nodi nad yw Lib Dems Ceredigion bellach yn cyrraedd y trothwy. O edrych yn ol trwy'r blynyddoedd cynt, maent wedi gwneud hynny oherwydd 'head office election grants' go sylweddol.

  • 3. Am 15:01 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Rhyfedd i ddarllen adroddiad PC Arfon yn cyfeirio at "Caernarvon (sic) Office"

  • 4. Am 15:38 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Doeddwn i ddim wedi sylwi ar hynny. Fe fydd H. R. Jones yn troi yn ei fedd!

  • 5. Am 17:28 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Paul Rowlinson:

    Gwnaeth Plaid Cymru gyflwyno cyfrifon ar gyfer Etholaeth Arfon yn Gymraeg yn unig. Y Comisiwn Etholiad sydd wedi'u cyfieithu ac sy'n gyfrifol am y "Caernarvon office". Maent hefyd yn cyfeirio at yr hen etholaethau sy'n ffurfio'r etholaeth newydd fel "Caernarvon" a "Conway".

    Diolch am dynnu sylw at hyn - mae cwyn ar y ffordd i'r Comisiwn Etholiadol yn awr.

    Os edrychwch ar gyfrifon Plaid Cymru ar gyfer Rhanbarth y Gogledd (2007), mae'r rhain yn dal yn y Gymraeg wreiddiol.

  • 6. Am 17:47 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am yr esboniad, Paul. Caiff H.R fynd yn ôl i'w drwmgwsg!

  • 7. Am 21:54 ar 22 Mehefin 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Hmm - diddorol iawn - mae gan Blaid Cymru bron gymaint o aelodau yn nhref Caernarfon na sydd gan y Lib Dems yng Nghanol Caerdydd i gyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.