Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wrth ein gwendid, trugarha...

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Sul, 16 Awst 2009

crwys.jpgDydw i ddim, gan amlaf, yn sgwennu rhyw lawer am grefydd. Blog gwleidyddol yw hwn i fod, wedi'r cyfan. Ond gan fod hi'n ddydd Sul a chan fod Ramadan yn cychwyn ymhen ychydig ddyddiau mae heddiw yn eithriad.

Mewn gwirionedd dwy stori papur newydd sydd wedi ysbrydoli'r post bach yma. Mae un yn esiampl o grefydd ar ei gwaetha a'r llall yn esiampl o newyddiadura sâl ac anghyfrifol.

O'r "New York Times" y daw'r ynghylch pregethwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n pregethu "efengyl llewyrch". Yn y bôn gellir crynhoi'r "diwinyddiaeth" yma fel " rhowch eich arian i ni ac fe fydd Duw yn eich gwobrwyo". Mae'r erthygl yn werth ei darllen yn ei chyfanrwydd ond mae stori un teulu yn sefyll mas;

"Stephen Biellier... said he and his wife, Millie, came to the convention praying that this would be "the overcoming year." They are $102,000 in debt, and the bank has cut off their credit line... The Bielliers were at the convention a few years ago when a supporter made a pitch for people to join an "Elite CX Team" to raise money to buy the ministry a Citation X airplane... At that moment, Mrs. Biellier said she heard the voice of the Holy Spirit telling her, "You were born to support this man." She gave $2,000 for the plane, and recently sent $1,800 for the team's latest project: buying high-definition television equipment..."

Does dim angen ychwanegu llawer. Dim ond gofyn p'un ai crafu pen ai codi cyfog yw'r ymateb priodol.

Daw'r ail stori o'r " am fe ddylid ei ffeilio o dan "bwganod, codi". "Stori" yw hon am byllau nofio cyhoeddus yn gosod rheolau gweddustra ynghylch gwisgoedd nofio mewn sesiynau wedi eu hanelu at Fwslimiaid. Fel arfer mae ambell i wleidydd yn ddigon parod i gamu mewn a dweud ei dweud. Dyma'r aelod seneddol Llafur, Ian Cawsey;

"I don't think that in a local authority pool I should have to wear a particular type of clothes for the benefit of someone else. That's not integration or cohesion."

A dyma aelod Llafur arall Anne Cryer;

"Unfortunately this kind of thing has a negative impact on community relations. It's seen as yet another demand for special treatment"

Nawr, mae Anne Cryer wedi gwneud safiadau dewr ynghylch nifer o bynciau anodd yn ymwneud ac Islam ym Mhrydain ond dwi'n amheus a oedd hi wedi darllen stori'r Telegraph cyn gwneud ei sylw.

Y rheswm am hynny yw hyn. Os ydych chi'n darllen y stori yn ofalus mae bron pob un o'r sesiynau y mae'r papur yn cyfeirio atyn nhw wedi eu trefnu gan unigolion neu gymdeithasau sydd wedi llogi 'r pwll am gyfnod penodol. Hynny yw dydyn nhw'n ddim byd gwahanol i sesiynau gan y sgowtiaid, yr Urdd neu, am wn i, noethlymunwyr lle mae'r rheiny sydd wedi llogi'r pwll yn gosod eu rheolau eu hun.

Ar gyfnod lle mae mudiadau fel yr "English and Welsh Defense League" a "Casuals United" (mudiadau sydd â yn anffodus) yn ceisio tanio protestiadau yn erbyn Mwslimiaid mae'r fath yma o newyddiadura yn anffodus a dweud y lleiaf.

Credwch neu beidio mae gan newyddiadurwyr . Mae cymal dau yn dweud y dylai cynnwys bob erthygl fod yn gywir ac yn deg. Mae cymal deg yn ychwanegu na ddylid cyhoeddi deunydd sydd yn debyg o arwain at gasineb at unigolion a grwpiau. Ydy golygydd y Telegraph wedi ei ddarllen, tybed?

Hen adeilad Eglwys y Crwys, Caerdydd, sydd bellach yn fosg sydd yn y llun.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:06 ar 16 Awst 2009, ysgrifennodd ceri jones:

    Own i'n gwrando ar Steve Allen ar LBC y bora ma. Odd e'n siarad am y peth 'ma biti cal llefydd nofio ar wahan i fwslemiaid. Cyflwynydd radio poblogaidd iawn yw e yn Llundain ac un sy'n lico codi gwrychyn. Ma'n foi difyr a doniol fel arfer ond yn anffodus, odd ynta'n gweud yr un peth ag Anne Cryer ac yn anffodus doedd e ddim yn herio neb odd yn credu geirwiredd y Daily Telegraph.

    www.lbc.co.uk/steve-allen-3528

  • 2. Am 20:12 ar 18 Awst 2009, ysgrifennodd D Thomas:

    Gan ein bod yn son am grefydd.....mae hwn yn amserol iawn ac....fel y stori uchod....yn gyfoglyd.

  • 3. Am 20:22 ar 18 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diolch am honna. Rwy'n gobeithio nad oedd unrhyw un yn meddwl fy mod yn pigo ar Gristnogaeth yn y post nac yn dyrchafu Islam. Nid dyna oedd fy mwriad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.