Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ailgylchu - Tachwedd 2007

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Rwyf ar wyliau ar hyn o bryd ond fe fydd ambell i beth yn ymddangos ar y blog ac mae'r sylwadau ar agor. Dyma bost gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn Nhachwedd 2007.

david_blunkett400.jpgTyngu Llw

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i fi ac nid dim ond oherwydd bod hi'n ddiwrnod CF99! Y bore 'ma derbyniodd fy mhartner ddinasyddiaeth Brydeinig mewn seremoni yn y TÅ· Mansiwn yng Nghaerdydd.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o sinig pan gyhoeddodd David Blunkett y bwriad i gynnal y seremonïau yma. Roedd hi'n ymddangos yn un o'r gimics hynny yr oedd y cyn Ysgrifennydd Cartref mor hoff ohonyn nhw. Dyma oedd ei esboniad ef ar y pryd.

"We should value, promote and give real content to the acquisition to British nationality and the process of integration... becoming a British passport holder will not just be a piece of paper arriving in a brown envelope alongside the gas bill"

Dw i dal yn amheus o'r rhesymeg. Cyn gwneud cais am ddinasyddiaeth mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod a'r hawl i breswylio'n barhaol ym Mhrydain. Dyw cymryd y cam olaf yn ychwanegu fawr ddim at hawliau'r unigolyn ac eithrio pasbort porffor a'r hawl i fwrw pleidlais. Mae 'na ddadl gref felly bod eu parodrwydd i dalu chwe chan punt a llenwi llwyth o ffurflenni ychwanegol i sicrhau dinasyddiaeth lawn yn brawf ynddi ei hun o ymroddiad yr ymgeiswyr i'w gwlad newydd.

Serch hynny, ar ôl mynychu'r seremoni'r bore 'ma dw i'n meddwl bod y defodau yma yn bethau rhagorol- ond nid am y rhesymau a gynigiwyd gan David Blunkett. Yr hyn sydd wedi newid fy meddwl yw gweld cymaint y mae'r seremonïau'n golygu i'r bodol sy'n cymryd rhan.

Rhyw hanner cant o ddinasyddion newydd oedd yn cael eu croesawi gan Arglwydd Raglaw ac Arglwydd Faer Caerdydd heddiw, y mwyafrif llethol ohonynt o wledydd y Gymanwlad yn Affrica a De Asia yn ogystal â llond dwrn o Awstralia a Seland Newydd. Ar ôl canu (neu wrando ar) "Hen Wlad fyn Nhadau" a thyngu llw i'r Frenhines galwyd pawb i fyny fesul un neu fesul teulu i dderbyn tystysgrif swyddogol y Swyddfa Gartref a thystysgrif o groeso gan Gyngor Caerdydd.

Roedd 'na ddigonedd o wenu o glust i glust, ambell i ddeigryn a theimlad anhygoel o falchder. Wedi'r cyfan nid newydd-ddyfodiaid i Brydain oedd y bobol yma ond pobol sydd wedi treulio rhwng saith a deng mlynedd ar gyfartaledd yn llenwi ffurflenni, yn gwneud ceisiadau di-ri am visas ac estyniadau ac yn cadw biliau trydan a llythyrau gan y banc yn unswydd er mwyn profi eu hachos.

Dwi'n meddwl bod ymateb y dinasyddion newydd yn ddigon o gyfiawnhad dros y seremonïau newydd. Ydyn nhw'n debyg o fagu teimlad o berthyn a dinasyddiaeth ymhlith plant ac wyrion y mewnfudwyr? Wedi'r cyfan yn a'r ail a'r drydedd genhedlaeth y mae'r broblem mewn rhai cymunedau. Dyn a ŵyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:14 ar 17 Awst 2009, ysgrifennodd Dylan Llyr:

    Fedra i weld sut all bod yn rhan o seremoni fawreddog a therfynol roi rhyddhad enfawr i'r sawl sydd 'di slafio ers blynyddoedd yn llenwi ffurflenni i mewn. Mae dal rhywbeth am yr holl beth sy'n methu taro deuddeg, fodd bynnag.

    Ydi tyngu llw i Mrs Windsor yn gwbl ofynnol felly? Pe gwrthodir, ni cheir y fraint o ddod yn Brydeiniwr llawn? Dydw i erioed wedi gorfod gwneud, wedi'r cwbl.

  • 2. Am 13:25 ar 17 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae llw/addewid yn rhan o'r seremoni ond mae'n cael ei adrodd ar y cyd nid fesul unigolyn. Fe wnes i sylwi bod ambell un wedi dewis dweud dim ystod y rhan yna o'r seremoni,

  • 3. Am 02:36 ar 18 Awst 2009, ysgrifennodd Carwyn Edwards:

    Mae y seromoni yn poblogaidd iawn yma yn yr UDA a dyma enghraifft arall o Prydain dilyn yr Yanks!!! Sut mae fod yn Ffrancwr neu Almaenwr wn i ddim!!!
    O gwmpas $500 mae'n costio i fod yn dinesydd yma!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.