Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 23:43, Dydd Llun, 14 Medi 2009

flatholm.jpg

1.Mae 'na ar Freedom Central gan Jeremy Townsend yn tynnu sylw at y nifer o weithiau yr oedd areithwyr yng nghynhadledd Plaid Cymru yn ymosod ar Lundain neu ar "lywodraeth Llundain".

Mae Jeremy yn ceisio dyfalu pam y mae aelodau Plaid a chymaint o "downer" ar y ddinas. Ar ôl eu gwylio yn Llandudno mae gen i esboniad syml. Pris y cwrw. Gwell llaeth Cymru...


2.Fe wnes i fethu "twitro" o Landudno. Dyw Wi-Fi Venue Cymru ddim yn sbesial a dydw i ddim wedi gweithio allan sut mae postio dros y ffôn eto. Dydw i ddim yn gallu penderfynu p'un ai ydw i'n hoff o "Twitter" ai peidio. Mae 'na shwt beth â gormod o wybodaeth. Y post yma gan Darren Millar, er enghraifft ;

"Just in from speaking engagement. Sausage rolls from buffet at the event are repeating on me..."

Dylai Darran fod yn ofalus. Mae sylwadau fel 'na yn gallu gadael oglau drwg ar eu hôl! I ddyfynnu David Cameron arweinydd ei blaid "The trouble with Twitter, the instantness of it - too many twits might make a t***."

3.Gan ei bod hi'n wythnos olaf Ramadan fe wnes i sicrhau bod ein goleuadau Eid ul-Fitr yn gweithio neithiwr. Mewn gwirionedd yr un goleuadau sy'n mynd ar y golfen Nadolig. Ydy hynny'n golygu fy mod yn ôl-grefyddol neu'n or-grefyddol?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:56 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd Padrig:

    Sôn am fod yn ôl-grefyddol neu'n or-grefyddol - da oedd gweld "Halal Turkeys" yn cael eu gwerthu mewn siop bwtshars yn Grangetown amser Dolig.

  • 2. Am 17:29 ar 15 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe nes i weld yr arwydd yna hefyd (yn Pak Butchers dw i'n meddwl). Briliant!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.